Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelaf

gwelaf

Ar un olwg gwelaf HANES yr ardal drwy ffenestri fy ystafell a thrwy ffenestri'r meddwl, a dod i'r farn nad oes angen croniclo hanes plwyf di-nod yng nghanol sir Aberteifi gan fod y cyfan o flaen fy llygaid.

unwaith eto dydw i ddim credu fod y rheng ôl yn iawn a chan fod yr alban yn hen feistri ar gamochri yn y sgarmesi hyd y gwelaf i dim ond un o'r rheng ôl sy'n cael eu hystyried fel taclwr, mark perego.

Fe gefais fy magu ar aelwyd grefyddol, lle na chrybwyllwyd erioed y gair 'ofergoelion', eto wrth edrych yn ôl gwelaf fod fy mhlentyndod yn llawn o ddywediadau ac arferion oedd yn ymylu ar fod yn ofergoelus.

Drwy gil fy llygaid, gwelaf Bigw yn edrych ar y pethau am amser hir iawn.

Y dyddiad cyntaf posibl i gael pwyllgor oedd y dydd olaf o Awst, sef dydd Gwener, a gwelaf yn awr wrth edrych drwy'r ffeil am y cyfnod, yr hysbysiad o gyfarfod cyntaf oll y Pwyllgor Llyfrau Cymraeg: Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Addysg oedd hwn, fel y dywedwyd, ond sylwch mai'r Llyfrgellydd oedd yn ei alw, a'r Llyfrgell, nid y Swyddfa Addysg, oedd y man cyfarfod.

Fe'i gwelaf hi'n awr, dynes fawr, afrosgo, ei ffrog ddu wedi'i lluchio'n fler amdani o dan y brat rhosynnau dilewys a groesai ei bronnau hael.

Gwelaf fod cwmni diodydd yn rhannu pwysau a dymbels bychain arbennig ar gyfer ystwytho tafodau pobl.

Fe'i gwelaf.

Os gwelaf, ar ôl imi gael amser i ystyried y mater, mai fy nyletswydd ydyw aros yma, mi rof fling bythol i'r pregethu; ond os fel arall, ni all dim fy atal rhag mynd yno.

Ac os trof fy ngolygon i'r de gwelaf grychydd yn llyncu pysgodyn yn yr afon, a churyll yn ymsaethu i lawr i ddal ei sglyfaeth, a dyn yn bwyta'r oen i ginio.

Byddaf yn gweld rhai o'r cyn-fyfyrwyr pan ddônt ar eu gwyliau, a gwelaf eraill wrth eu gwaith, rhai fel Arfon Huws, sydd yn ymddiddori mewn barddoniaeth erbyn hyn, y ddau Ieuan o Fynytho, Gwynfor Mynytho a Gwynfor Abersoch, Brian Llangian, ac amryw eraill.

Bob tro y'i gwelaf yn y llyfr Emynau 'rwy'n cofio fy nghyfaill a finnau yn ei ganu, ganol nos, yn yr oerfel, o flaen rhyw dy neu fferm yn y wlad.