Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwarth

gwarth

Ef a roes fawredd i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn erbyn gwarth arwisgiad y tywysog Charles yng Nghaernarfon, seremoni, fe wyddom heddiw, a wthiwyd ar eu gwaethaf ar y teulu brenhinol Seisnig gan Swyddfa Gymreig y Blaid Lafur er mwyn lladd cenedlaetholdeb Cymru.

Am y gwyddant yn eu calonnau y dylai Cymru fod yn ymreolus y mae ganddynt gydwybod Gymreig na rydd lonydd iddynt, gan wneud gwarth eu hannheyrngarwch yn fwy llidus.

'Na gwall, na newyn, na gwarth, Na syched fyth yn Sycharth.'

Roedd gwarth mewn bod yn ordderch ac roedd syrthio oddi wrth ras drwy anlladrwydd yn nodi dyn hyd ddiwedd oes.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Mae puteindra rheolaidd yn anghyffredin a hefyd anffyddlondeb priodasol; ond colli diweirdeb cyn priodi (yn anffodus, gwarth y Dywysogaeth) yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.

Roedd hi'n barchus i fab fferm briodi merch fferm arall; nid oedd yn hollol amharchus i fab briodi'r forwyn, eithr gwarth oedd i'r ferch briodi'r gwas.

Gwarth o beth yw i rai pobl briodoli iddo gymhellion Seisnig a Saesneg, ar y rhagdybiaeth ei fod yn ddi-Gymraeg, ac mai ei fwriad yw penodi swyddogion yn ei lun a'i ddelw Anghymreig a di-Gymraeg ei hun.

Yn ddisymwth daeth wyneb Betsan yn fyw unwaith eto o flaen ei lygaid, y rhychau melyn yn diferu â dþr Wnion, yr amrantau trwm yn cau allan y casineb a'r gwarth a'r crechwenu dieflig o'r chwmpas.