Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwared

gwared

Rown i'n meddwl y bydde hi'n newid trefn nifer o bethe - o leia yn cael gwared ar gader Madog - ond na, roedd hi am adel popeth fel yr oedden nhw, am y tro.

Byddai pawb yn derbyn y cynnydd yma a'r arian ar gael drwy gael gwared ar £2bn o fudd-daliadau sy'n cael eu targedu gan Lafur tuag at y pensiynwyr tlotaf.

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

Fe aethon nhw ati i ddinistrio pob agwedd o'r ugeinfed ganrif yn enw'r chwyldro, gan gynnwys cael gwared ar grefydd, arian a chysylltiadau teuluol.

Y Fari Lwyd oedd ein ceffyl ni, - digon dychrynllyd i gael gwared ag unrhyw ysbryd aflan (Gweler The Hobby Horse and other Animal Masks - Violet Alford.) Dawns y Glocsen wrth gwrs yw'r unig draddodiad dawnsio di-dor sydd gennym yng Nghymru.

Nid oedd y coed fythwyrdd i ddod i mewn i'r tŷ ar unrhyw gyfrif cyn Noswyl Nadolig, ac nid oedd neb i gael gwared ohonynt cyn Nos Ystwyll.

Esboniodd un gŵr wrthym dros ginio mai'r Iddewon oedd yn gyfrifol am gael gwared ohono o'i swydd.

A gwared ninnau rhag bod yn gwta ein haelioni pan ofynnir inni gyfrannu at y gwaith hwn.

Ni all anifail tir gael gwared ag amonia fel hyn yn barhaus; rhaid iddo yn gyntaf drosi'r nwy i rywbeth arall nad yw'n wenwynig, megis wrea a ysgerthir trwy'r arennau.

'Fedri di ddim awgrymu rhyw gynllun i mi gael gwared â hi?

Yn lle taflu cynnwys y bagiau, ar ôl cael gwared o'r planhigion a'u gwreiddiau, ei storio ar gyfer ei ddefnyddio fel mawn cyffredin wrth gymysgu compost.

.' (neu 'ffisig coch', 'ffisig gwyrdd' neu 'ffisig du', yn ôl y galw.) Un gaeaf pan oeddwn yn llanc, o fethu â chael gwared â pheswch go gyndyn, nid oedd dim amdani ond galw yn Llys Meddyg i ddweud fy nghwyn.

Nid yw'r bardd yn awyddus i Ddwynwen gael gwared ar ei deimladau trachwantus.

Roedd hwn yn berfformiad ofnadwy oedd yn sgrechian am ronyn o aeddfedrwydd a safon i gael gwared ar dîm ddylse fod wedi cael coten.

Gwrthgiliodd gofalwr arwyddion o'i safle yn y blwch gorllewinol, er llawenydd i'r dyrfa, ond rhaid oedd defnyddio dulliau cryfach i gael gwared ar y gofalwr o brif flwch yr orsaf.

Bydd y cynllun hwn yn cael gwared o'r gornel lle mae'r ffyrdd yn troi am Foel Famau a Chilcain a bydd yn bosibl gweld y drafnidiaeth o'r ddwy ochr yn well.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Lloyd George yn galw am gael gwared a phwer Ty'r Arglwyddi.

Tynnodd y ddau grys ohono'n ofalus a'u cadw yn y cwpwrdd dillad i gael gwared a'r plygion.

Wrth weld unrhyw fargen, dylem fod yn ceisio dyfalu pam tybed fod y gwerthwr mor awyddus i gael gwared a'r garafan os yw hi mewn cystal cyflwr ac y mynn ei bod.

Gewch chi ddim gwared ohonom ni ar chwarae bach.

'Bydd yn cymryd sawl mis i gael gwared â'r dica/ u,' meddai Erika.

A chyda threiglad y blynyddoedd, onid oes posiblrwydd gwirioneddol inni ein cael ein hunain mewn cymdeithas a fydd yn gweld hyn fel ffordd i gael gwared â hen bobl sâl?

Fedrai geiriau ddim cael gwared o'r blerwch.

Yr oedd hynny'n gamp nid bychan, ac yn golygu cael gwared a'r rhagfarnau sydd gan lawer o'r gynulleidfa Gymraeg ynglŷn a'r cyfnod a ddarlunnir.

