Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwagle

gwagle

Eto byddai'n pwyso'n wahanol hanner ffordd i fyny'r Wyddfa, ac yn pwyso dim yn y gwagle.

Ar ddiwedd y gêm nid oes un gair yn sefyll yn ddigyswllt mewn gwagle.

Gwelwn felly fod gwagle ar hyn o bryd - diffyg arweiniad a diffyg dychymyg o ran dyfodol ysgolion gwledig.

Ond rhaid cofio nad yw'r Gymdeithas erioed wedi bodoli mewn gwagle ac mai cryfder, nid gwendid, yw'r gallu i newid i wynebu amgylchiadau newydd.

Canlyniad creu'r gwagle oedd bod yn rhaid ei lenwi, ac yr oedd y deunydd ar gael yn hwylus yn yr hen fisitors annwyl yr oedd cymaint o drigolion y Pen wedi mynd i fyw i'r sied i wneud lle iddynt yn ystod misoedd yr haf er dechrau'r ganrif.

Gadawodd Edward wrth y bwrdd yn rhythu i'r gwagle a adawodd ar ei ôl yn y gegin.

Ni ellir felly sicrhau dyfodol y Gymraeg mewn gwagle: rhaid wrth ymdriniaeth fydd yn creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd cywir, a hynny yng nghyd-destun cymunedau cryf. 02.

Nid yw iaith yn bodoli mewn gwagle, felly mae unrhyw benderfyniadau neu bolisi%au a wneid yn y meysydd allweddol hyn yn effeithio ar ddyfodol y Gymraeg ac yn fwy na dim byd arall ar fywyd pob dydd pobl ifainc yr ardal.