Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweill

gweill

Mae'r Diamwnt yn ymgais i gyflwyno'r ffordd y cymethir yr Ego â'r Hunan, y byd tadol â'r un famol, a'r symbolau o ymosodiaeth, atalnwydau a greddfau a gynrychiolir gan y cŵn, y ceffylau, yr ysgithr, y gweill a'r grib.

Droeon eraill buasai gennyf i a'm cyfeillion agosaf gynllun cyfrinachol ar y gweill.

Mae angen mwy o amddiffyniad ar fenywod os yw dynion yn debycach o gael eu restio a'u dwyn gerbron y llys, ac mae'n hanfodol bwysig bod mwy o swyddogion heddlu yn hysbysu menywod o godolaeth llety dros-dro diogel a gynigir, gan lochesau Cymorth i Ferched tra bod yr achos ar y gweill.

Yng ngoleuni'r newidiadau sydd ar y gweill o ran newid ffiniau a swyddogaeth unedau llywodraeth leol, nawr yw'r amser i bwyso am y ddarpariaeth benodedig hon.

Felly, er mwyn ceisio gwneud iawn am y diffyg hwn, hoffwn ddod â'r cyflwyniad i fwcwl drwy gyfeirio at rai prosiectau sydd ar waith neu ar y gweill gennym fel Menter yng Nghwm Gwendraeth.

Mae trefniadau ar y gweill i aelodau'r Cyngor eu hunain dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth.

Pan gwblheir y rheini sydd ar y gweill ar hyn o bryd, bydd dau draean o'r llochesau yng Nghymru wedi ru darparu drwy gymdeithasau tai yn hytrach nag awdurdodau lleol.

Y mae trydedd ffilm, "Y Daith Adref", a fydd yn cynnwys pedair stori arall o gasgliad Chaucer, ar y gweill ar hyn o bryd.

Ymrwymiad i barhau â'r rhaglen codi ymwybyddiaeth a fu ar y gweill (gyda BBC Cymru, HTV ac eraill, megis y Bwrdd Croeso) i addysgu a lledaenu gwybodaeth ymysg y cyhoedd, cyflenwyr erialau a gwesteiwyr am safon a pherthnasedd gwasanaethau teledu o Gymru.

Mae pwysigrwydd yr agweddau hyn ar waith y pwyllgor yn debyg o gynyddu, ac eleni dechreuwyd cofnodi ar ddata-bâs yr holl ddatblygiadau diweddar a'r rhai sydd ar y gweill.

Maent yn croesawu'r datblygiad hwn a chredant na all hyn ond gwella yn sgîl y gwaith sydd ar y gweill erbyn hyn i ddatblygu cynlluniau tymor hir PDAG".

Ac mae paratoadau ar y gweill ers blynyddoedd ar gyfer ymweliad gan y Pab.

Mae tua 16 o ganeuon ar y gweill - a falle fydd hi'n syndod i gael clywed ambell diwn indie a hyd yn oed unawd clasurol ar y gitar yng nghanol y perlau ska-reggae-rock bywiog ac anarferol sydd gan y grwp.

Mae cystadleuaeth ar y gweill hefyd i lunio plat/cwpan i ddathlu'r achlysur.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Dangosir cyfres ddrama deledu newydd ar BBC Un yn yr haf, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, y cyntaf mewn nifer o brojectau y mae disgwyl iddynt ddod o'r 40 project datblygu sydd ar y gweill.

Aeth blwyddyn arall heibio, a syndod i ni, o siarad hefo fo, oedd nad oedd albym newydd ar y gweill ganddo.

Mae hyn wedi bod ar y gweill ers tipyn.

Pa gynllun afiach sydd ar y gweill a pha mor isel medra o suddo ac yna ei gyfiawnhau ei hun.

[Nodwyd bod hyn eisoes ar y gweill yn Awdurdod Addysg Clwyd].

Mae'r rhaglen ar y gweill a bydd croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â ni.

Cyngor Gwlad: Adroddodd Mary Vaughan Jones fod llyfr o luniau bro Eco'r Wyddfa ar y gweill gan y Cyngor Gwlad.

Does dim siopau yma i'w cymharu â gwleddoedd Dubai ond mae'r ardal yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phum gwesty pedair a phump seren ar y gweill dros y flwyddyn nesa.

Ymhlith y cynlluniau lu sydd ar y gweill ar gyfer y dyfodol y mae un i ddod a Chymru i sylw y miloedd o bobl sydd yn heidio i Wyl Siopio enwog Dubai bob blwyddyn.

Caf gyfle eto i gyfeirio at rai o'r prosiectau arbennig sydd gennym ar y gweill yng Nghwm Gwendraeth sydd yn ceisio meithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith ar ddiwedd y cyflwyniad hwn.

Felly yr un cynlluniau asesu sydd ar y gweill i'r gorau o Ynysoedd Prydain yn ogystal â'r brwdfrydedd sy'n rhan annatod o gymeriad lliwgar Steve Black.

Mae trefniadau ar y gweill i aelodaur Cyngor eu hunain dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth.

Mae dau wyneb i'r lechen, un ag ochr lefn yn dynodi'r gwaith datblygu sydd ar y gweill.

(i) Llythyr gan Gyngor Cymuned Llanystumdwy yn gofyn pa ddatblygiad sydd ar y gweill os mai'r bwriad yw symud ymlaen â'r fenter.

Dewis o Gigs sydd ar y gweill.

Yn ogystal, y mae cynlluniau ar y gweill i drefnu cwis llyfrau rhwng yr ysgolion Cynradd ac i gynhyrchu llyfrynnau lliwio a darllen i blant wedi eu seilio ar gymeriad Gloyn (sef arwyddlun Eisteddfod yr Urdd yng Nghwm Gwendraeth) ynghyd â chylchgrawn chwaraeon.