Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwledd

gwledd

Roedd hi wedi bwriadu cael gwledd gyffelyb y llynedd, ond cafodd Eurwyn ryw virus a bu'n rhaid gohirio tan eleni.

Er mai edrych ymlaen at arddangos trin gwallt yr oedd yr aelodau, cawsom gystal gwledd a llond gwlad o ddifyrrwch.

Eisteddasom ar gerrig oedd bron o'r golwg dan orchudd o fwsog a chen llwyd wyrdd ac oren a bonion clustog Fair yn argoeli gwledd o liw yn yr haf.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Cafodd y fraint o arlwyo gwledd i'r ddiweddar Frenhines Mary, ac wedi hynny, i'r Dywysoges Elisabeth (fel y'i gelwid bryd hynny), y Tywysog Philip, yr Arglwydd Mountbatten a llu o enwogion eraill, megis Mrs Eleanor Roosevelt, Syr Winston Churchill a Dug Caerloyw.

Ar y grib nefolaidd cawsom hufen iâ, gwin a gwledd o olygfa i lawr dros y pîn i'r smotiau tai a'r twr eglwys a oedd fel rhithlun yn nhes haul y dyffryn.

Mae'n drist meddwl na chaiff merched godre Ceredigion arlwyo gwledd ar gyfer y tywysog mwyn byth mwy ar ben yr odyn yng Nghwmtydu.

Cyfarfyddodd a Maelon Dafodrill, tywysog ifanc, golygus, mewn gwledd a syrthiodd y ddau mewn cariad a'i gilydd.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Yn y dull traddodiadol Gymreig roedd yn rhaid cael pwyllgor i ddod a phopeth i fwcwl gyda dros 300 o Gymry yn edrych ymlaen at fwynhau gwledd Gwyl Dewi yn un o westai Dubai yng nghwmni'r gwr gwadd, Phil Steele o adran chwaraeon BBC Cymru Wales.

Ond roedd gŵyl y Nadolig yn nesa/ u a gan ei bod yn dymor o ewyllys da, penderfynodd y tafarnwr yn Plouvineg gynnal gwledd gan wahodd holl drigolion y plwyf yno i'w mwynhau eu hunain.

Byddai'r merched a'r gwragedd wedi paratoi gwledd i'w mwynhau yn yr awyr agored, a byddai'r darlithydd fynychaf yn torri ei ddarlith yn ddwy ran - un cyn y picnic mawr a'r llall ar ôl hynny.

Mae gwledd rygbi mis Tachwedd wedi dechrau.

Gwledd arall gydag aelodau adran Saesneg y coleg.

Dros y ddwy flynedd nesaf gall y gwylwyr a'r gwrandawyr ar draws y DG dderbyn gwledd gyfoethog o raglenni o Gymru.

Aeth Robin ymaith wedi cael gwledd i'w enaid tlawd, er nad oedd y stori i gyd wrth ei fodd; ond yr oedd ganddo stori i'w thaenu.

Cafwyd gwledd urddasol a symudodd pawb allan heb anghofio'r calabash wrth gwrs.

Y diwrnod pan fyddai seremoni moli'r Ddinas yn cael ei chynnal, ac yna gwledd arbennig i'r holl drigolion.

Mae etto i ti groeso, Mae gwledd nefol yn aros am danat.

Mae'r byd yn dyheu am weld gwledd o bêl-droed y tro hwn