Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwladwriaethol

gwladwriaethol

Ni chadwai hyn ni, fodd bynnag, rhag dilyn gofynion gwladwriaethol y cyfnod a hawlid ugain wythnos arall o'r flwyddyn at wasanaeth y wlad.

Hanfodion Unod Gwladwriaethol

Defnyddio'r genedl a wnânt i amcanion gwladwriaethol, tra bo cenedlaetholdeb yn ceisio datblygu adnoddau moesol a materol y gymdeithas genedlaethol.

Am fod Eglwys Loegr yn sefydliad gwladwriaethol Seisnig, ac y rhai a fynnai fod yn angymdeithas sifil Seisnig, ystyriwyd y rhan a fynnai fod yn annibynnol arni, boed y rheiny yn Annibynwyr, yn Fedyddwyr, yn Bresbyteriaid neu'n Grynwyr, yn fygythiad i'r drefn wladol Seisnig, gyda digon o reswm fel y dangosodd Cromwell.

Pwysig hefyd yw sylwi ar honiadau Tsieciaid a Chroatiaid Awstria (fel y Magyariaid - ac Albanwyr Prydain) bod gan eu hen deyrnasoedd nodweddion gwladwriaethol o hyd, er na chymerid yr hawliau hyn o ddifrif gan yr awdurdodau.

Mae statws y Gymraeg yn wanach na nifer o ieithoedd eraill Ewrop nad ydynt yn ieithoedd gwladwriaethol.

Nid gweithredu gwladwriaethol yw'r gweithredu pwysicaf oll, fel y tyb rhai.