Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelliant

gwelliant

Mae'r gwelliant a fu dros y blynyddoedd mewn diwyg adnoddau Cymraeg i'w groesawu.

ADRODDIADAU ERAILL ADRODDIAD YR IS-BWYLLGOR CYMRAEG Cyfarfu'r pwyllgor bum gwaith yn ystod y flwyddyn yn ogystal a threfnu dau gyfarfod arbennig gyda swyddogion CCC Cafwyd trafodaeth gyda George Owen, Swyddog Drama C.Dd.C a'r Eisteddfod Genedlaethol, a theimlwyd fod gwelliant cyffredinol yn y trefniadau ar faes yr Eisteddfod ond fod gofyn trafodaeth bellach am rai elfennau.

Yr oedd y wasg wedi dechrau brygawthan am 'rwyg' yn y Blaid, ac ateb y Gynhadledd oedd - unfrydedd tros bolisi cydnabyddedig y Blaid."' Nid oedd unfrydedd llwyr, a bod yn fanwl; ond mae'n debyg fod y rhai a oedd yn anghytuno â'r penderfyniad a basiwyd wedi cilio heb bleidleisio ar y cynnig, ar ôl i'r gwelliant a gynigiwyd ganddynt fethu.

Y pwysicaf o'r rhain oedd y gwelliant a hawliai fod rhaid i 40% o'r etholwyr bleidleisio o blaid ffurfio cynulliad.

I'r sawl a gredai yn nylanwad yr amgylchedd, gallai addysg fod yn llwybr at newid a gwelliant.

Y mae i denant y boddhad moesol o wybod bod pob gwelliant a wna yn lles i rywun arall.

Mae ymchwil bellach i brosesau esblygiad yn parhau, yn ogystal ag ymchwil i geisio trosi'r gwelliant yn ein dealltwriaeth o esblygiad i fyd y cyfrifiadur.

Noda'r adroddiad bod gwelliant yn swm ac ansawdd y deunyddiau oherwydd y projectau hyn, cynllun llyfrau'r CBAC a'r Swyddfa Gymreig a gwaith yr Athrawon Bro.

Yn y ddadl ar y Gymraeg ar lawr y Cynulliad gwrthodwyd gwelliant i ymchwilio i'r angen am ddeddf iaith newydd.

Ac os gwelir gwelliant gweddol, yna mae rhywun wrthin holi pan na wnaethon ni yn well.

Roedd amddiffyn Abertawe ar chwal - sy'n rhyfeddod ynddo'i hunan - ond mi fydd angen gwelliant sylweddol cyn y Sadwrn.