Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweinyddol

gweinyddol

'Roedd trefniadau gweinyddol aneffeithiol neu ddryslyd er ymdrin â cheisiadau cynllunio neu gofnodi ac ystyried gwrthwynebiadau yn broblem mewn rhai o'r achosion yr ymchwiliwyd iddynt.

Codi'r Gymraeg yn brif fater gweinyddol y dosbarth a'r sir.

Bydd gweithgarwch gweinyddol a marchnata S4C dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei ariannu gan incwm masnachol y sianel.

Cyhoeddwn adroddiadau blynyddol grwpiau ymgyrchu a gweinyddol Cymdeithas yr Iaith, sydd i'w cyflwyno i'r Cyfarfod Cyffredinol.

Y pwysicaf o'r pwyllgorau sefydlog oedd y Pwyllgor Gweinyddol - pwyllgor brys yr Undeb - a gyfarfyddai'n amlach na'r un arall i drafod materion yr oedd yn rhaid cael barn sydyn arnynt.

Y mae Mandy Wix yn ein cynrychioli ar Hyfforddiant Gweinyddol a Graham Laker yn ein cynrychioli ar Hyfforddiant Artistig a Thechnegol.

Daw'r gwendidau gweinyddol i'r golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau ym Mhwllheli a Nefyn sy'n profi sawl pwnc.

Y Swyddog Gweinyddol sy'n gyfrifol am yr ochr weinyddol i weithgarwch y Gymdeithas -- golyga gydweithredu â'r Swyddogion Codi Arian, Mentrau Masnachol, Aelodaeth a'r Trysorydd.

Y swyddfa gofrestru tir a'r swyddfa drwydded deithio yn symud i Gymru fel rhan o bolisi'r Llywodraeth i ddatganoli swyddfeydd gweinyddol.

Grwp Gweinyddol a Senedd y Gymdeithas sydd yn trafod gwaith y Swyddog Aelodaeth.

Ymateb gweinyddol yn unig a ddisgwylir yma a byddai canllawiau cyffredinol y Bwrdd yn briodol.

Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol.

(ch) Dyblygu gwaith gweinyddol, a hynny'n arwain at lai o arian ar gyfer gwir gadwraeth.

Cyfreithiwr y Cyngor Yr Uwch Drysorydd Cynorthwyol Y Trysorydd Cynorthwyol (Incwm) Y Rheolwr Gwasanaethau Uniongyrchol Swyddog Datblygu'r Economi Y Prif Gynorthwywr Gweinyddol (Adran y Prif Weithredwr) Yr Ysgrifennydd Dosbarth Cynorthwyol Is-bwyllgor Iaith

Os penderfynir mai'r Gymraeg yw prif iaith gweinyddiaeth fewnol adran o'r cyngor, fe ddilyn yn naturiol fod yn rhaid wrth swyddogion Cymraeg a hynny er mwyn effeithlonrwydd gweinyddol.

Er mwyn sicrhau fod modd i'r cynlluniau iaith ddylanwadu ar y broses addysgol, y mae angen yn ymarferol wahaniaethu rhwng cynllun iaith ar gyfer cyrff sirol neu genedlaethol, sydd yn ymdrin â materion gweinyddol a pholisi cyffredinol yn unig, a chynllun iaith ar gyfer sefydliadau addysgol, sydd - yn ychwanegol at faterion gweinyddol a pholisi cyffredinol - yn ymdrin â phrofiadau dysgu disgyblion a myfyrwyr unigol.

Yr oedd gwasanaeth cynullydd a allai alw ar ryw gymaint o gymorth ysgrifenyddol a gweinyddol yn anhepgor.

Disgwylir felly i swyddogion rhanbarth a gweinyddol/cyllid lunio adroddiadau manwl 3 gwaith y flwyddyn.

