Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwedd

gwedd

Dydi hi ddim yn anodd rhoi gwedd mor ddi-chwaeth â hon ar waith gohebydd mewn newyn.

Dim ond un wedd - a gwedd gamarweiniol i ryw raddau - ar gymeriad Ieuan Gwynedd yw hon.

Yr hen ddull o amaethu a arferid yno hyd y diwedd, gyda cheffylau gwedd yn tynnu'r offer i gyd.

Awdl alegorïol gelfydd yn y modd y mae hi'n rhoi gwedd gyfoes i chwedl Branwen yn y Mabinogi.

Mae pobl yn gofyn yn aml iawn, "Pam 'r ydych wedi ymdrechu mor galed i roi bywyd a gwedd newydd ­ Lanaelhaearn?" Credaf y gallaf roi crynodeb mewn dau baragraff fel ateb i hyn.

Mae gwedd Gymreig i'r News of the World ac y mae yna Welsh Mirror erbyn hyn a gohebwyr yn cael eu hel i Gymru unwaith eto.

O ran pryd a gwedd annhebyg ydynt i frodorion India; maen nhw'n debycach i bobl Burma, Thailand, a Cambodia.

O gofio fod y mab yn cynrychioli gwedd ar y tad, nid yw'n syn nad oes sôn o gwbl yma am alar y fam (fel a geir mewn marwnadau i blant yn y cyfnod modern, megis awdl Robert ap Gwilym Ddu i'w ferch, a 'Galarnad' Dic Jones).

Rhaid bod cryn dipyn ohono ar gael er mwyn iddo allu ffurfio gwedd hylifol ddigonol.

Ond, yn unol â neges Timothy Edwards, Cefn-mein, gwraig weddw a ddychwelodd i Blas Nanhoron y noson honno a'i gwedd-dod annisgwyl hi wedi cyffwrdd eigion calonnau holl weithwyr y Plas ond bod gan bob un ohonynt ei eli'i hun i'w roi ar y briw.

Bu cwynion diweddar am feddygon o dramor yn methu â mynegi eu hunain yn glir am nad yw Saesneg ddigon da, yn fodd i roi gwedd o barchusrwydd i'r hiliaeth honno syn hepian o fewn llawer o bobl.

Sylwi mhellach Ar y fam yn wyw ei gwedd, Ac yn plygu megis lili, I oer-wely llwm y bedd.

Megis i Freud, y mae gwedd o rywioldeb ar bopeth bron i ddisgyblion Jung hefyd, ond yr oedd Layard, fel ei feistr, yn ymwybodol o'r ysbrydol a'r diwylliadol yn ogystal.

Gwedd arall ar ei ymroddiad cyhoeddus oedd gwasanaethu fel Swyddog Prawf rhan-amser, gwaith y bu'n ei wneud ym Mae Colwyn, fel ei ragflaenydd, H. R. Williams.

Cymraeg yn bwnc craidd mewn ysgolion Cymraeg ac yn bwnc sylfaen yn y gwedd ill.

Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.

Ac edrych a orug Geraint ar Enid yna, a dyfod ynddaw ddau ddolur: un ohonynt o weled Enid wedi'r golli ei lliw a'i gwedd, a'r ail ohonynt gwybod yna ohonaw ei bod hi ar yr iawn.

Canfyddir y fath amrywiaeth annisgwyl o bryd a gwedd a gwep sydd gan y rhan o'r greadigaeth y cuddir ei neilltuolrwydd unigol gan y meysydd.

Y teyrngarwch gwaelodol hwn yw "crefydd" ac y mae'n rhoi cyfeiriad nid yn unig i'r ffydd yr ydych yn ei fynegi ond pob gwedd arall hefyd ar eich gweithgarwch.

Eithr y mae'n amlwg nad oedd hyd yn oed disgyblion agosaf Iesu yn barod i fentro gydag ef yr holl ffordd ar y dulliau eraill - dulliau'r deyrnas, dulliau'r rhai addfwyn, y rhai pur o galon, y tangnefeddwyr, y dulliau y gellir eu galw, yn eu gwedd negyddol, yn 'ddulliau di-drais'.

Gwedd arall ar y drwg hwn yn y dyddiau hyn yw difaterwch gresynus llawer o Gymry Cymraeg ynglyn â safonau'r iaith lafar.

Gwedd arall ar y hehongliad rhywiolfrydig yma ar y chwedl ydyw'r ffordd y gwêl Layard y Pair Diwrnach Wyddel, sy'n gyfarwydd inni o chwedloniaeth Iwerddon, fel 'croth', sy'n arwydd o allu'r elfen famol i gynhyrchu bywyd, ac i'w ddistrywio.

