Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwarchodwyr

gwarchodwyr

Yn yr academi hon y cafodd gwarchodwyr personol Gadaffi eu hyfforddi.

'Rai blynyddoedd yn ôl,' meddai Jonathan, 'bu rhaid inni roi ein holl lyfrau i'r Gwarchodwyr.

Yn Ciwba, fe fuon ni'n ffodus i gael Rafael, pennaeth gwarchodwyr Havana.

Y Gwarchodwyr yw'r unig rai sydd yn gwybod beth sy'n digwydd yn y byd, ac yn cadw cyfrinachau technoleg.

Trodd y gwarchodwr ei ben yn syth a chododd ei wn i'w ysgwydd gan roi rhybudd dros y radio yn ei helmed i'r gwarchodwyr eraill.

Daeth Bedwin ar gefn camel i'r gwersyll un prynhawn mewn brys gwyllt i ddweud bod patrol yn symud yng nghyfeiriad gwarchodwyr y criw, a'i fod wedi aros, am y noswaith mae'n debyg, rai milltiroedd i ffwrdd.

Newidiwyd ein gwarchodwyr, a phrin y gellir dweud bod y rhai newydd yn gleniach na'r hen rai.

'Mae un coleg wedi'i droi'n ganolfan weinyddol i'r Gwarchodwyr a'r llall yn ganolfan addysg i rai dethol a fydd yn do arall o Warchodwyr.' 'Ond beth am y colegau eraill?'

Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.

Digwyddiad cyffredin oedd gweld un o'r gwarchodwyr Koreaidd yn anghydweld â'r Nipon y gweithiai iddo.

Dim villa wedi ei warchod â thrydan, dim gwarchodwyr a chþn Alsatian, dim ceir cyflym, dim chauffeurs, dim tâl a gwasanaeth gan y cynorthwywyr enwog pwerus, gan y gwasanaethau cudd, y llywodraethau militaraidd, y mudiad ODESSA - dim o'r dwli papur newydd hwn.

Roeddynt yn well eu byd yn awr, gyda'r Gwarchodwyr i ofalu am bopeth.

Ffordd y Gwarchodwyr o gadw'r bobl mewn gwaith ac yn ddifyr.

O ganlyniad, roedd y gwarchodwyr bondigrybwyll yn synhwyro ein bod yn fwy agored ac yn llai rhagfarnllyd.

Pan ddaeth Therosina i'r ystafell lle'r oedd y gwarchodwyr wedi gadael Meic, roedd hi'n wên deg i gyd.