Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwibio

gwibio

A'r peth nesaf y gwyddai Meic, roedd yn gwibio'n nes at yr anghenfil disglair gan ergydio at ei goesau gyda'r fwyell.

Roedd o o gwmpas Cri'r Wylan yma mor aml, ac yn gwibio yn ol ac ymlaen yn ei fen ar negeseuau hollol ddiniwed.

Aethai unwaith yn yr hanner cyntaf, ac ar ôl y gôl gosb a chael pas Moon o ryc, gwelodd ei gyfle a gwibio trwy'r bwlch i sgorio ar y chwith.

"Mae pawb yn gwibio fel mellt." A hynny sy'n wir.

Ond gallaf weld Mary O'Riordan, nyrs o Ddulyn sy'n gweithio i Gronfa Achub y Plant, yn gwibio'n nerfus rhyngddynt.

Roedd pethau rhyfedd yn gwibio drwy fy mhen.

A'r Mirages sydd yn gwibio mor gyflym.

Ar y creigiau o'n blaenau gwelwch y bilidowcars a'r fulfran, yn sefyll fel milwyr ar wyliadwriaeth, yn barod i godi a gwibio o fewn trwch blewyn i'r ewyn ar sgwat am bryd blasus.

Os haul yw pob rhyw seren sy'n gwibio yn y ne' Os cylch y rhain mae bydoedd, a lloerau'n cadw eu lle, Od oes trigolion ynddynt, neu ynte nid oes un, Y cwbl oll a grewyd gan fysedd Mab y Dyn.

Fel pe baen nhw'n mynnu profi'r pwynt, mae nifer o fan bentrefi yn gwibio heibio'r ffenest fel rwy'n ysgrifennu, ar fy nghaith o Delhi i Calcutta yn y tren.

Yma mae cartref y Glas y Dorlan prin coler wen yn gwibio yn ôl a blaen.

Dyna ni'n gwibio heibio Prestatyn heb stopio; heibio i'r Rhyl, Abergele, Bae Colwyn.

Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.

Wedi teithio am ysbaid gyda'r ddau yn syllu'n ddiymateb drwy'r ffenest ar y wlad yn gwibio heibio, mentrodd Merêd dorri 'r ias.

Brasgamodd yr Arolygydd i mewn i'r buarth a golau ei lamp yn gwibio yma ac acw o gwmpas cefn y tŷ.

A gwibio yn waeth wnân nhw fel maen nhw'n gneud ar ôl lledu pob croeslon.

Wrth raddio, neu adeiladu gwers ar wers ar wers fel y bo'r cwbl yn gydlynol ddatblygol, yn hytrach na gwibio o un pwnc ieithyddol i'r llall, gellir gwneud hynny'n broffesiynol neu weithio'n amaturaidd.