Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwestiwn

gwestiwn

Fe gawn ni'r ateb i'r ddau gwestiwn yna o fewn yr wythnosau nesa.

Mae'n gwestiwn ers tro am ba hyd fydd John Hartson yn aros yn Wimbledon.

Mae'n cynnig rhai atebion i'r cwestiwn "Pam?" yn hytrach na "Phwy?" ac yn ddwy awr o fyfyrdod digon boddhaol ar gwestiwn llosg (sori, mae nhw'n slipo mas ambell waith).

Y prif gwestiwn oedd nid sut allai Duw, yn rhesymegol, lwyddo i ddod yn ddyn, ond sut allai dyn marwol ennill anfarwoldeb neu ddyn pechadurus gael ei gymodi â'r Duw sanctaidd?

Y prif gwestiwn gan rai felly yw, faint o fwyd planhigion sydd ynddo, a yw cystal a gwrtaith buarth fferm neu Growmore sydd wedi dal ei dir mor dda ers blynyddoedd yr ail ryfel byd?

Cyn mynd ati i chwilio am atebion i'r ddau gwestiwn, efallai y byddai'n well i ni edrych ar y cyswllt, y cyd-destun, y cefndir, y math o lefydd lle mae plant o dair i bump oed yn derbyn eu haddysg feithrin.

'Clywch gwestiwn y llanc.

Nofiodd ei gwestiwn tuag ati ar gwmwl o faco-cetyn drud.

Buom yn cerdded am tua milltir yn eu dilyn ar hyd y Broadway - yn gofyn ambell gwestiwn i un a'r llall, ac yn gweled y derbyniad cynnes a roddid iddynt gan y New Yorkiaid ar eu taith drwy eu dinas tua'u cartref.

Mae'n gwestiwn gen i a oes 'na Gymro yn y stafell hon heno nad oes ganddo berthnasau naill ai yn Awstralia, Seland Newydd neu Ganada.

Erbyn hynny nid angen athro oedd arnom ond "referee%, a gwnaeth Bob Edwards y gwaith hwnnw'n orchestol gan daflu ambell sylw neu gwestiwn bachog i ganol y stormydd geiriol.

Ym mis Rhagfyr fe gododd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad gwestiwn diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Ateb negyddol a roes i'w gwestiwn, yn gwbl resymegol felly, gan mai y Gymraeg oedd priod gyfrwng llenyddiaeth Cymru.

oedd ei gwestiwn cyntaf.

Ond doedd yna fawr o gynildeb yn ei gwestiwn.

Y mae'n gwestiwn, a dweud y lleiaf, a oedd pawb yn darllen y stori hon fel llith rybuddiol.

Gall dosraniad anghywir o'r argost effeithio ar bolisi prisio'r busnes, a bod yn niweidiol pan yw'n gwestiwn o gynnig pris yn erbyn cystadleuaeth.

Penderfynwyd hefyd mai trwy weithgaredd neu gwestiwn a fyddai'n ysgogi adfyfyrio ac ambell sylw'n dilyn hynny wedyn y byddid yn cyflwyno.

'Oes gynnoch chi unrhyw gwestiwn eto?' gofynnodd Rhian.

Ar y llaw arall, y mae diffyg ymwybyddiaeth, hyd yn oed difaterwch yn arwain at ddiffyg hyder, sydd yn ddi-gwestiwn yn tanseilio cynnydd.

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

'Nac ydi siŵr, ond mi fydda i'n taflu geiriau mawr o gwmpas y lle cyn symud reit gyflym at y pwynt nesa.' Dros y blynyddoedd daeth Rhian i dderbyn bod y ffaith mai merch oedd hi'n gwneud yn haws ei brifo gan gwestiwn mor ddwys â hwn.

'A!' gwaeddodd Geraint mewn braw; doedd o dim wedi disgwyl ateb i'w gwestiwn, a chiliodd yn ôl i ben pellaf yr ystafell.

