Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwartheg

gwartheg

Y fam yn y cerbyd gyda'r rhai lleiaf, y tad yn gyrru un wagen, Iago yn gyrru y llall, a David Rhys y brawd hynaf yn gyrru y drol, a'r ddwy chwaer hynaf, Mary ac Elisabeth ar gefn ceffyl ar yn ail i yrru y gwartheg ar ceffylau.

Synfyfyriai'r gwartheg gan sefyll hyd at eu caderi yn y gwair.

Mewn siroedd megis Dyfed, lle mae cyfran uwch o dir da ceir mwy o bwyslais ar gnydau a gwartheg godro.

Gellirt cofnodi cynnyrch llaeth gyda jariau pwrpasol yn y parlwr godro a phwyso gwartheg a defaid gyda chloriannau.

Mae hyn yn golygu mai dim ond dulliau ffermio isel eu gwerth y gellir eu defnyddio, megis bridio stoc, gwartheg stor, defaid a gwlân.

Defnyddir bron yr holl orlifdir gan ffermwyr lleol, yn bennaf yn dir pori ar gyfer eu defaid a'u gwartheg.

Fel arfer mae modd troi rhai o'r gwartheg allan o ganol Mawrth ymlaen ond eleni nid oedd dim iddynt i'w bori ac yn waeth na hynny yr oedd yn llawer rhy leidiog.

Gan mai gwartheg, wedi'r cyfan, sydd piau'r ffordd fawr, mae rhywfaint o ras i fodau dynol oroesi ar eu dwydroed hefyd.

Fe orchymyn Cadog i'w wŷr ddod ê gwartheg o unrhyw liw a thrwy ddylanwad dwyfol troir hwyn'n goch a gwyn fel y deuant o flaen y llys.

Mae'n debyg iawn i'r un a geir mewn gwartheg ...

Yn y man a'r lle daeth y stori'n fyw, a rhois innau floedd Halelwia dros y fangre er mawr syndod i'r gwartheg a'r defaid.

Hwyliodd Edward am ei brynhawn i'r parlwr cynnes a'i dân braf a'i lyfr cowboi gan edrych ymlaen at ymgolli'n llwyr yn swynion a champau'r bechgyn a'r gwartheg gwyllt - credaf ei fod wedi dymuno llawer am fod yn un ohonynt ar y paith pell a gwyllt.

Yn nechrau'r ganrif hon cafwyd ymgeision ffurfiol i wella anifeiliaid traddodiadol Cymru trwy sefydlu cymdeithasau ar gyfer y Defaid Mynydd Cymreig a'r Gwartheg Duon.

Gan nad oedd rhan Arthur yn yr hanes yn anrhydeddus, try'r gwartheg yn sypynnau rhedyn y foment y dodir llaw arnynt gan Gai a Bedwyr.

Yn nes ymlaen bu'r porthmyn yn croesi Epynt wrth yrru gwartheg o Geredigion, Sir Gâr a Phenfro.

Cafodd Malcym rybudd i gadw golwg ar y fuwch bob yn ail a phorthi'r gwartheg.

Y caniad cynharaf lle cyferchir un o abadau mynachlog Nedd sydd yn hysbys yw cywydd Ieuan Tew i ofyn gwartheg dros Owain Dwnn.

Yna aeth o docyn tail gwartheg i docyn gan eu cicio yng ngolau'r ffaglen a hel llond tun o bryfaid genwair.

Gwneir defnydd, gyda defaid a gwartheg, o beiriannau sganio uwchsonig sy'n cael eu defnyddio i fesur faint o fraster a chyhyr sydd ar anifail.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

Cadwai'r bobl geffylau a gwartheg, defaid a chŵn, ac arferent drin rhyw ddarn o dir cyfleus yn agos i'r ddinas a chodi ŷd arno.

Gwrthodai ffermwyr ddefnyddio ffyn ysgawen i yrru eu gwartheg a phe curid plentyn â ffon o'r fath ni fyddai'n tyfu'n iawn wedyn.

Gellid gwneud mwclis o'r aeron a'i osod am yddfau gwartheg er mwyn iddynt eni eu lloi yn haws.

Yn anffodus, mae posibilrwydd i rai o'r gwartheg fod wedi eu prynu oedd eisoes wedi eu trin gyda hormonau, felly mae gwaith ymchwil a gymer gryn amser i'w wneud fel y gellid dwyn y rhai euog i gyfraith.

Yn rhywle, mae Schumacher yn adrodd am y wers bwysig a ddysgodd pan oedd yn was ifanc ar fferm, mai peryglus oedd cyfrif gwartheg heb eu hadnabod.

ebychodd Ifor yn flin hefo'r fuwch a Malcym ac aeth i roi seilej i'r gwartheg yn y sied.