Mae'r aflwydd yn dechrau pan ydym yn ynysu un wedd ar y bydysawd a cheisio ei wneud yn hanfod pob gwedd arall.

Gwedd arall ar y brwdfrydedd ym Mhwllehli oedd mynd â'r cyfarfodydd y tu allan i'r addoldai.

Er nad yw Gadaffi yn Foslem ffwndamentalaidd, mae'n honni ei fod yn ffyddlon i Allah ac yn gweddËo bum gwaith y dydd.

Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thŵr, am rai blynyddoedd ar ol hyn: clywais ambell hwyrnos sŵn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd.

Gwedd ddryslyd a fyddai i hanes Gorsedd y Beirdd pe baem yn ceisio ei adrodd gan anwybyddu'r ffaith mai'n daleithiol neu'n 'gadeiriol' y gweithredai'r mudiad yn y dechrau ac yn ystod cyfran helaeth o'r ganrif ddiwethaf.

Gwraig lwyd ei gwedd ydoedd gyda llygaid glaslwyd, trwyn bach, wyneb hirgrwn, bochau bas a gên bwyntiog.

Ni thâl cyhoeddi mai gwyddoniaeth a'r method y mae hi'n ei ddefnyddio yw'r allwedd i bob gwedd ar realiti.

Roedd ei thad wedi gwneud hynny, felly pam na allai hithau, Carol, y debycaf i'w thad o ran pryd a gwedd os nad mewn anian, wneud hynny hefyd?

Mae'r ffaith bod pum mil o filiynau o adar yn mudo o Affrica i Ewrob bob Gwanwyn yn syfrdanol ac yn rhoi gwedd newydd ar y pwnc.

Os oedd y method gwyddonol yr unig ffordd ddilys i sicrhau gwybodaeth am bob gwedd ar y bydysawd, onid oedd yn dilyn fod y bersonoliaeth hithau i'w hesbonio wrth yr un method?

Roedd y morwyr a rowliai'r casgenni'n anadlu fel ceffylau gwedd pan ddaeth y pentre a'r hofeldai gwyngalchog i'r golwg drachefn.

Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.

Da oedd bod cnewyllyn o Gymry cadarn a deallus na chydymffurfiai â'r Wladwriaeth Seisnig yn ei gwedd grefyddol, ac a fyddai'n arddel radicaliaeth a ystyriwyd hefyd yn fygythiad i'r drefn.

Y maent yn cyffwrdd â phob gwedd ar yr athrawiaethau Beiblaidd ond y maent yn nodedig oherwydd y canolbwyntio diflino ar Iesu Grist.

Rhoddwyd gwedd newydd ar ddiddordeb poblogaidd arall - coginio - gyda Angela Gray's Hot Stuff, wrth i Angela Gray deithio o amgylch Cymru yn chwilio am y cynhwysion a'r cogyddion gorau.

Ond os oedd 'gwedd ei ymddangosiad yn brawychu'r gwan eu ffydd', yn ôl Nantlais eto, 'roedd 'ei lais fel diliau cariad a'i wên oedd fel bore ddydd.' Siaradodd yr Iesu wrthynt ar unwaith, ac o gymryd y geiriau gan Marc, Mathew ac Ioan gyda'i gilydd, yr oedd balm i'w harswyd ynddynt: 'Codwch eich calon Myfi yw; peidiwch ag ofni.' Fel y gŵyr y cyfarwydd, yr oedd rhinwedd rhyfeddol yn y geiriau Myfi yw ar enau Iesu Grist, yn enwedig yn yr Efengyl yn ôl Ioan: 'Myfi yw [y Meseial] sef yr un sy'n siarad â thi 'Pan fyddwch wedi dyrchafu Mab y Dyn byddwch yn gwybod mai myfi yw'; 'Yn wir, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, cyn geni Abraham,yr wyf fi'; 'Pwy yr ydych yn ei geisio?' 'Iesu o Nasareth,' meddent hwythau.

Mi garwn yn awr nodi'n fras dair gwedd ar y math hwn o feddwl a cheisio dangos y peryglon sydd ynddynt i'r iaith Gymraeg.

Credwn fod hawl gan bobl Sir Gaerfyrddin gael eu gwasanaethu gan Gyngor sydd yn Gymraeg yn ei hanfod, yn hytrach na chan sefydliad Saesneg sy'n gwisgo gwedd dwyieithog wrth drin y cyhoedd.

Anatomeg, fel y nodwyd eisoes, y gelwir y maes sy'n astudiaeth o ffurfiad y corff, ond Ffisioleg y gelwir y maes ynglŷn â sut mae'r corff yn gweithio ac fel sail addysgol i bob darpar feddyg mae'n ofynnol iddo ddod i adnabod gwedd a gweithgaredd y corff dynol yn llwyr.