Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwelsoch

gwelsoch

Ni raid i mi ofyn pryd ddiwethaf y gwelsoch chi blant deuddeg oed yn codi cyn y wawr i wisgo amdanynt yn y tywyllwch er mwyn mynd i weithio poncen chwarel, achos drwy drugaredd ni welsoch hynny erioed.

Gair i gall meddan nhw, a diau y gwelsoch o'r Rhagarweiniad fod yr awdur yn siarad o brofiad chwerw o hyn o beth.

Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi ŵr yn cerdded gyda'i filgi ?

Os gwelsoch chi'r llunie teledu, fe fyddech chi'n gwybod pam.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi famau yn magu plant mewn siol?

ac fel y gwelsoch lawer gwaith gorgi, neu geiliog-gwydd, neu gythraul, a ymaflai yn eich sawdl, y mynyd y troech eich cefn, felly y rhai hyn...

Fe'i gwelsoch chi e!

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Gwelsoch sut y mae symudiadau gwan yn yr 'Agoriad' yn arwain i ddiwedd sydyn ar y gêm.

"Mi faswn i'n licio riportio fy mhysan." Dyma fo'n edrach arna i, fel gwelsoch chi glagwydd wedi gweld draenog.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?