Ymhle fyddai'r gwartheg yn cael eu godro y gaeaf canlynol?

Erbyn heddiw tueddwn i feddwl am gŵn fel anifeiliaid anwes ond ar ffermydd a thyddynnod Sir Benfro a Sir Aberteifi y magwyd y ddau fath o gorgi yn arbennig ar gyfer gyrru gwartheg ac er mwyn hela y crewyd cŵn megis Daeargi Sealyham, y Daeargi Cymreig (a fu mor llwyddiannus yn Sioe Cruft eleni) a'r Tarfgi Cymreig (Welsh Springer Spaniel).

Mae rhannau eraill yn amlwg yn dir pori gyda defaid a gwartheg yn bwyta'r olaf o dyfiant yr haf.

Mae semenu artiffisial wedi cael ei ddefnyddio gyda gwartheg ym Mhrydain ers rhai blynyddoedd ac mae ffermwyr yn gyfarwydd iawn a'r dechneg yma.

Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.

Mae'n ddiddorol cofio mai wrth fynd i mofyn y gwartheg i'w godro gyda'r nos y daeth 'Mewn Dau Gae' i fodolaeth hefyd.

Sonia R. T. Jenkins yn un o'i lyfrau am borthmyn y ddeunawfed ganrif yn gyrru'r gwartheg drosodd o Gymru i ffeiriau Lloegr; nid gwartheg a yrrwyd o Gymru i Loegr yn y tridegau ond hufen pobl ieuanc y genedl.

Gwyddys, wrth gwrs, fod rhai anifeiliaid megis ceirw, defaid, geifr a gwartheg yn cnoi cil.

Ar yr iseldiroedd hyn ceir amaethu cynhyrchiol a chedwir gwartheg godro a thyfir cnydau.

Gosododd rhyw 'awdurdod' neu'i gilydd fastiau dur anolygus yn enw cyfathrebu ar y Rhiw, ac y mae nifer y man feysydd carafannau wedi cynyddu fel pa bai 'Byclins' yn berwi drosodd wrth i ffermwyr sylweddoli fod carafan wen a Saeson brych yn llai o drafferth ac yn fwy proffidiol na defaid a gwartheg.

Enillai'r mwyafrif llethol ohonynt eu bywoliaeth drwy drin y tir a bugeilio gwartheg neu ddefaid.

Cludant y cynhaeaf i daflodydd pren yng nghefn y tai i'w daflu islaw, yn y gaeaf, i'r gwartheg Simmental ar y llawr cyntaf.

Yna dywedodd wrthyf, Edrych, fe ganiatâf iti ddefnyddio tail gwartheg yn lle carthion dyn i grasu dy fara.

Prydain Fawr ac wrth gwrs mae pawb yn gwybod am y gwartheg Duon a'r Cobiau a'r Merlod Cymreig.

Os oedd y gwartheg yn lloerig maen ymddangos fod clwy traed a genau ar y gwleidyddion wrth iddyn nhw roi eu traed yn eu cegau un ar ôl y llall.

Efallai mai'r trydydd pwynt sy'n denu sylw fu llwyddiant y farchnad gwartheg stor, a hyn unwaith yn rhagor er gwaethaf prisiau gwael cig eidion.

O gwmpas y fferm neu'r tyddyn byddai'n godro'r gwartheg ac yn gofalu am y moch a'r ieir.

Beth bynnag, un noson, ac yntau wedi mynd i lawr i'r caeau i mofyn y gwartheg i'w godro (yn Rhosaeron?) ac yn myfyrio am Franwen yr un pryd - fe ddaeth 'Cofio' i fodolaeth.

Mae pen gwyn y gwartheg Hereford hefyd yn hawdd ei adnabod.

Wrth gyfiawnhau cynnwys clychau gwartheg yn symudiad araf ei Chweched Symffoni, mynnodd Mahler mai dyna'r sŵn dynol agosaf oll at yr awyr a'r unigeddau.

Doedd y bryniau ddim mor uchel, ac yn lle coedwigoedd roedd yno feysydd bras, a gwartheg a defaid yn pori'r borfa ir.

Aeth ati i odro gwartheg; do, pedwar deg ohonynt fore a hwyr, eu hun a'i dwy law yn unig a llawer o ewyllus.

Yr oedd y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn dysgu'r aelodau bod angen golchi pyrsau'r gwartheg cyn dechrau godro, ac nad oedd wiw poeri ar gledr y llaw i wlychu teth y fuwch i'w stwytho.

Mae lliw gwyn ar ben y gwartheg Hereford yn en- ghraifft arall o nodwedd sy'n cael ei hetifeddu'n gymharol syml.

Mae ffurf wyn a gwartheg yn bwysig iawn i'r ffermwr gan fod pris gwell i'w gael am anifeiliaid sy'n edrych yn dda.