Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwich

gwich

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

Teyrnged i ferfa cyn i'w holwyn roi ei gwich olaf ar ei ffordd i ddiddosrwydd Sain Ffagan.

Rhyw wawch uchel o chwerthiniad ydoedd, ebwch a oedd yn amrywio rhwng rhuad a gwich, a'r ffrwydriadau hynny'n mynd ac yn dod am hir, hir.

Yr oedd gwich Ms Wright yn un o ddau beth a ddigwyddodd yn ddiweddar i beri im cenhedlaeth i ymhyfrydu yn y ffaith nad ydyn nhw'n sgwennu caneuon fel yna mwyach.