Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwahanu

gwahanu

Y Beatles yn gwahanu.

Gorchmynnodd y gard ni i ddidoli'r defnyddiau oedd yn yr hen domen: rhoi haearn ar un ochr y coed ar yr ochr arall, hen deiars ceir wedyn, a pharhau i'w gwahanu felly.

Mae hynny mor ffôl â phetaem yn edrych ar seithliw'r enfys ar ôl i'r prism eu gwahanu a chyhoeddi mai'r lliw hanfodol, gwreiddyn y lliwiau eraill, yw'r lliw glas.

Phillips ohono yn iawn: y mae'r seler yn cyfateb i Uffern yn Saer Doliau; y mae lleoliad Y Ffin mewn cwt sy'n gallu gweld yr eglwys yn arwydd o bellter y bobl o'r ysbrydol; y mae'r Tŵr yn dangos gwacter ystyr a ddaw i bobl sydd wedi eu gwahanu'n llwyr o'r ysbrydol.

Dylid osgoi gwahanu mamau a'u plant.

Dychwelodd, gan weiddi dros y ffens oedd yn ein gwahanu fod yr awdurdodau'n mynnu tâl o gan doler cyn caniatŠu iddi groesi.

Gwyddwn wrth edrych i'w lygaid nerfus-galed fod mwy na lled y dref yn ein gwahanu.

Yn aml iawn, caiff pobl eu gwahanu oddi wrth lawer o ffynonellau gwybodaeth a chyngor y mae'r gweddill ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.

Mae'n rhaid i'r iaith ddod â phobl at ei gilydd, yn hytrach na'u gwahanu; dylai hi gael ei hystyried fel rhywbeth i ymfalchïo ynddi a'i defnyddio, nid fel niwsans neu fygythiad.

Ymddangosant yno gyda'i gilydd, ochr yn ochr, mor anorfod â phetasent yn efeilliaid Siamaidd, er bod lled y wlad wedi'u gwahanu erioed.

Arwynebol yw'r gwahanu rhwng cenedlaetholdebau gwleidyddol a diwylliannol, a nai%f dros ben yw'r cynllun 'uno gwladwriaethau' ar batrwm 'delfrydol' yr Alban a Lloegr.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

'Roedd Rhian yn casįu Emma oherwydd y cyhuddiad yn erbyn Reg ond buan y daeth y ddwy'n ffrindiau wrth iddynt geisio gwahanu Reg a Diane.

Pe ai'r ddwy gneuen i wahanol gyfeiriadau ar adegau gwahanol gwahanu fyddai ffawd y cariadon.

Trychfilyn yw hwn sydd yn ymosod ar unigolion a chanddynt gyfundrefn imwn ddiffygiol, megis cleifion sy'n dioddef o lewcemia neu sydd wedi derbyn triniaeth sy'n gwahanu'r gyfundrefn imwn, er enghraifft, triniaeth â steroidau neu belydr-X.

Rhoddwyd Mrs Parker, a oedd wedi cael ei gwahanu oddi wrth ei merch yn y panig, ar dynfad arall.

Yr oedd yr hen Ymwahanwyr - pobl Robert Browne a Henry Barrow, y bobl yr ymunodd John Penry â hwy - wedi codi cloddiau pur uchel i'w gwahanu eu hunain oddi wrth bawb arall.

Sgwrs a hwyl dros bryd o fwyd cyn gwahanu bawb i'w ffordd ei hun - rhai yn gyplau.

Dyna fater llyfr J R Jones, Prydeindod; a'r llyfr hwnnw a'i ddarlith ef, A Raid i'r Iaith ein Gwahanu yw Dail Sibul ein tynged ni a thynged ein hiaith.

'Yn America heno, mae'r bobol dduon yn griddfan dan y deddfau gwahanu; ac yn Ne Affrica heno; ac yn Kenya heno; ac yn Nigeria heno.