Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwau

gwau

Ymhlith y diddordebau eraill a nodwyd roedd cerdded, gwau/ gwnio, cerddoriaeth, nofio (pob un o'r rhain yn cael eu henwi sawl gwaith), pysgota, ysgrifennu, eisteddfota, ffotograffiaeth, magu plant, gwylio adar, beicio, gwaith gwirfoddol ac arlunio.

Roedden nhw wedi sgwrsio a dadlau a chytuno - a chael nad oedd dim o bwys yn eu gwau ar faterion o egwyddor.

Cododd y caead a gweld y pethau bach yn gwau trwy'i gilydd wrth geisio dianc.

ac ugeiniau o ddynion yn haner noethion yn gwau trwy eu gilydd fel morgrug aflonydd, a'r chwys yn disgyn oddiwrthynt yn gafodydd i'r llawr; twrf y morthwylion a therfysg y peirianau mor ddychrynllyd, nes crynu y mynyddau cyfagos i'w sylfeini.

Mewn laserau fel hyn nid yw egni'r atom yn disgyn i lefel bendant fel yn y Nd:YAG, ond yn hytrach i fand - amrediad o lefelau'n gwau i'w gilydd.

Cyn iddo agor ei lygaid, medrai Geraint glywed sŵn organ yn gymysg â lleisiau'n gwau drwy'i gilydd fel ieir.

Roedd hi'n anodd dychmygu'r hen wraig honno a edrychai mor Gymreig a thraddodiadol â hen fenyw fach Cydweli, gyda'r siôl frethyn coch, a'r sgert frasddu, yr hen wraig â'i gwar esgyrnog yn grwm wrth iddi blygu'n dawel dros ei thro%ell, a'i phen yn frith dan y cap gwau, anodd oedd dychmygu honno'n deisyfu dyn!

Yna, roedd hi mewn byd gwahanol, byd tywyll yn llawn o goed tal a'u brigau'n gwau trwy'i gilydd, byd dirgel ci%aidd y carlwm a'r cadno, y ffwlbart a'r fronwen, byd y wiwer a'r draenog a'r twrch daear a'r holl anifeiliaid eraill na chofiai mo'u henwau.

Blaenoriaethau Ymchwil Y mae nifer o'r ffactorau a nodir uchod yn rhyngberthnasol ac yn gwau i'w gilydd.

Y bwriad ar gyfer y dyfodol agos yw cynnal noson o ddistawrwydd noddedig a gwau ar gyfer Oxfam.

Fe'i teimlai'i hun yn gymysgedd o Fadog a Cholumbus wrth gerdded y bwrdd yn dalog ar ei ben ei hun a gwau'i ffordd yn hunanymwybodol trwy rwydwaith y teithwyr eraill.

Aeth y 'golau tan glo' yr oedd mam Gwenno yn gwau hosan wrtho pan oedd Huwcyn yn edrych 'trwy dwll bach y clo' yn olau llachar bylb trydan yn crogi o ganol y nenfwd.

Yn y tŷ rhaid oedd pobi bara, gwneud caws a menyn, coginio'r prydau bwyd, nyddu a gwau, golchi a thrwsio dillad yn ogystal â gofalu am y plant.

Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.

Mae o'n medru gwau ei lwybr drwyddyn-nhw a'u dal nhw rywsut wrth ei gilydd.

Dau fag yn unol oedd "maletas" wedi eu gwau gan yr Indiad ac yn cael eu gosod ar gefn y ceffyl wrth sgîl y person.

Mae Ebrill fel gwehydd - yn gwau dipyn o haf a dipyn o aeaf.