Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwagedd

gwagedd

Mae Meini Gwagedd yn gampwaith, lle mae'r awdur wedi dod o hyd i gyfrwng hollol addas i fynegi gweledigaeth gymhleth o sefyllfa dyn.

Gwirionedd y dychymyg a geir ym Meini Gwagedd.

Gwagedd o wagedd.

'Y mae Meini Gwagedd y ddrama fwyaf arwyddocaol a ysgrifennwyd yn y Gymraeg hyd yn hyn,' meddai D.

Erbyn iddo gyfansoddi Meini Gwagedd, ac yntau yn ei weithiau diweddarach wedi pwysleisio gallu'r ewyllys ddynol, roedd wedi dechrau gweld mai hanfod bywyd yw'r ffordd y mae'r elfennau gwahanol wedi'u cyd-wau ynddo.

Eto gellid gorbwysleisio dyled y llenor o Gardi i'r Americanwr, y mae'n debyg, am fod ysbrydion Meini Gwagedd yn codi'n hollol naturiol o darth y Gors fel yr oedd Kitchener yn ei chofio.

Agorir y llenni yn nechrau Meini Gwagedd ar gegin yr hen dyddyn adfeiliedig ar Noson Gŵyl Fihangel, 'yn unrhyw un o flynyddoedd y ganrif hon'.

Hanes chwerw a adroddir ym Meini Gwagedd - hanes dau deulu sydd wedi colli corff ac enaid yn y frwydr ddiddiwedd yn erbyn eu hamgylchfyd.

Nid oedd cymeriadau Meini Gwagedd wedi bod yn ymwybodol o'r sefyllfa tra oeddent yn fyw.

Yr elfen bwysicaf ym Meini Gwagedd yw realistiaeth y portread o fywyd cefn gwlad ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon.

Dengys cymeriadau Meini Gwagedd ymwybyddiaeth debyg ac y mae Kitchener yn dilyn Eliot yn y ffordd y mae'n pwysleisio'r berthynas rhwng agweddau gwrthdrawiadol bywyd.

Cyfyd holl ystumiau cymeriadau Meini Gwagedd, eu dicter, eu chwerwder, eu hachwyn di-ben-draw, yn sgil eu hanfodlonrwydd i dderbyn y ffaith mai hwy sydd yn creu eu hamgylchiadau.