Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gweithiwr

gweithiwr

Y diwrnod o'r blaen yr oedd gweithiwr ffordd yn gwthio berfa lawn o goncrit i fyny planc.

Pan gyrhaeddodd y bwthyn gwelodd fan Telecom yno, a gweithiwr wrthi'm hel ei bac.

Ychydig ddyddiau cyn i mi adael Ljubjana clywsom efallai y gallwn rannu ystafell â'r gweithiwr cymdeithasol.

Er bod gwaith allweddol yn rhan hanfodol o swyddogaeth gweithiwr gofal, gall defnyddwyr y gwasanaeth eu hunain gyflawni tasgau o'r fath.

Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Yr oedd yn rhaid i'r gweithiwr ffwrnais roddi'r platiau'n drefnus yn y ffwrnais, rhai yng nghefn y ffwrnais, eraill yn yr ochrau a rhai yn y blaen, a'u symud o'r naill le i'r llall fel y byddent oll o'r un tymheredd.

Ofnai nad oedd y barwniaid diwydiannol goludog yn malio'r un ffeuen am iechyd, lles a dedwyddwch y gweithiwr cyffredin.

Collai'r blaten dipyn o'i gwres yn y broses, a gwaith y gweithiwr ffwrnais oedd dychwelyd y blaten i'r ffwrnais ar ôl pob part, a'i phoethi eto ar gyfer y part nesaf.

Bu'n dyst i fwrlwm rhyfeddol iawn: 'Yma', meddai, 'y mae fy enaid wedi teimlo ei ingau dwysaf a'i lawenydd penaf.' Y diwydiant haearn oedd yn teyrnasu yn ystod ei gyfnod ef yn Nhredegar, a rhoes Nefydd ddisgrifiad byw o brofiad beunyddiol y gweithiwr haearn yn Nyffryn Sirhywi:

Yr oedd Phil yn tynnu at ei hanner cant oed bryd hynny, ac er iddo gael gwaith mewn pwll glo am y deunaw mlynedd nesaf, fel gweithiwr tun y cofiaf fi ef.

Gwnewch restr o rai o'r llefydd lle gall gweithiwr gofal hyrwyddo datblygiad personol a gwrthweithio diffyg hunan-barch.

Roedd yn rhaid i wraig ffermwr, gwraig gweithiwr cyffredin neu un o'r tlodion weithio drwy'r amser.

Dydi'r ffaith fod gweithiwr gofal ddim yn gyfoed ddim yn golygu nad oes ganddi ran i'w chwarae yn natblygiad defnyddiwr y gwasanaeth o'i hunan-ymwybyddiaeth a'i werthoedd personol.

Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.

Hwn oedd y gweithiwr ablaf a gafodd Sylhet.

Mae'r ugain gweithiwr llawn amser a'r pump aelod staff yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i'r pentrefwyr a gweddill trigolion Arfon.

Yr oedd yn rhad ac o fewn cyrraedd y gweithiwr cyffredin a'i gyflog bychan.

Pan ddeuai'r rheolwr wyneb yn wyneb â Phil gellid meddwl fod dau gydradd wedi cyfarfod â'i gilydd, a pheth cwbl haeddiannol oedd barn y rheolwr mai Phil oedd y gweithiwr gorau yn y gwaith.

Cyflog gweithiwr fferm yn codi o 15/- (75c) i £13.3.0 (£13.15).

Gwelais rhyw foi ar gefn beic, gweithiwr ar fferm mae'n siwr, a chodais fy llaw arno, yntau'n gwneud yr un fath arnaf i.

'No tienen nada,' meddai gweithiwr gwesty y deuthum i'w adnabod yn dda, wrth sôn am gyflwr pobl Cuba.

Gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant ac arolygiaeth ddigonol i alluogi pob gweithiwr

Dibynnai ansawdd y blaten lawer ar y gweithiwr ffwrnais.

'Os na chawsoch chi eich ethol gan y gweithwyr, na'ch enwebu gan undeb llafur, yna mae'n gas gen i eich siomi, ond nid gweithiwr-reolwr ydach chi.

Bu llawer o fân siarad, cyhuddo a bygwth ar ran y grwgnachwyr eisteddfodol, ac aeth rhywrai mor bell â chyhoeddi cân enllibus yn Tarian y Gweithiwr a'i galw'n 'Gân y Cenders'.

Llwyddwyd hefyd i sicrhau cyllid i gyflogi gweithiwr datblygu llawn-amser i Gyngor Henoed Gwynedd.

Y gweithiwr ffwrnais oedd yn gyfrifol am yr holl blatiau a roddid yn y ffwrnais.

Casglwyd arian y gweithiwr o Gymro at y colegau prifysgol.

Yna, gyda thafliad nerthol o fon ei fraich chwith, gyrrid y blaten ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.

Bydd penodi gweithiwr prosiect i ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli yn sbardun sylweddol i wireddu'n amcanion dan y pennawd yma.

Ar ôl treulio rhyw ddwy flynedd yn y Llynges a'r ysbytai, daeth Phil adref ac ailgychwyn yn y gwaith tun fel gweithiwr ffwrnais.

Swyddogaeth y gweithiwr gofal

Ceir darnau gan Watcyn Wyn, Gwydderig a Gwalch Ebrill mewn amryw o'i bamffledi, ac er mai enw'r Meudwy sydd ar glawr Llon lenyddiaeth y gweithiwr (Abertawe c.

Penderfynodd yr UNHCR, ynghyd â sawl asiantaeth a llysgenhadaeth, y dylai pob gweithiwr posibl adael y wlad.

Siaradom â'r is-gyfarwyddwr a'r gweithiwr cymdeithasol ond roedd rhannu ystafell yn broblem oherwydd diffyg lle.

Sut all gweithiwr gofal hybu hunan-barch a helpu unigolion i gynllunio eu patrwm byw eu hunain?

Gyda'r gweithiwr cyffredin yr oedd cydymdeimlad Ieuan Gwynedd ('Nid ydym ond asgwrn o'ch asgwrn, a chnawd o'ch cnawd.' ) a chasâi'r meistri haearn - teuluoedd Harford, Bailey a Homfray - â chas cyflawn.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

'Fel gweithiwr o reolwr?

Yn y cyfamser, cafodd brofiad fel athro ysgol a gweithiwr cymdeithasol yn Lerpwl cyn ei benodi i staff y Western Mail yng Nghaerdydd.

deallodd drannoeth fod y gweithiwr telegraff yn lyons dan orchymyn i ddaearu'r wifren hanner ffordd trwy'r arbrawf, i ddangos i'r comisiwn nad oedd twyll yn bod ; byddai i'r negesau fod wedi parhau yn ddidor ddangos mai ffug oedd y cwbl, ac fod gan hughes gyfaill cyfagos yn cymeryd arno fod yn delegraffydd yn lyons bell.

Doedd ei fam, Melanie, 34, ddim yn gwybod be oedd yn digwydd nes i blismones a gweithiwr cymdeithasol ddod i'r drws.