Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwan

gwan

Fel ym mhob brwydr, rhaid i'r cadfridog doeth ymosod ac amddiffyn yn dactegol, a rhaid iddo drefnu ei fyddin yn y fath fodd, fel bod ei filwyr yn ymosod ar y mannau gwan yn amddiffynfa'r gelyn.

Roedd hi'n blino'n hawdd y dyddiau yma ac yn teiml;o'n lluddedig a gwan gan nad oedd hi'n gallu bwyta fawr ddim.

Mae'n hollol wahanol i Fatholwch gwan ac anffyddlon.

Teimlais wedi darllen The Ascent of Everest y gallasai'r cyfeiriadau at fwyd yn hwnnw fod yn help i ddyn gwan ei stumog i adfeddiannu ei archwaeth.

Digon o chwiorydd gwan i'w cynnal a'u cysuro!

Mae nofel olaf Hiraethog yn gymysgedd ryfedd o'r hen a'r newydd, y cryf a'r gwan.

Mae canhwyllau eu llygaid yn fawr, a medrant weld yn dda mewn golau gwan.

'Dydi byd gwan ar griadur tlawd ddim yn ddigon..." "Nag ydi.

Dyden ni ddim eisiau rhyw bansi gwan a thila ac ofnus yn y criw yma, wyt ti'n deall?

Yn y golau gwan gwelodd fod y lle-tân, a oedd yn daclus gyda phapur a choed yn barod i'w cynnau, yn llawn lludw.

Cre%odd y plygiadau wendidau yn y creigia ac mae'r môr wedi manteisio ar mannau gwan yma i greu y baeau a'r cilfachau o gwmpas y Fro.

'Roedd y gêm yn erbyn Llanelli ychydig bach yn anffodus - o'dd y ddau dîm yn eitha gwan.

Y mae'n wir y gall ffurfio bond siliconsilicon, ond bond gwan ydyw ac os ffurfir cadwyni hirion o silicon, oes fer sydd iddynt.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gŵr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Dyma ein galaeth ni, a'r hyn a welwn yw'r miloedd o ser gwan sy'n ffurfio disg yr alaeth.

Pan ddatblygwyd ffotograffiaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd seryddion fodd i gymryd lluniau hir o ddelweddau gwan iawn, a darganfuwyd nifer o bethau newydd oherwydd y datblygiad hwn.

Roedd golau gwan y lleuad yn help iddynt weld ei amlinell fel y safai am ennyd yn y fynedfa cyn camu i mewn rhwng y muriau.

Rydyn ni'n dysgu trwy gasglu'r negeseuon gwan, nid dim ond negeseuon y goleuni y gallwn ei weld, ond hefyd allyriadau eraill megis uwchfioled, pelydrau-X, golau isgoch a thonnau radio.

Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.

Dilyniant gwan ac arwynebol yw'r dilyniant buddugol.

Mae unrhyw genedl sy'n trin y gwan a'r diamddiffyn yn y modd y triniwyd yr Ogoni gan Nigeria yn colli'r hawl i annibyniaeth a rhyddid rhag dylanwadau o'r tu allan.

Llonnwyd calonnau'r rhai a gredai wrth feddwl bod gobaith am ryw gysgod gwan o deyrnas nefoedd ar y ddaear gyda buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gwr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Peniad gwan Scott Young yn ôl i'w golwr a Stephan Lemarchand yn sgorio.

i ofalu eu bod yn diogelu'r llinell fain, frau, a gwan i'r golwg, sy'n gwahanu amddiffyniad oddi wrth drais, a'u rhybuddio mai gwladgarwyr ac arwyr ydynt tra byddont ar y naill ochr i'r llinell ond eu bod yn troi'n llofruddion unwaith yr ânt drosti i'r ochr arall ?

Er iddi ddechrau'r erthygl yn ddigon petrus gan ddweud mai ar funud gwan y cytunodd i'w hysgrifennu, yr un yw'r nodweddion.

Roedd y gred yn bodoli adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, hwyrach am fod yr amser roedd yn ei gymryd i gynnau'r drydydd sigare/ t yn rhoi digon o gyfle i'r gelyn fedru saethu at y golau gwan yn y tywyllwch.

Gwelsoch sut y mae symudiadau gwan yn yr 'Agoriad' yn arwain i ddiwedd sydyn ar y gêm.

Mynd am y mannau gwan bob tro.' Arswydodd Dei wrth feddwl am y peth.

Rwyt yn llwyddo i ddal dy afael ac yn y golau gwan gweli nad yw'r bleiddiaid i'w gweld yn unman.

Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.

Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.