Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwersyll

gwersyll

Pan oedd pawb wedi cilio i'w cytiau, roedd un o fechgyn y Llynges yn crwydro o amgylch y gwersyll yn chwilio am hoelion a darnau o bren a sachau, ac wedi iddo lwyddo i gael digon o ddefnyddiau aeth ati i wneud gwely bach reit handi iddo'i hun.

Yr oedd y posteri i hysbysebu'r cyngerdd yn artistig tu hwnt; y cwbl ar bapur wedi ei ddwyn a'i smyglo i'r gwersyll.

Ac felly, wrth gwrs, y bu, er dadrithiad i'r casglwyr enwau ac er siomedigaeth i ffermwyr Llŷn oedd wedi meddwl am gael gwneud eu ffortiwn wrth werthu tatws i'r Gwersyll.

Fe'n hysbysodd ein bod i fynd yn ddiymdroi i fan arbennig yn y gwersyll lle'r oedd unedau o ddirprwyaeth filwrol wedi ymgasglu.

Drannoeth, roedd mewn gwersyll i garcharorion rhyfel.

Bywyd undonog oedd bywyd heb waith, fodd bynnag, a phob diwrnod fel ei gilydd, a dim gwybodaeth o gwbl am yr hyn oedd yn digwydd yn y byd mawr y tu allan i ffiniau'r gwersyll.

Sefydlwyd gwersyll heddwch i fenywod yno, gyda Thalia yn un o'r sefydlwyr gwreiddiol.

Goruchwyliwr y gwersyll oedd gŵr di-flewyn-ar-dafod o'r enw Ismail Krief.

Ei bwriad yw sicrhau bod rhywbeth i'w fwyta gan y plant ifainc, yn enwedig y rhai sydd newydd gyrraedd y gwersyll.

Bugail oedd Ivan ac roedd ef, ei ddiadell a'i gŵn sawl milltir o'u gwersyll.

Daeth Bedwin ar gefn camel i'r gwersyll un prynhawn mewn brys gwyllt i ddweud bod patrol yn symud yng nghyfeiriad gwarchodwyr y criw, a'i fod wedi aros, am y noswaith mae'n debyg, rai milltiroedd i ffwrdd.

'Diben y gwersyll yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth,' meddai.

Gwersyll Comin Greenham

Aeth y gwersyll yn ddistaw a chodwyd ambell ddryll.

Rhaid oedd i reolwr y gwersyll eu stampio - er mwyn i'r awdurdodau wybod lle 'roeddem wedi bod.

Goruchwyliwr y gwersyll oedd Ismail Krief, gwr nad oedd yn credu mewn gwastraffu geiriau.

Aros y tu allan i'r orsaf hyd ddau yn y prynhawn, gan ddisgwyl cerbyd o'r gwersyll.

Y tu cefn i'r straeon doniol, mae yna ochr arall ac, wrth fynd i ffilmio mewn gwersyll haf i blant mwya' addawol y wlad, y cefais i fy mhrofiad mwya' ysgytwol yn Libya.

Eto i gyd, mae'r plant hyn yn cael eu hystyried yn ddigon ffit i fedru byw yn y gwersyll ei hun.

Mae'r teimlad yn y gwersyll yn dda, meddai cefnwr Abertawe, Kevin Morgan.

Fe yw is-gadeirydd Pwyllgor Ffoaduriaid y Gwersyll.

Erbyn hyn roedd y jetiau wedi glanio a thrwy'r dail gallai Elen weld y llinyn truenus o garcharorion yn cael eu gwthio tua giatau'r gwersyll newydd a oedd wedi'i agor ar lannau'r llyn.

Pan sefydlwyd y gwersyll dair blynedd yn ôl, y bwriad oedd ei drosglwyddo i ofal y bobl leol, ond mae'r argyfwng eleni wedi newid y sefyllfa.

Wedi inni gyrraedd gwersyll Argyle Street ar Ynys Hong Kong dadlwythwyd ein holl baciau ar faes y parêd a chefais orchymyn i ofalu am tua dwsin o welyau.

Agorwyd y gwersyll ym mis Chefror eleni, a does dim toiledau wedu cael eu codi eto.

Mewn un gwersyll, cwerylodd dau ddyn wrth iddyn nhw baratoi bwyd a chafodd un ei drywanu i farwolaeth.

Benfro, a bygythiad arall ar ddechrau'r pumdegau i feddiannu pum mil o aceri yn Nhrawsfynydd, yn ychwanegol at y gwersyll a oedd yno.

Aeth y tu allan i'r gwersyll i geisio'i ddiddanwch, ac yn ôl y si (ac anaml iawn y byddai'r 'si' yn ddi- sail), yr oedd mewn helynt dros ei ben a'i glustiau.

Roedd canlyniad yr ymdrech mor amlwg - symud bwyd o gefn hofrennydd i'r blaen a'i basio trwy gadwyn ddynol i storfa'r gwersyll.

