Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwariant

gwariant

Ond gwelir y pwyslais o hyd ac o hyd ar y ddadl fonetaraidd gul o 'Proffit, Proffit a mwy o Broffit.' Nid oes angen dweud nad yw'r cyfryngau hyn yn gweld gwastraff gwariant ar y lluoedd arfog.

ADRODDIAD ARIANNOL Dywedodd Roger Fox nad oedd yr adroddiad ond amlinelliad syml o incwm a gwariant.

Llunio adroddiad blynyddol ar gyfer yr Adain, yn amlinellu'r gwariant, yn refeniw ac yn gyfalaf, ar gyfer gwahanol weithgareddau'r Adain.

'ofynwn i chi felly sianelu'r gwariant ychwanegol yng Nghymru drwy'r Awdurdodau Addysg Lleol ar gyfer datblygu gwasanaethau ar lefel sirol i gefnogi ysgolion e.e. athrawon symudol sy'n arbenigo ar ddysgu Cymraeg a phynciau eraill, canolfannau adnoddau a hybu cydweithio rhwng yr ysgolion.

Yn ôl egwyddor datganoli, mae'r hawl i benderfynu ar flaenoriaethau o ran gwariant yn aros gyda'r Cynulliad.

Gall diffyg statws swyddogol effeithio ar bolisiau o Ewrop a gwariant ar raglenni perthnasol.

Cafodd y math o ateb annelwig y byddai rhywun yn ei ddisgwyl - y rhoddir ystyriaethau i adnoddau cynhenid cyfoethog Cymru fel pren a llechen ond bod yn ofynnol, wrth gwrs, sicrhau fod y gwariant yn rhesymol ac ati.

Disgwylir gwariant o £330m o gymharu a dim ond £98m y llynedd.

Disgwylir gweld cyfrifon y gronfa yn cael eu cadw ar wahân i weddill y gwariant ar y projectau.

Os yw'r cyhoedd yn cynilo yn hytrach na gwario mewn cyfnod o chwyddiant mae nifer o honiadau ynglŷn â gwariant personol yn debyg o fod yn sigledig.

Rhaid gwneud ymdrech i ymestyn y tymor twristiaeth a chynyddu gwariant y twristiaid er mwyn creu swyddi sydd yn talu'n well, ac ar hyd y flwyddyn gyfan.

Nid oes dyletswydd ar y Cyngor i weithredu, ond os ydynt am weithredu, rhaid i'r gwariant ddod allan o'r hyn sydd wedi ei glustnodi i'r perwyl hwn.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

O fewn y cyllid a glustnodir, yr Uned fydd yn gyfrifol am y gwariant, am unrhyw gytundebau â chyhoeddwyr masnachol, ac am y dewis rhwng cyhoeddi yn fewnol neu'n allanol.

Felly yr oedd gwariant personol a buddsoddiant ar gynnydd.

Os yw busnes yn cynhyrchu un math o beth yn unig, gellir cael y wybodaeth i benderfynu Costau Uned o'r cyfrifon ariannol gan nad oes angen dadansoddi'r gwariant mor fanwl ag mewn ffurfiau eraill.

A rhoi eu henwau priodol iddynt - treuliant personol, buddsoddiant diwydiannol, gwariant y llywodraeth (dyna'r drindod fewnol), ac yn olaf y sector allanol.

Y mae cymaint o waith dadansoddi'r gwariant a'i briodoli i'r gwahanol dasgau nes ei bod yn amhosibl i'w cynnwys yn y llyfrau; dan yr amgylchiadau hyn, y mae'n rhaid cadw set o lyfrau costio ar wahân i'r cyfrifon ariannol.

Is-bwyllgor Adolygu a Gwariant Cyfalaf

Eto mae'n deg i mi gyfeirio at y ddadl fod pob un o'r wyth sydd wedi dal y swydd o Ysgrifennydd Cymru wedi llwyddo i sicrhau i Gymru siar o'r gwariant cyhoeddus ac hefyd o'r diwydiannau newydd sy'n uwch na'r hyn a gafwyd gan ranbarthau Lloegr.

Cytunodd Awdurdod S4C y bydd cyllid rhaglenni S4C am y flwyddyn 2000 4.4% yn uwch nag yn 1999, sydd eisoes 10% yn uwch na'r gwariant yn 1998.