Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwbwl

gwbwl

Job, heb gyfeirio o gwbwl at y lladdfa.

"Dydi adeiladau gwaith yn aml ddim yn addas o gwbwl ar gyfer yr anabl, yn arbennig os ydach chi mewn cadair olwyn," meddai.

Does yna ddim hyd yn oed air Cymraeg am hynny ychwaith yng Ngeiriadur yr Academi ar wahan i camweithredol sydd ddim yn cyfleu'r un peth o gwbwl.

Ond mewn oes o deithio cyflym a thrwm, roedden nhw'n gwbwl angenrheidiol!

Ddim yn ddrwg, ddim yn ddrwg o gwbwl, ebe'r drych.

Dydio ddim gwerth os 'dio ddim yn canu, ychwanegodd heb holi o gwbwl am yr hyn a gafodd ei ddweud.

Fe wnaeth e ddinistrio'r gêm - dim gadael iddi lifo o gwbwl.

Ond os oes yna bobol o gwbwl a ddylai feddwl cyn siarad, gwleidyddion yw'r rheini.

'Hebdda i, fuaset ti ddim yma o gwbwl.'

Wedi'r cyfnod o ddwy flynedd yn astudio Anatomeg bu+m yn ffodus iawn o ennill ysgoloriaeth fechan ac roedd hon yn werthfawr yn fy ngolwg gan fy mod hyd hynny wedi dibynnu'n gyfan gwbwl ar fy nhad am gefnogaeth ariannol.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

Wn i ddim os gwyddoch chi am Stad Bryn Glas o gwbwl ond -(Torri ar ei thraws ei hun) Mae'n ddrwg gen i, rw'i'n crwydro unwaith eto.

Pan ddywedodd yr Iesu wrth y disgyblion i fod e'n mynd i baratoi lle iddynt, a'u bod nhw'n gwybod y ffordd, a'r lle 'roedd e'n mynd, a thra oedd y gweddill o'r disgyblion yn meddwl dros y peth, yn pwslo ac yn ceisio dyfalu beth i'w ddweud, Tomos oedd yr un, y very one a ddwedodd wrtho yn blwmp ac yn blaen nad oedden nhw ddim yn gwybod o gwbwl, y ffordd na'r lle.

Dydw i ddim wedi fy synnu o gwbwl fod merched yn gwneud yn well na bechgyn yn eu arholiadau ysgol.

Os nad ydi fitamin mewn cwrw neu wisgi dydy chi moi angen o gwbwl.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Roeddan nhw'n treulio'u dyddia a'u horia ola cyn yr enedigaeth yn y beudy, yn gwadu eu bod nhw'n feichiog o gwbwl.

Gorsaf tref cefn gwlad oedd hi ac ni welais ynnau yno o gwbwl, er mae'n siŵr fod yna ystafell yno a oedd fel arsenal.

Nid yw hyn yn wir o gwbwl...

Roedd llawer o'r cownteri yn gwbwl wag - ac eithrio ambell ddarn o gig neu damaid o gaws.

'Maen nhw'n meddwl 'mod i'n gwbwl ddi-werth, a bod yn onest.'

mynd yn nos o gwbwl yn y rhan honno o orllewin Iwerddon yr amser hwnnw o'r flwyddyn - sef canol haf.

'Dw i ddim yn dy ddeall di o gwbwl.

Ac 'roedd ei gymharu ag Euros Bowen yn arbennig o anffodus, gan na ellir meddwl am ddau fardd mor gwbwl wahanol i'w gilydd ym mhob dim.

Leiciwn i fod yn gwbwl siwr yn fy meddwl fod ambell i ysgrifennydd a chwrdd eglwys fel yna'n bod heddiw yng Nghymru.

Ac 'roedd awdurdod y dyn llyfr bach yn gwbwl unbenaethol yn y rhan fwyaf o'r eglwysi.

Ddim o gwbwl, Mrs Huws.

"Droeon wrth feddwl am faes glo'r De ac am lowyr yr wyf wedi eu hadnabod, 'rwyf wedi cael fy hun yn holi cwestiynau am eu lle yn llên y Gymraeg gan ddod yn anfodlon i'r casgliad nad oes iddynt mewn gwirionedd, fawr o le o gwbwl am nad yw'n llenyddiaeth yn siarad cyfaniaith eu profiad," meddai.

Babi o beiriant na fedra hi ddim mynd o gwbwl heb i chi afael ynddi hi, ac os gollyngech chi hi ar ôl iddi gychwyn, syrthio ar ei hochor fel brechdan fyddai 'i hanes hi bob tro.

all yr hyn sy'n ysgogi chwerthin heddiw eich gadael chi'n gwbwl oer yfory?