Pan fydd y Cyngor yn gweithredu mewn unrhyw lys barn neu unrhyw dribiwnlys arall boed fel pleintydd, diffynnydd erlynydd neu mewn unrhyw ffordd arall, awdurdodir Cyfreithiwr y Cyngor ac unrhyw gyfreithiwr arall a fo o bryd i'w gilydd yn gweithredu ar ran y Cyngor ac i bob swyddog arall a gyflogir gan y Cyngor i wneud unrhyw beth a fydd ei angen er mwyn hyrwyddo'r achos ar ran y Cyngor gan gynnwys, ond heb ragfarn i unrhyw beth arall a fyddai angen ei wneud, cymryd pob cam gweinyddol i ddwyn yr achos gerbron y llys ac yn y llys, ymddangos mewn achosion i gyflwyno achos y Cyngor, casglu tystiolaeth ar gyfer yr achos, rhoddi tystiolaeth yn y llys, gwneud affidafidiau, cymryd pob cam angenrheidiol i orfodi penderfyniad y llys, adennill costau ac amddiffyn yn erbyn a negodi costau a ganiateir yn erbyn y Cyngor.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Y tiwtoriaid oedd Chris Reynolds a Gwynfa Adam, a gofalwyd am weithgareddau'r trydydd grwp a threfniadau gweinyddol y cwrs gan y Swyddog Cyswllt.

Daw yno i agor ail estyniad y Llyfrgell, a'r Cyfarwyddwr Gweinyddol Mr Maiwaring, aelod brwd o Fyddin yr Iachawdwriaeth, sy'n dweud fod pawb wrth eu bodd.

Bu cynnydd yn y diwydiant gwasanaethau, mae'r diwydiant electroneg yn gyflogwr o bwys ac mae miloedd mewn swyddi proffesiynol a gweinyddol.

Yn lle'r holl swyddi cyfredol eraill ar y senedd, cadarnhawn y bydd angen y swyddi canolog canlynol: (i) golygydd 'Y Tafod'; (ii) trysorydd; (iii) swyddog masnachol a fyddai'n gyfrifol am fentrau; (iv) swyddog adloniant; (v) is-gadeirydd gweinyddol.

I fod yn hollol gywir, cyfyngir y defnydd o'r term hwn i gostau anuniongyrchol o gynhyrchu ond siaredir yn aml, hefyd, am argostau gweinyddol ac argostau marchnata.

* cael goleuni ar faterion gweinyddol.

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

Yn nyddiau bore'r byd pan oedd aroglau da ar wair yn cynaeafu, a thail yn gynnyrch porthiant o'r das, yr oedd ambell i ddiwrnod yn rhoi lle o anrhydedd i'r ferfa yng nghynllun gweinyddol economi ffarmio tyddynnod Eryri.

Bydd yr is-gadeirydd gweinyddol yn parhau â chyfrifoldeb am weinyddiaeth y Gymdeithas a gofal am ein swyddfeydd a'n swyddogion cyflogedig ac am arolygu'r swyddi cyllidol.

* creu adnawdd gwreiddiol- cyfieithu adnawdd sydd eisoes wedi ei baratoi * prynu ffilm neu gaset o'r fersiwn gwreiddiol * sicrhau hawlfreintiau * cysodi'r testun * golygu'r testun * recordio'r testun * cynhyrchu'r copi meistr * dylunio'r pecyn cyfan * gwaith gweinyddol ac ysgrifenyddol sy'n gysylltiedig â'r tasgau uchod.

Materion Gweinyddol

Er enghraifft, beirniada'n hallt y symud a fu ar gofnodion gweinyddol y bedwaredd ganrif ar ddeg o'r trysorlys yng Nghaernarfon i'r Tŵr Gwyn a swyddfeydd y trysorlys yn Llundain.

Mae dau swyddog llawn amser yn gweithio o'r Brif Swyddfa yn Aberystwyth sef y Swyddog Gweinyddol (Dafydd) a'r swyddog Ymgyrchoedd (Charlie). Ymddengys y bydd y Swyddog Maes (Meirion ) yn gweithio i ni am gyfnod o'r Swyddfa hon hefyd.

Cyhoeddodd y Barnwr Gweinyddol y dylid, yn wyneb y ffeithiau newydd a ddaethai i'r amlwg oddi ar ei dreial, ryddhau Lewis ar unwaith, gan ddileu'r gollfarn arno.

Yr un diwrnod cyfarfu Curig am y tro cyntaf â'i bwyllgorau, Pwyllgor y Llyfrfa yn y bore, a'r Pwyllgor Gweinyddol yn y pnawn.

Nid sefydliad swyddogol na chyfreithiol na gweinyddol mohoni.

Gellir awgrymu nifer o resymau am y teyrngarwch rhanbarthol hwn, sef twf gweinyddiaeth a datblygiad sefydliadau sirol, cynnydd cyfoedth y bonedd gwledig a'u tuedd gynyddol i briodi aeresau lleol, eu diddordeb mewn hanes, hynafiaeth a chyfraith, a thwf trefi sirol yn ganolfannau cymdeithasol, diwylliannol a gweinyddol.