Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweinidog

gweinidog

'Yng nghapel Bethesda yn y Wyddgrug ges i'r cyfle cynta', a mae'n rhaid i mi gyfadde bod fy nyled i i'r gweinidog, Eirian Davies, yn enfawr.

Bu cryn sôn yn ddiweddar am ddatganiad Joschka Fischer, gweinidog materion allanol yr Almaen, ynglyn â ffederaleiddio Ewrop.

"Mi dd'wedsoch chi'r gwir yn fan'na,' meddai'r gweinidog.

Mae Gweinidog Amaeth Ffrainc wedi cyhoeddi'n swyddogol y bydd gêm Ffrainc a Chymru ym Mharis ddydd Sadwrn.

Y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod yn Llangefni, ond bu'n rhaid ei symud i Fangor ar gais y Gweinidog Trafnidiaeth.

Onibai i Wil Twmpath gael ei hudo i Wlad N'Og ar ei ffordd o ffair sglodion Capel Tarsis gyda llathen o wynwyn dros ei ysgwydd - bargen o stondin gynnyrch Mrs Harris y Gweinidog - mae'n amheus a fyddai pethau wedi digwydd fel y gwnaethont.

Y Gweinidog, y Parchg.

Roedd tŷ'r gweinidog -Bodathro, fel y gelwid ef - yn ffermdy, mewn gwirionedd, gyda nifer o dai allan, gardd a pherllan fawr lle y cadwai ei dad nifer o ieir.

Bu gwraig y Gweinidog Wesle yn ddigon diniwed i ofyn, "Pa bryd gaf fi lo, Mr Thomas?" A'r ateb!

'Trio'n dychryn ni maen nhw,' meddai'r gweinidog.

Yn ffodus cafwyd gwr â feddai brofiad maith fel Gweinidog i'w olynu, sef y Parchedig E.

Nid plentynnaidd, eithr anonest, oedd beio'r Gweinidog dros Gymru am na rwystrodd ef y mesur.

Daeth y gweinidog, brynhawn yr angladd, i'r parlwr cyn codi'r corff, a darllen pennod o'r Beibl darluniadol â'r clasbiau aur.

Fis Mawrth y flwyddyn honno, yng nghanol ei holl brysurdeb fel gweinidog a llenor, cyhoeddodd ysgri\f orchestol-pymtheg tudalen--yn Yr Eurgrawn: "Tro%edigaeth John Wesley a'i ddylanwad ar Gymru%.

Sylwodd y gweinidog a ryddhawyd ar yr un pryd â hi ar ei phenbleth.

"O," meddai'r gweinidog, "finna wedi ofni mai doctor oedd o!" Gweinidog arall, Parch.

Y GROGLITH: Eto, eleni bu cyfarfod dwyieithog ar fore Gwener y Groglith, yng ngofal y gweinidog, y Parchedig Huw John Jones, yng Ngharmel.

Fel y gweddill o'm cyfoedion byddwn yn mynd i'r Seiat ar nos Fawrth, a chofiaf yn dda am y Parch JH Pugh y Gweinidog yn fy nghynghori a'm siarsio i fod yn hogyn da.

Hanesydd yr oedd ysgrifenwyr Cymraeg i bwyso'n drwm arno wrth drafod Penri oedd Daniel Neal, gweinidog Eglwys Annibynnol Aldersgate Street, Llundain.

Mae Gweinidog Nawdd Cymdeithasol yr Wrthblaid, David Willetts, yn gwadu honiadau Llafur y byddai'r pensiynwyr tlotaf yn dioddef.

Gan fod yr aelodaeth yn galw gweinidog atynt, yr oedd modd iddynt wneud eu dewis ar sail profion o dduwioldeb a amlygwyd ym mywyd y pregethwr.

Pregethodd ein gweinidog Y Parchedig Olaf Davies a gweinyddodd ef y Cymundeb.

Ac wrth estyn croeso nôl yn oedfa gyntaf Medi, Gwilym Haydn yn dweud fod e'n gobeithio fy mod i'n hoffi'r lliw, lliw meddai oedd yn adlewyrchu tymer y gweinidog yng nghwrdd eglwys mis Gorffennaf!

Roedd gan y Gweinidog -- dyn clen of nadwy -- enw Cymreigaidd iawn ond doedd ganddo ef na'i braidd (a welais i) fawr o Gymraeg.

Rhoddwyd Hanes yr Alwad gan Mr Lewis Owen, Ysgrifennydd yr Eglwys, a'r Siars i'r Gweinidog gan Ben Owen, Llanberis.

Gweinidog canol-oed o Fôn, llanc ysgol un ar bymtheg oed a dau fyfyriwr o Aberystwyth.

Cymorth beirniadaeth E Lewis Evans, y mae M Wynn Thomas yn edmygus iawn ohono, ysgolhaig a gweinidog Annibynnol a ddeallodd yn gynnar ba mor astrus oedd ei arwr; a chymorth beirniadaeth Hugh Bevan ar ei ôl, yr hwn yn Morgan Llwyd y Llenor a astudiodd yr awdur fesul llyfr yn ogystal ag yn gyffredinol.

