Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwleidydd

gwleidydd

Cnays pan fo cyfreithiwr yn dechrau dweud: 'Dylid deddfu fel hyn neu fel arall', yna mae'n tresmasu ar faes y gwleidydd.

Prif nodwedd y diwinydd da yw ei allu i ddatgan bod Duw yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono: prif nodwedd y gwleidydd da yw ei allu i ddangos bod gwleidyddiaeth iach yn fwy nag unrhyw athroniaeth wleidyddol.

Roedd yn anrhydedd mawr pan ymddangosodd pedwar gwleidydd blaenllaw sef Mary Robinson, Mikhail Gorbachev, Eduard Shevardnadze a Lech Walesa mewn rhaglen arbennig, Dathliad Gwag? a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Cymru gan y cwmni annibynnol, Quadrant.

Cafodd Zoff ei feirniadun llym am arddull amddiffynnol ei dîm yng Nghystadleuaeth Euro 2000 gan y gwleidydd a pherchennig AC Milan, Silvio Berlusconi.

Ond draw y tu hwnt i fynyddoedd Ural doedd doniau'r gwleidydd slic ddim mor bwysig mewn dinasoedd lle roedd y ciwiau bwyd yn dal i ymestyn.

Go brin ei fod o y gwleidydd cyntaf i fod yn euog o'r drosedd honno.

Pan dynnwyd sylw'r gwleidydd dylanwadol, Iarll Leicester, un o noddwyr y Piwritaniaid, at yr hyn a ddigwyddodd yr oedd yn bur ddig a mynnodd gan yr esgob atal ei law.

Rhan bwysicaf gwaith y gwleidydd yw ceisio sefydlu'r amodau i helpu pobl bob yn un ac un i fyw'r bywyd helaethaf posibl.

Ond fel pob gwleidydd da, ymddengys bod Jane wedi llunio rheolau cyfansoddiadol go bendant ar gyfer y digwyddiad.

Hunangofiant y bardd, gwleidydd, cyfreithiwr a barnwr, W.R.P. George.

Ni fu yna'r un gwleidydd tebyg mewn sefyllfa mor gref yn yr arolygon barn ar yr adeg hon yn y cylch etholiadol.

Mae car arall yn tarfu ar y dyfalu - gwleidydd y tro hwn - Paul Murphy, yr Ysgrifennydd Gwladol.

Bu'r gwleidydd ifanc yn Beronist da.

Nid yw pob gwleidydd yn dwp.

Os yw'n credu bod teulu a chymdogaeth yn sefydliadau sy'n gymorth i bobl gael bywyd helaethach nag a gaent hebddynt, ceisia'r gwleidydd sicrhau amodau sy'n help i'w cynnal a'u cryfhau.

Erbyn troad y ganrif 'roedd y gwleidydd ifanc disglair hwn wedi bod yn areithio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers deng mlynedd, ac 'roedd deugain mlynedd arall o areithio o'i flaen.