'I ddod i weld eich nain.' Llifodd y geiriau allan yn un bwrlwm nerfus, ac roedd o fel pe bai'n falch o gael gwared ohonyn nhw.

Byddai'r Torïaid yn cael gwared â gimics" y llywodraeth, fel arian tuag at danwydd y gaeaf, trwyddedau teledu am ddim a'r bonws Nadolig.

Unwaith i chi gael eich effeithio gan hyn allwch chi ddim cael gwared ar y salwch.

Yn y diwedd llwyddodd i gael llythyr allan i'w ffrindiau yn Rhydychen gan ofyn iddynt drefnu 'coup' i gael gwared ar ei dad Trefnwyd a chyflawnwyd hynny yn fuan iawn, a dyna sut y daeth y Swltan Quaboos yn rheolwr.

A gobeithio y byddaf innau wedi medru cael gwared ag o leiaf olwyn yrru un o'r bwsiau deulawr 'na erbyn hynny!

Maen nhw'n gallu clywed pob smic a does wiw dweud gair cas amdanyn nhw heb sôn am drafod sut i gael gwared â nhw.

Gwyddai Ynot Benn a Dik Siw yn dda y byddai'n ben ar wynwyn yn N'Og unwaith y ceid gwared a'r Lotments.

Roedd am gael gwared arno fe fel y gallai fynd gyda'r twmffat hunanbwysig yna.

Er mwyn cael gwared â nhw, smalia fod yn gyfeillgar tuag atyn nhw am unwaith." "Ac rydw i fod i roi'r cawl iddyn nhw'n fwyd ydw i?" meddai Lludd.

O safbwynt tuth y stori mae deallusrwydd cyflym ac ymwarediad uchelwrol y cymeriadau yn ennill anfesuradwy am ein bod yn cael gwared a'r pwysigogrwydd' trymaidd a hirwyntog sydd mor aml yn cymylu'n delwedd ni o'r cyfnod.

Methiant fu ei ymdrech i gael gwared â'r dagell o dan ei ên er ei fod yn dal i ymestyn gewynnau ei wddw yn y drych bob nos a bore.

Yr oedd eraill yn fwy tanbaid ac eisiau gweld cryn newid yn nhrefn llywodraeth yr Eglwys, efallai hyd yn oed cael gwared â'r drefn esgobyddol.

Gellir dirnad y siom a'r chwerwedd yng ngwawd y rhai a watwarai Iesu, yn cynnwys y 'lleidr' (gwrthryfelwr, yn bur sicr) a waeddai, 'Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau'.

Mae Gwynedd wrthi ers tro byd yn datgymalu ei hun a gwared a gwasanaethau oedd ar gael.

A dyna lle y buom yn ceisio cael gwared o'r dwr drwy dorri sianeli bychain trwy'r domen laid.

Gwyddai fod ganddo rywbeth personol yn erbyn ei dad, a gwyddai y carai gael gwared ohono, ond medrai ei dad gadw'i dymer, yr hyn na fedrai Wiliam.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Mr Jones oedd Cadeirydd y pwyllgor a benderfynodd cael gwared ag un gair bach sydd wedi codi ffrae fawr yn yr ardal.

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Dro arall, bu Iorwerth Fynglwyd a Wiliam Egwad yn annog yr Abad Dafydd i gael gwared ar ryw glerwr o'r enw Sion Lleision o'r fynachlog.

Bydd ymarfer corff o gymorth i gael gwared o deimladau o dyndra ac yn eich helpu i ymlacio.

Mae hynny wedi golygu gwared a nifer o bobol hefyd neu breifateiddio rhai pethau.

(Yn ôl un stori ddi-chwaeth gan un o'n plith nad oedd yn or-hoff o ymweld â Moscow, roedd Mr Gorbachev wedi llwyddo o'r diwedd i gael gwared ar y ciwiau hynny drwy sicrhau fod y siopau bwyd yn wag!) Go brin fod parch newyddiadurwyr estron tuag ato, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, wedi gwneud llawer o les iddo ymhlith ei bobl ei hun.

Priodwedd arall sy'n cynnal y diddordeb yn y peli yma yw eu haffinedd am electronau - maent yn medru derbyn hyd at chwe electron, ac yna cael eu gwared yn rhwydd, fel rhyw 'sbwng electronau'.

Mae'n rhaid i mi gael gwared â'r taclau bach, ond sut?