Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwead

gwead

O'r pedwar ban ac ar eingion amser y lluniwyd inni wreiddiau i brofi sut y meithrinwyd brogarwch, capelgarwch, ysgolgarwch a thylwythgarwch, a dysgu drwy brofiad sut y gwnaeth gwaed a gwead greu un gymdeithas ddi- ddosbarth er bod rhaniadau emosiynol ynddi, megis rhwng capel ac eglwys, llawr gwlad a'r mynydd.

Yn gymdeithasol bu newidiadau mawr yn y gwead o fywyd pentrefol.

Maen nhw'n dal i gredu y gellir defnyddio strwythur traddodiadol y stori, gwead o ddisgrifiad a sylwebaeth a deialog, strwythur sy'n perthyn i fyd gwahanol iawn, i ddarlunio diffyg strwythur a diffyg cyfeiriad y byd sydd ohoni.

Dyma ichi Harri Webb: At hynny, fe ellid ychwanegu dinistrio gwead cymdeithas (ar ol y Rhyfel Mawr), methiant y mudiad heddwch i rai, ac i eraill y lleihad yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

Mae stori%au Mihangel Morgan yn ddyfeisgar, yn llawn troeon annisgwyl, yn gelfydd eu gwead, weithiau'n llenyddol, artistig neu esoterig eu diddordeb.