Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwaredwr

gwaredwr

Ar Galfaria gorchfygodd y Gwaredwr y galluoedd erchyll sy'n herio ei awdurdod a'i frenhiniaeth,

Mae dioddefaint y Gwaredwr i Williams, o ganlyniad, yn rhywbeth presennol.

Ond y mae'r Gwaredwr wedi cyflawni holl ofynion cyfiawnder Duw - Ef yw'r annwyl Fab yn yr Hwn y mae'r Tad wedi ei fodloni.

'Roedd Iahwe eisoes yn hysbys fel gwaredwr ei bobl.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Dim ond yng Nghymru y gallai'r gwaredwr droi'n ddihiryn dros nos: Eddie Butler am Graham Henry.

Yr oedd rhai eneidiau prin - Huw Ceredig yn un ohonyn nhw - na chawson nhw eu temtio i ganu mor ddifeddwl glodydd y Gwaredwr o Giwi..

Nid oes ail iddo am fynegi mawredd, gogoniant, cariad, gras a dioddefaint y Gwaredwr.

Ef yw'r pren bywiol y mae ei ddail "i iacha/ u'r cenhedloedd." Mae'n dilyn na all Cristionogion fod yn segur heb gynorthwyo yn y gwaith gwefreiddiol o sicrhau fod y neges am y Gwaredwr yn cyrraedd pawb.

Ond o'i gariad y mae'r Gwaredwr yn caniatâu i bawb sy'n credu ynddo EF ac yn rhinwedd i waith achubol, lechu o dan fantell ei gyfiawnder Ef.

Yn wir, ar ôl ambell i gêm yr ydw i fy hun wedi bod yn disgwyl clywed tyner lais y gwaredwr mawr yn galw arnaf innau hefyd.

Gwyddwn fod yna frodyr a chwiorydd a oedd yn dioddef pob math o bethau mewn gwledydd comiwnyddol, yn syml oherwydd eu bod yn credu yn Iesu Grist fel eu Gwaredwr.

Ond "cread" yw'r bydysawd i Bantycelyn a chread y mae'r Gwaredwr yn llywodraethu drosto.

Pan oedd cysgod barn arnom, daeth y Gwaredwr a dioddef y gosb trosom ni.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.