Byddai wedi bod yn ddathliad llawer mwy rhwysgfawr, yn llawer llawnach o wir lawenydd a gobaith, oni bai am golli'r gweinidog, ac oni bai am y rhyfel.

'Roedd hyn yn ychwanegol i'w swydd fel Gweinidog Cartref.

Yn ôl llythyr y Gweinidog Gwladol, yr Awdurdod hwnnw "fydd y prif awdurdod yng Nghymru ar addysg Gymraeg".

`Beth mae hyn yn ei olygu?' gofynnodd un o aelodau'r eglwys wrth weld y gweinidog yn darllen y llythyr.

Ond pennaf cyfaill ei dad yn Llanelli oedd Dr Gwylfa Roberts, gweinidog Tabernacl, Llanelli a bardd a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.

Penodi Syr David Maxwell Fife i'r swydd newydd, Gweinidog Materion Cymreig.

Gan eu bod yn byw yn ardal y Castell buont yn meddwl am y peth am beth amser ond pan glywyd bod gweinidog newydd yn dyfod i'r Capel Mawr dyna glensio'r ddadl.

Bryd arall gelwid gweinidog i wasanaethu nifer o eglwysi, a chyfrannai pob un o'r canghennau tuag at ei gynhaliaeth.

Flwyddyn yn ddiweddarach, aeth gweinidog o Bontardawe, Gareth Morgan Jones, i San Salvador i gymryd rhan mewn offeren arbennig i goffa/ u'r merthyron.

Ef yw'r Gweinidog presennol ac y mae yntau hefyd yn un o blant Rhosllannerchrugog.

Ysgrifennodd Lucy Masterman, gwraig Gweinidog yn y Llywodraeth, am Churchill trwy r cyfnod hwn: 'He enjoyed immensely mapping the country and directing the movements of troops ' .

Mae Mike German, Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad, wedi croesawu'r datblygiad.

Yn y man daeth y gymdeithas hon i osod bri mawr ar y 'barchus arswydus swydd', ac y mae'n wir dweud y dibynnai'r gweinidog bron yn gyfan gwbl ar ewyllys da a theyrngarwch ei gynulleidfa.

Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur, yn galw am 100,000 o ferched i ddod i weithio mewn ffatrîoedd.

Gweinidog gyda'r Annibynwyr Cymraeg yn Nant-y-moel, Cwm Ogwr, ydoedd fy nahd, yn fab i Iowr, a merch i ffermwr yn Nefynnog oedd fy mam.

Cododd y ffrae fywaf dychrynllyd rhwng Eproth ac Ynot (dau hen elyn, debyg iawn) a rhwng Nosliw'r Gweinidog Bwyd a Chynhaliaeth, a Thaeh, y Canghellor.

Mab gweinidog Towyn yn cymryd rhan mewn syrcas!

Cyn y gellir esbonio'r diddordeb hwn, y mae'n ofynnol inni fwrw golwg yn gyntaf ar y modd y datblygodd swyddogaeth gweinidog yn yr ardal ym mlynyddoedd cynnar y ganrif.

Roedd y gweinidog wedi cael ei arestio droeon o'r blaen.

Y gweinidog cyntaf a alwyd i fugeilio'r Eglwys oedd y Parchedig John Edward Williams.

Rhoes llyfr fel Rebecca Riots (David Williams) gyfle iddo dynnu sylw at gyfraniad Thomas Emlyn Thomas, y gweinidog Undodaidd o Gribyn, a'r gŵr a fu'n 'rebel dros ryddid y werin'.

Cliriodd ei wddw fel y gwnai Ifans, gweinidog, wedi cyrraedd y pulpud, wrth ddrws yr ystafell fwyta.

Rhys Stephen (Gwyddonwyson) gweinidog amlwg ym Manceinion a chefnogwr brwd i Ieuan Gwynedd a oedd yn hanu o Dredegar - fe ystyriwyd offeiriaid sir Fynwy hefyd yn fradwyr ar ôl i'w tystiolaeth i'r Comisiwn gael ei chyhoeddi.

Ac nid oedd yna na gweinidog na blaenor.

Ond yr oedd hyn yn gaffaeliad iddo pan alwai yn nhai'r aelodau, yn arbennig y rheini a deimlai hytrach yn swil ym mhresenoldeb gweinidog.

Cofiwn amdano fel Gweinidog ymroddgar ac aelod gwerthfawr o'r Eglwys yng Nghefn Brith.

Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.

Dyfynnwyd tystiolaeth nifer gan gynnwys y Parchedig Edward Williams, gweinidog yr Annibynwyr yn Llanfair-ym-Muallt a gyfeiriodd at blant anghyfreithlon ym Mrycheiniog a chyfathrach rywiol ymhlith gweision a morwynion ffermydd.

Cafwyd dau ddyn trwm, Dr Lewis Probert a J.Bowen Jones, gweinidog y Plough, Aberhonddu.

Mae'r Gweinidog Materion Cymreig yn gwneud a fedro gyda chymorth adrannau o'r gwasanaeth sifil i hybu'r polisi hwn; nid yn ofer chwaith.

