Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwendidau

gwendidau

Daw'r gwendidau gweinyddol i'r golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau ym Mhwllheli a Nefyn sy'n profi sawl pwnc.

O hyn ymlaen bwriadwn ehangu'r ymgyrch i gynnwys targedau eraill sydd â pholisïau dwyieithrwydd annigonnol, ac sy'n dangos gwendidau'r Ddeddf Iaith a'r Bwrdd Iaith a grëwyd yn ei sgîl.

Rhai o'i gwendidau sylfaenol yw nad yw'n cynnwys y sector preifat sydd heddiw mor ddylanwadol ym mywydau pobl Cymru ac nad yw chwaith yn ystyried y chwyldro technolegol sydd wrthi yn trawsnewid holl ffurfiau cyfathrebu ac yn awtomeiddio gwasanaethau.

Dylai arolygwyr grynhoi'r cryfderau a'r gwendidau a welir wrth arsylwi addysgu'r pynciau, gan amlygu'r agweddau pwysicaf y mae angen rhoi sylw iddynt.

Mae gwendidau mawr i weld yn y ffordd mae FEFCW yn gweithredu.

Da yw deall felly, nad yw Duw yn rhestru ein gwendidau na'n cryfderau ni.

Does neb wedi dangos sut i symud fel arall.' Iddyn nhw, roedd rhyddid cenedlaethol a syniadau'r farchnad rydd wedi cyrraedd gyda'i gilydd, fel huddug i botes; doedden nhw ddim wedi gweld digon ar gyfalafiaeth i'w deall, heb sôn am weld ei gwendidau.

Y dull gwyddonol yng nghyd-destun eich prif bwnc chwi eich hun Lle Gwyddoniaeth yn y cwricwlwm a'r berthynas rhwng y gwahanol wyddorau a rhwng gwyddoniaeth a thechnoleg, mathemateg a phynciau eraill Datblygiadau diweddar mewn meysydd megis technoleg gwybodaeth, micro- electroneg, a biotechnoleg Perthynas gwyddoniaeth a thechnoleg a bywyd bob dydd ar bob lefel Defnyddio'r amgylchfyd ar gyfer dysgu Asesu Sgiliau sylfaenol asesu a sut i'w cymhwyso wrth ddysgu Sgiliau cadw golwg ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion a'u cofnodi, gan gynnwys swyddogaeth gwaith cartref Sgiliau angenrheidiol ar gyfer cloriannu gwerth gwersi, defnyddiau dysgu a meysydd llafur Iechyd a Diogelwch Yn ogystal â gwybodaeth am ddeddfwriaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch yng nghyd-destun yr ysgol, cynhelir sesiynau ar gyfer pob myfyriwr gwyddoniaeth ar beryglon arbennig labordai bioleg, cemeg, ffiseg ac astudiaethau maes Ymarfer diogel wrth wneud gweithgareddau ymarferol gyda disgyblion Storio a chynnal cemegau a chyfarpar Gofalu am greaduriaid a phlanhigion cyffredin y labordy Egwyddorion sylfaenol ac ymarfer Cymorth Cyntaf Datblygiad Personol a Phroffesiynol Paratoi'r myfyriwr ar gyfer profiad ysgol Datblygu hyder fel athro ac ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau personol wrth ddysgu Hyrwyddo cyfranogi bywiog gyda chydweithwyr wrth ddatblygu a dysgu cwricwla newydd, cynlluniau gwaith, ymarferion theoretig ac ymarferol Bod yn ymwybodol o'r cynnydd mewn ymchwil addysgol, yn arbennig ym maes dysgu'r gwyddorau Astudiaethau Addysg a Datblygiadau Arloesol Bod yn ymwybodol o bwysigrwydd dysgu 'sgiliau proses' mewn gwyddoniaeth Dod yn gyfarwydd a mentrau megis, Cofnodi Cyrhaeddiad, Disgwylir i bob myfyriwr archwilio posibiliadau Gwybodaeth Technoleg, eu heffaith ar arddulliau addysgu a dysgu, a dod i'w defnyddio'n hyderus.

Mae hyn yn dangos yn glir y gwendidau sydd yn y sylfaen gyflogaeth yng Ngwynedd o'i chymharu â siroedd a rhanbarthau eraill.

Y mae gan Aberdaron ei gwendidau, ond y mae'n hollol naturiol, tra bydda i'n sgwrsio ag un o'r mân dyddynwyr yno, imi ei glywed o'n troi at ei hogen a dweud, 'Buddug, dos i nol yr oen bach 'na'.

Oddi ar 1988 caniatawyd sawl datblygiad newydd a barodd tanseilio amryw o gymunedau Cymraeg eu hiaith oherwydd gwendidau Cylchlythyr 53/88.

Yn yr un rhifyn, aeth yr Athro Kevin Morgan, sy'n hen gyfaill i Rhodri Morgan, ati i nodi rhai o'r gwendidau.

Nid yw Hudson-Williams yn rhoi cymaint o sylw i'r pethau hyn; yn hytrach, y mae'n ceisio esbonio eu cymeriad fel pobl, gyda llawn cymaint o bwyslais ar eu gwendidau ag ar eu rhinweddau.

Wedi rhoi i Feibl yr Esgob Morgan y clod a haedda, gweddus yw inni nodi rhai gwendidau ynddo, gwendidau a gywirwyd gan y Dr John Davies.

Darganfu nad oedd yn gallu dygymod â'i duedd flaenorol i gondemnio Eglwys Rufain am ei llygredd a gwendidau eraill, a gofynnai iddo'i hun tybed ai yr eglwys honno yn unig oedd yn ddigon cryf i amddiffyn crefydd yn erbyn ymosodiadau'r rhyddfrydwyr seciwlar.

Er ei methiant cymharol (ac onid trafod llwyddiant a methiant cymharol yr ydym mewn celfyddyd fel mewn bywyd?), fe berthyn iddi liaws o rinweddau, ac efallai fod hyd yn oed ei gwendidau yn dadlennu pethau diddorol am natur ein diwylliant llenyddol yn gyffredinol.

Gwendidau: Yn y cyfnod cyn Quangos, yr oedd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am yr ystod cyfan o ddarpariaeth addysg ar gyfer y gymuned o Addysg Feithrin hyd at Gynradd, Uwchradd ac Addysg Bellach.

Wrth grwydro'r wlad yn beirniadu gwyliau drama rwy'n gweld rhai gwendidau eglur yn y drefn bresennol.