Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwingo

gwingo

Mi oedd hi'n brysur iawn ar y cei hefyd - llonga'n dŵad i mewn a llond 'u rhwydi nhw o bysgod yn gwingo 'run fath â phryfaid genwair - O!

Roedd 'i ysgwydde'n gwingo a gwayw ffiaidd dan asgwrn 'i frest.

Anaml y gwelid ef yn sefyll yn bwyllog yn ei unfan, am y byddai'n gwingo'n barhaus.

Sôn am feddwl gwirion, - ond roedd fy nghylla druan yn gwingo o eisiau rhywbeth cynnes a blasus i'w lenwi.

Yna, dringo o ddifrif dros glogwyni o gregin llosg a'r llwybr yn arwain weithiau dros wyneb y graig ei hun nes gwingo o'r coesau gan flinder.

Teimlai'r pry genwair yn gwingo yn ei law ac yna'n neidio wrth i'r bachyn ei drywanu.

Ohoni hi y daw pob carnfuchedd a hwnnw wedyn yn magu nerth fel cynrhon yn gwingo'n dwmpath yn nrewdod hen garcas.

Hwre!' gwaeddem ninnau, yn gwingo yn ein cadeiriau gan bleser ac yn ymbaratoi am yr ugeinfed tro i glywed yr ias yna i lawr y meingefn.

Efallai mai'r siâp sarffaidd, a'r gwingo cryf, neu'r sleim gludiog sydd yn gyfrifol.

ac yn gwingo wrth y bachyn roedd brithyll braf.

'Reildro pan ddychwelais ato'n bryderus, sylwais fod ei ddysgl blastig a oedd yn dal arfau'r feddyginiaeth yn gwingo ar gledr fy llaw.