Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweithgarwch

gweithgarwch

Yr oedd gweithgarwch Humphrey Llwyd ym maes mapio - un o feysydd dysg pwysig y cyfnod - yn rhan felly o'i weithgarwch fel hanesydd yn y traddodiad dyneiddiol, corograffig.

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Yr oedd yr Wyddgrug yn un o ganolfannau pwysig y gweithgarwch yn y Gogledd am gyfnod, er na bu erioed mor bwysig â thref Caernarfon yn hanes y wasg Gymraeg.

Y gred gyffredinol bellach ydyw na chafodd ymyriadau'r llywodraeth yn y cyfnod hwn agos cymaint o effaith ar lefel y gweithgarwch economaidd ag yr oedd pobl ar y pryd yn dueddol i gredu.

Arwydd arbennig o'r gweithgarwch meddyliol a nodweddai'r cyfnod ydyw nifer y llyfrau a gyhoeddwyd a nifer y cylchgronau a gychwynnwyd.

Byddai gweithgarwch strategol a datblygol PDAG yn cael ei lesteirio.

Bydd gweithgarwch gweinyddol a marchnata S4C dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei ariannu gan incwm masnachol y sianel.

Mae'r Gymdeithas i'w canmol yn fawr am y gweithgarwch cyson yma sy'n denu cannoedd i Theatr Seilo.

Ond nid yw cyflwyno'r ddeiseb ond rhan o'r gweithgarwch.

Wrth drafod gweithgarwch ymarferol gallai fod yn briodol cynnwys:

Tystiodd Nant Gwrtheyrn fod nifer o bobl wedi cofrestru ar gyrsiau yn y Ganolfan Iaith yn uniongyrchol o ganlyniad i'r gweithgarwch yn y Sioe.

Yn ystod y cyfnod yng nghanol fy mywyd (hyd at fy nhridegau hwyr) golygai hyn fy mod yn hepgor llawer o weithgareddau oedd yn golygu llawer o gerdded neu os oedd fy arafwch yn amharu ar y gweithgarwch.

Yn sgil y gweithgarwch hwn codwyd to o gyfeilyddion fel Tom Morris, Maelor Richards, Jerry Hughes, Llew Hughes, a rhoddwyd cyfle i unawdwyr yr ardal arfer eu dawn - Susie Jones, Betty Davies, Vernon Parry, Ernest Thomas a Meirion Morris.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

Bydd y cynllun yn dibynnu ar natur gweithgarwch y busnes.

Mae'n pontio hanes y Cread - a mwy - oherwydd mae'n agor gyda'r paratoi ar gyfer y creu ac yn olrhain gweithgarwch Crist hyd at yr uchafbwynt pan fydd yn rhoddi'r Deyrnas i Dduw'r Tad.

O ystyried y gweithgarwch mawr oedd ar gerdded yno ar y pryd dan arweiniad Calfin a Beza ynglŷn â chyhoeddi testunau gwreiddiol y Beibl: eu cyfieithu a'u hesbonio, nid yw'n syndod iddynt hwythau ymroi i ddarparu fersiwn Saesneg diwygiedig, seiliedig ar y testunau gwreiddiol a'r ysgolheictod beiblaidd a oedd o fewn eu gafael yn Genefa.

Hwn fu man gweithgarwch y teulu am bedair cenhedlaeth wrth drafod yr un priddyn, a phob un am ragor ar y rhai a aeth o'i flaen.

Y teyrngarwch gwaelodol hwn yw "crefydd" ac y mae'n rhoi cyfeiriad nid yn unig i'r ffydd yr ydych yn ei fynegi ond pob gwedd arall hefyd ar eich gweithgarwch.

(i) dim llywodraeth, neu o leiaf ddim gweithgarwch economaidd gan y llywodraeth;

Pan fydd arddangos yn digwydd mae'r plentyn yn cael cyfle i fod yn rhan o bwrpas gweithgarwch, i fod yn rhan o fwriad y sawl sy'n arddangos.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Effaith gweithgarwch hereticiaid fel y Waldensiaid a'r Lolardiaid a'r Hussiaid oedd tanlinellu ofnau'r awdurdodau o ddyddiau Innocent III i lawr at drothwy'r Diwygiad Protestannaidd mai rhwygo undod a dysgeidiaeth a magu annisgyblaeth a gwrthryfel a ddeilliai o roi rhyddid i leygwyr ddarllen yr Ysgrythur.

Yn aml, bydd y frwydr i achub ysgol yn bywiogi pentref ac yn sbarduno gweithgarwch cymdeithasol mawr ac y mae hyn ynddo'i hun yn dangos pwysigrwydd ysgol i bentref.

Gweithgarwch ysbeidiol oriau hamdden oedd barddoni a chystadlu i'r prydyddion hyn, ac er y gallai gwobr eisteddfodol ychwanegu ryw ychydig at economi'r teulu, ni allodd yr un o'r prydyddion hyn fyw ar eu henillion cystadleuol.

A gwyr arweinwyr ein heglwysi mai gwaith pur ddigalon yw ceisio sicrhau gweithgarwch ac ymroddiad gan aelodau eglwysig nad ydynt mewn gwirionedd yn Gristionogion argyhoeddedig.

Mae'n glod i Arolygwyr Ei Mawrhydi, fel Cassie Davies a Margaret Jenkins, iddynt ddyblu eu gweithgarwch ar ôl gwrthodiad eu meistri.

Wrth syllu ar yr holl fLodau sy wedi cael eu trefnu mor ofalus mewn Cloc Blodau fe gewch eich synnu gan yr holl ofal a gweithgarwch sy y tu ôl i'r cyfan.

Ni byddent hwy yn cau ac yn agor yn gysglyd fel petasent am awgrymu bod gweithgarwch anweddus y tafod islaw sylw.

Er enghraifft, credai fod cyfiawnhad tros gynnal pregethu gyda chymorth arian cyhoeddus a phan ddaeth Deddf y Taenu i rym ymunodd pobl Llanfaches gyda brwdfrydedd yn y gweithgarwch.

Gweithgarwch a oedd yn cynganeddu'n berffaith â'i dalentau oedd cynnal dosbarthiadau nos.

Y mae nifer o gymarebau y gellir eu defnyddio wrth ddadansoddi cyflwr busnes; rhai ohonynt yn sylfaenol i bob gweithgarwch masnachol, eraill yn bwrpasol i'r fenter unigol a'r amgylchiadau arbennig ar y pryd.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.