Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwenodd

gwenodd

Yna gwenodd i'r tywyllwch wrth glywed chwerthiniad cras o gyfeiriad y ddau filwr.

Yn y cyfamser gwenodd yn swynol ar feistr y tū, a moesymgrymodd cyn ymadael i fynd i'r boudoir a neilltuolwyd i'r merched.

Disgynnodd ei lygaid brown mawr arnaf A gwenodd.

'Rwyt ti'n fy 'nabod, felly.' Gwenodd Mathew.

"Rwyt ti'n ystyfnig fel mul," gwenodd un nyrs.

"Yn ôl fy hen athro mae brân yn medru canu yn well." "Ta waeth," gwenodd Henri .

Gwenodd yn wawdlyd.

gwenodd y dyn ar y ferch.

Gwenodd ei daid wrth iddo redeg ei fysedd yn ysgafn hyd clawr y llyfr.

Gwenodd Ifor yn wirion.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Gwenodd Bethan arno, gwên swil, wylaidd, "Hai, Bob'.

`Peidiwch â phoeni,' gwaeddodd Gunnar, `fe fyddwn ni'n cael ein hachub gyda hyn.' Gwenodd ar ei wraig a'i ferch un ar ddeg mlwydd oed.

Gwenodd Aled.

"Gwbod beth, Cyrnol?" "Na, wrth gwrs, fedrech chi ddim gwbod, a chithe yn Llunden!" Gwenodd y Cyrnol gan grychu ei fwstas bach, melyngoch, trwsiadus.

Daeth Mrs Paton Jones i'w feddwl, er na fedrai esbonio paham, nac, ychwaith, paham y gwenodd wrth feddwl amdani.

Gwasgodd Cadi fraich Huw, "Diolch i chi, Huw, am ddwad â ni yma." Rhoddodd Huw ei ben i lawr yn swil a gwrido, ond gwenodd yn hapus.

trodd y ferch ei phen a gwenodd arno fe.

Gwenodd arnaf finnau a gwenais innau'n ôl, a dwedais, 'S'mai heno?' Hwyrach imi ymddangos yn rhy gyfeillgar oherwydd trodd yn ôl ac eistedd yn blwmp wrth f'ochr i.

Daliodd Ifor hi a gwenodd fodfedd o'i thrwyn.

"Mi glywais fod Monsieur Leblanc yn hael iawn y dyddiau yma," gwenodd, gan agor y map ar y gwely.

Gwenodd yn serchog ar y dyn.

Gwenodd y wên ynfyd sy'n rhagflaenu caru.

Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen.

Helô, Rhys; a sut wyt ti, pwt?' gofynnodd i Mali a gwenodd Mali lond ei hwyneb.

Gwenodd hwnnw ac ateb, 'Wyddost ti ddim.

Gwenodd o glust i glust.

Sylwodd yr hen ŵr ar yr ystum a gwenodd yn egwan.

'Doedd dim llawer o siâp ar bethau heno, ac 'rwy'n siwr y byddai'n well gan Enoc i mi beidio â bod yn rhy amlwg." Gwenodd Breiddyn.

Oes 'na bosib i mi gael un cip bach arni ar ôl cyrraedd Karachi?" Gwenodd y Cadfridog.

'I enw fe yw Craig-y-don." Gwenodd ei wraig.

'Yr hen fformiwla gyfleus eto, wela i.' Gwenodd ac edrychodd dros ei ysgwydd heibio i'r drws.

Sylwodd Sylvia mor ddi-gychwyn oedd hi, a gwenodd.

"Yn union," gwenodd Henri.

Gwenodd ar y gyrrwr ac wedyn ymlwybrodd yn drafferthus i chwilio am sedd.

Gwenodd y wraig.

Gwenodd y pump ar eu mam.

Gwenodd ar y milwr urddasol a ymsythai wrth ei ochr, cyn ychwanegu, "Mae Herr Von Kleist wedi gorchymyn bod y ddogn fara i godi dros gyfnod y Nadolig.

Gwenodd Willie'n garedig arno a diolch drachefn.

Gwenodd Rhodri ar ei beint.

Gwenodd yn oeraidd o'i chlywed yn gwyrdroi ei eiriau.

Yna gwenodd.

"Mae'n sicr mai teimlo'n unig rwyt tithau hefyd, gwenodd y morwr, gan deimlo'n well nag a wnaethai ers oriau gan fod ganddo gwmni.

Gwenodd Heledd.

Fe ddof yma yfory i gael diwedd y stori," gwenodd Louis arno ond er bod ei lais yn mynd yn wanach am ei fod wedi blino.

Llanwyd ei ffroenau ag oglau gwlydd a phridd, a gwenodd wrth feddwl iddi ennill y frwydr i beidio â'u golchi.

Gwenodd Lowri'n sur ar y ddau, yna trodd ei chefn i gyfarch Cyrnol Price, Rhiwlas, a'i wraig.

Gwenodd arnaf, ac yna daeth rhyw olwg i'w llygaid - 'alla i ddim ond ei ddisgrifio fel slei.

Edrychais arno yn syn, gwenodd gan roi ei fys ar ei geg gan sibrwd, "Karachi%.

"Nid ceisio pregethu yr oeddwn i." Gwenodd Snowt, yn foddhaus.