'Dyna John,' meddai'r wraig; 'weithiodd o'r un hog o gwmpas y lle yma pan oedd o'n fyw ac mi benderfynais i na chai o ddim segura o hyn ymlaen!' Wrth gwrs, byddai un llwchyn o John yn cynnwys sawl miliwn o ronynnau egni, ac felly nid yw ergyd y stori yn un gwbwl ddiogel!

Am to be angry with her dydi bod yn flin efo hi ddim yn cael ei gynnig a dydi digio wrth rywun ddim yr un peth o gwbwl.

Wrth gwrs mae posib cymhwyso pob system bonws i gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth; a dydw i ddim yn cael trafferth o gwbwl dygymod a'r syniad o dalu i athrawon am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni - cyn belled bod y drefn yn medru mesur yn gywir werth eu gwaith a chymryd i ystyriaeth y cratiau mawr, anhwylus.

Mae'r Gymraeg i'w gweld yn arwynebol mewn cryn dipyn o lefydd erbyn hyn, ond os ydych yn rhan o'r sector preifat does dim rheidrwydd arnoch chi i ddefnyddio Cymraeg o gwbwl.

Ni sgwennodd o gwbwl erbyn meddwl.

Er bod testun fel hwn yn rhoi cyfle i'r beirdd gyfeirio at y Rhyfel, awdl yn yr hen ddull a gafwyd gan aelod o'r hen do, J. T. Job, heb gyfeirio o gwbwl at y lladdfa.

Tybed mai dim ond y mawrion yn eu plastai a'u cestyll oedd yn cael eu poeni gan ysbryd ac nad oedd hi'n broblem o gwbwl i'r bobl gyffredin roeddwn i i'w gwasanaethu?

O ganlyniad roedd Alun Owen yn gwybod ei Feibl yn Gymraeg ac yn Lladin, ond prin o gwbwl yn Saesneg).

Mae'n rhaid diolch hefyd i Gruff Rhys o'r Super Furries. Beth bynnag ydym ni'n ei feddwl am ei honiadau nad yw Mwng yn cael ei chwarae ar Radio Cymru - sy'n gwbwl anghywir gan ein bod yn chwarae caneuon oddi arni yn gyson - roedd hi'n wych i'w weld ar y llwyfan yn derbyn dwy wobr ar ran y Super Furry Animals.

Doeddwn i ddim yn bwriadu sôn o gwbwl am ddigwyddiad pwysicar wythnos - y darganfyddiad syfrdanol fod gan Judy Finnigan ddwy fron.

Ond Giovanni Savarese - dydy e ddim yn chwarae o gwbwl.

Ond os oedd Ibn i weld tyrrau eglwysi Paris bell doedd dim dewis ganddo o gwbwl ond gwrthod y plentyn a'i wthio o'r neilltu.

Felly yn yr act gyntaf mae tair thema yn gwbwl glir, bod yna ymosod yn mynd i fod ar bopeth Cymraeg, bod yna ymosod i fod ar Ymneilltuaeth, a bod y cyfan yn fater gwleidyddol yn y bôn.

Prin bod yr wylan yn symud ei hadenydd o gwbwl.

Ar ôl sefyll mewn rhes am oriau i sicrhau fod eu plant yn cael un pryd maethlon y dydd, roedd hi'n gwbwl amhosib' i'r mamau gyrraedd yr ail ganolfan fwydo mewn pryd i gael eu bwyd eu hunain.

Aeth y llong yn ôl i Newcastle ond nid oes sôn am dywydd mawr o gwbwl.

Yr oedd yn gwneud perffaith synnwyr i'r dyn cydnerth ai gyhyraun sgleinion frown ar sgrins sinemau fod yn Mr World - ond yn gwbwl afresymol i Erciwl y sgrin fod yn Mr Universe hefyd.

Rydym wedi etifeddu credoau'r tadau yn gwbwl ddiarwybod i ni - a'r un mor ddiarwybod yn eu trosglwyddo i'n plant.

Mae'n amlwg felly bod problem cynaladwyaeth economaidd yn bodoli yng nghefngwlad yn ogystal â phroblem o gynaladwyaeth amgylcheddol - ac yn wahanol i ganllawiau Rio - ystyrir y problemau yn gwbwl ar wahân yng Nghymru.

Bydd y rhaglen yn her gwbwl wahanol i'r arfer yn ôl Golygydd y gyfres Geraint Lewis Jones.

Ac eto 'roedd e'n ŵr cadarn ei farn ac yn gwbwl ddi-ddroi'n-ôl pan ddeuai hi i'r pen.

Yn wir, aethant ymlaen a'u gwaith, fel pe na bai ef yno o gwbwl.

Hynny yw, welwch chi ddim son o gwbwl am sentimetrau a chilogramau yn y llyfrau hyn.