Y mae a wnelo'r frawddeg ynghylch lleoliad Gwilym druan, ac yn ei sgil yr holl broses o raddio cwrs, â'r ail gwestiwn.

"Pa gwestiwn?'

Yn ystod ymweliad diweddar a Chanada sylwais fod hwn yn gwestiwn a oedd yn cael ei wyntyllu o ddifrif.

Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.

Hyd yn oed os mai naddo oedd yr ateb i'r ddau gwestiwn, y mae'n debyg eich bod yn gwybod bod y ffordd y mae pobl yn byw yn amrywio yn fawr o un rhan i Brydain i'r llall.

Byddai Modryb Lisi'n difetha pob sbri, a chaniatau y byddai hi'n fodlon dod, ac roedd hynny'n gwestiwn gen i.

Yr oedd tri ateb derbyniol i gwestiwn 5 : Y bardd, Gwyndaf, gyfansoddodd y geiriau yr ias yng Ngruddiau'r Rhosyn yn wreiddiol, mabwysiadwyd y geiriau yn deitl i'w nofel gan Gwyn Llywelyn a'r cymeriad yn y nofel a deimlodd yr ias oedd Alun Edward Lloyd.

Tudalen Negeseuon Unrhyw gwestiwn ynghylch â Gogledd Cymru?

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

...ond, mae'n anodd o hyn ymlaen wahaniaethu rhwng ymateb yr athrawon bro ar y naill gwestiwn rhagor y gweddill.

Saethais ddau gwestiwn ato: 'Be goblyn wyt ti'n neud yn ista'n fan 'na?

Y prif gwestiwn y mae'n rhaid i ni ei wynebu o fewn i'r Testament Newydd ynglŷn â'r iawn yw paham y bu Crist farw.

Ond mae busnes y chwaraewyr o ffwrdd yma yn gwestiwn dyrys.

BYW MEWN DYLED Y mis diwethaf fe addawyd y buasem yn rhoi sylw i gwestiwn arall gan un o ddarllenwyr Tafod Elai y tro hwn, ac fel mae'n digwydd, fe welwch ei fod yn un hynod o amserol a pherthnasol: Annwyl Syr, Clywais fod Cyngor Taf Elai wedi penodi swyddog datblygu Undebau Credyd.

Rhaid meddwl o ddifrif am alw'r Gynhadledd y soniwyd amdani, a'r ddau gwestiwn a gyfyd yn naturiol ydyw pwy a i geilw ac ymhle y'i cynhelid?

Cywilyddiaf o feddwl am ein cwestiwn iddo: "Beth sydd gyda ti inni?" Ond câf fesur o gysur wrth ddarllen mai dyma gwestiwn John Gwilym Jones i'w dad yntau hefyd.

Pan geisir olrhain dysgeidiaeth yr Hen Destament ar gwestiwn cenedl, deuir wyneb yn wyneb â'r broblem a drafodir ymhob ymgais i ddadansoddi hanfod cenedligrwydd, sef y gwahaniaeth rhwng 'pobl' a 'chenedl'.

Cyfeiriodd at gwestiwn y llynedd ynghylch trefniant gwaredu gwastraff i'r dyfodol drwy ddweud bod y Cyngor wedi derbyn dau dendr ac wedi ystyried adroddiad manwl ar y tendrau.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.

"Mae gynno fo gwestiwn i'w ofyn iti." "Oes," ategodd Snowt.

Gan fod holl gwestiwn paham y cafwyd y cyfryw ddadeni ag a welir ym marddoniaeth y Gofynfeirdd heb sôn am paham y cafwyd eu 'rhieingerddi' ynghlwm wrth y cwestiwn hwn, mi fydd efallai'n fuddiol trafod cefndir y rhieingerddi ynghyd â chefndir cyffredinol canu'r Gogynfeirdd yn hytrach na cheisio ateb pendant penodol na all beidio â gorsymleiddio'r sefyllfa.

"Nac ydych," atebodd ei gwestiwn ei hun.