Tybiais mai pwrpas y pedwar gwersyll oedd cymell y plant i chwarae, canu a dawnsio i gyfeiliant 'Y Llyfr Gwyrdd' - ond roeddwn yn gwbl anghywir.

Mynnai'r Koreaid gario allan orchmynion Siapaneaid y gwersyll, ond nid oedd y drefn hon bob amser yn cyd-fynd ag amserlen y Siapaneaid oedd yn gyfrifol am y gwaith.

"Dyden ni ddim am wneud yr un camgymeriad eto," chwarddodd pennaeth y gwersyll yma gan gymryd coesau metel oddi arno.

"Edrychwch ar ei ôl o'n ofalus nes cyrhaeddwn ni'r gwersyll newydd." "Reit, syr." Ond wedi meddwl am y peth dechreuais deimlo braidd yn flin fod y Capten mor hunanol, a phan ddaeth y lori heibio i lwytho'n taclau, a minnau'n helpu gyda'r gwaith, dechreuais ddyfalu sut y gallwn i ei ffidlan hi i gadw fy ngwely.

'Maen nhw'n dwlu ar blant - gan gynnwys plant o wledydd eraill.' Yn Havana y mae'r Ciudad de los Pioneros, gwersyll haf sydd â llety i ddeng mil o blant.

20,000 o ferched yn clymu dwylo ac yn amgylchynu gwersyll Comin Greenham mewn protest yn erbyn gosod 96 o daflegrau Cruise yno.

Pan oedd Samaria dan warchae, a gwersyll y Syriaid tu hwnt i'r gorwel yn rhywle, yn tagu'r ddinas gan newyn, fe ddaeth pedwar gwahanglwyf at y pyrth.

Mae'n debyg bod ei enw e i lawr ar restr yr undesirables sydd mewn gwersyll rywle tua Wick yn yr Alban.

Darllenwn eto hanes y gwragedd ar fore'r Atgyfodiad yn mentro allan i wersyll y gelyn, a darganfod fod y gwersyll yn wag.

Fe gawson ni gyfle i dalu'n ôl i rai ohonynt wrth rannu gwersyll ar gyrion Zacco, a rhannu crât o gwrw â nhw.

Roedd yr achosion mwyaf difrifol yn cael eu trin yn ysbytai'r brifddinas, a gweddill y plant yn cael gofal a gwyliau bythgofiadwy ar draeth y gwersyll.

Ac yna dyma ddychwelyd i'r gwersyll, i noswylio, gan obeithio am well hwyl ar gysylltu â'r Cristnogion yn y bore.

Cefais wybod, ar ôl rhoi sigare/ t iddynt, eu bod mewn gwersyll gan y Llynges yn 'Puffeli' - fel yr ynganent hwy yr enw.

Yn y gwersyll a godwyd gan y fyddin, roedd meddygon milwrol yn croesawu'r ffoaduriaid - yn rhoi prawf iddynt a'u cofrestru.

Es i weld un gwersyll ar yr un pryd â'r Gweinidog dros Ddatblygu Tramor, Lynda Chalker, (Y Farwnes Chalker erbyn hyn).

Anodd oedd cynefino â rheolau caeth y gwersyll newydd.

Ychydig a wyddai'r diniweitiaid oedd yn crwydro'r wlad ar gefn beic i gasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu rhoi adeiladau gwersyll y Llynges ym Mhenychain i 'Byclins' ar ol y rhyfel fod cytundeb yn bod cyn eu codi erioed rhwng Billy, a barchusodd i Syr William, a'r 'admirality', mai eiddo Butlin fyddai Penychain ar ol y rhyfel.

Mentro wnaeth y pedwar i'r gwersyll, a chael fod y gwersyll yn wag, gan weld fod holl bryder a dioddefaint y ddinas yn ddi-alw-amdano.

Os yw'r sefyllfa yn Hartisheik yn wael, dyw hi ddim hanner cynddrwg ag yn Kebri Beya, y gwersyll nesaf ar y ffordd yn ôl i Jijiga.

Mae rhai degau o ffeiliau sy'n ymwneud â gwersyll Comin Greenham o ddiddordeb arbennig.

Un o warchodwyr sefydlog y gwersyll oedd, ac fe'i bedyddiwyd yn 'Gwep Babi', am ei fod yn llywaeth, a rhyw olwg ddiniwed arno.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

Agor y gwersyll-garchar cyntaf yn Dachau.

Er bod y gwersyll mewn ardal goediog braf, a bod yna gyfleusterau chwaraeon pur foethus gerllaw, buan y gwelsom nad ar gyfer pobl gyffredin Prâg yr oedd y rhain.

Mynd o amgylch y gwersyll i ofyn i bob copa am unrhyw gân, neu ran o gân a gofiai, a gofyn iddo ei hysgrifennu.

`Diben y gwersyll,' meddai, `yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth.

`Fe es i nôl i'r gwersyll ac, hyd yn oed yno, doedd fiw imi ddechrau crio.