Efallai y byddai wedi bod yn well pe na bai mor barod i bregethu'n erbyn rhyfel a lladd, ond pwy a all warafun i rywun ifanc mor llawn o sêl rhag mynegi'i gredo bersonol ei hun, yn enwedig o bulpud yr Un a lefarodd y geiriau 'Câr dy elynion', i fyd a oedd yr un mor gibddall â'r un yr oedd y gweinidog yn byw ynddo.

Ma' rhaid i mi fynd i dŷ'r gweinidog heno, Mam.'

'Rhoddi y vagabond pass i'r Jacs fynd ati i syllta', oedd hyn yng ngolwg Brutus, a synnai fod gweinidog mor uchel ei barch â Phylip Griffiths wedi'i iselhau ei hun drwy gymeradwyo'r arfer.J Dwg hyn ni at gymwysterau'r gweinidog ymneilltuol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yr oedd digon o waith o ganlyniad yn aros y gweinidog newydd.

A thymer y gweinidog wedi mynd yn fyrrach a byrrach, a'r parting shot, (annheg rwy'n gwybod).

UN o'r bobol bwysicaf ym mywyd pob myfyriwr am y weinidogaeth a phob gweinidog hefyd, ers talwm, oedd y dyn llyfr bach.

Storiau bach digon diniwed - rhai ohonynt wedi eu dyfeisio gan y deudwr fyddai'r storiau hyn, a'r gweinidog bron bob amser fyddai yn beirniadu.

Es i weld un gwersyll ar yr un pryd â'r Gweinidog dros Ddatblygu Tramor, Lynda Chalker, (Y Farwnes Chalker erbyn hyn).

Gweinyddwyd cymun Crist gan y gweinidog ac fe'i cynorthwywyd gan weinidog Paradwys - y Parchedig Evan John Jones.

O BEN Y DALAR: Mae ymdrechion yr undebau amaeth i gael yr Ysgrifennydd Gwladol, John Redwood, a'r Gweinidog Amaeth, Gillian Shepard, i ailgyflwyno dipio gorfodol ar gyfer clafr ar ddefaid yn cael peth gwrandawiad.

Byddai'n dda gan y Pwyllgor gael cyfle i gyfarfod â'r Gweinidog Gwladol, gyntaf posibl, i drafod oblygiadau'r sylwadau isod.

Mae gweithgor wedi gwneud adroddiad i'r Gweinidog, ac 'rydym nawr yn disgwyl i dderbyn ei ymateb.

Mi fyddai yna dipyn o le pe byddai disgyblion yn ymddwyn felly - ond dyna a wnaeth athrawon yr NUT pan ddaeth y Gweinidog Ysgolion, Estelle Morris, i siarad a nhw.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i'r hyn ddywedodd y Gweinidog Amaeth, yn ystod ymgyrch etholiadol Ewrop, ei bod yn ystyried ailgyflwyno dipio gorfodol pan ddywedodd y byddai'n ymateb i awgrymiadau oddi wrth y diwydiant.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur, yn galw am 100,000 o ferched i ddod i weithio mewn ffatrîoedd.

Nid oes esgus, meddai'r Gweinidog Addysg, tros ysgrifennu Saesneg carbwl.

Ymateb Schneider oedd dadlau mai annigonol oedd hyn a datganodd, a'i dafod yn ei foch, nid yn unig ei barodrwydd i ufuddhau i'r gweinidog addysg Eduard Pestel ond hefyd ei gariad tuag ato.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

Pan oeddwn yn y Coleg gofynnodd gweinidog o Gymro, pur amlwg yn ei ddydd, i mi beth yr oeddwn yn mynd i'w wneud yn fy ngradd a'r ateb dibetrus a gafodd oedd mai'r Gymraeg.

Gwaetha'r modd, ni chafodd y gweinidog arall ei "visa% yn ôl mewn pryd, gan fod yn rhaid i'w basport, lle gwelid ei enw fel "The Rev., gael ei ddanfon ymlaen i'r awdurdodau ym Mhrâg cyn cael ei brosesu.

Fo ydy'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Dôm.

Fe'i gwelid yn gyson yn angladdau'r fro, ac ar adegau felly gofalai pob offeiriad a gweinidog ei wahodd i gymryd rhan yn y gwasanaeth, un ai gyda gweddi neu ddarlleniad o'r Ysgrythur.

Mae'r portread yn gwneud tegwch, fel y dylai, ag arbenigrwydd ei waith fel pregethwr a gweinidog ac fe'i gwna'n amlwg iawn ein bod yn delio â dyn o dduwioldeb dwfn a didwyll.

Olrheiniwyd twf a datblygiad yr enwadau ymneilltuol yn nyffryn Aman yn y ddwy bennod flaenorol, wrth fynd heibio, megis, ac yn y bennod hon ceisir dangos sut y magodd y gweinidog a'r pregethwr ddiddordeb mewn llenyddiaeth, ac mewn barddoniaeth yn fwyaf arbennig.