Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwleidydda

gwleidydda

Nid bywyd ynysig ar wahân i'r boblogaeth ehangach yw gwleidydda yma, yn rhannol efallai am nad symud yma a wnaeth yr aelodau mwyaf gweithgar.

Ar ddechrau'r saithdegau roedd yna duedd i feriniaid llenyddol Gorllewin yr Almaen ynghynt wawdio'r awduron hynny a oedd gynt wedi mynnu mai gwleidydda uniongyrchol oedd yn bwysig uwchlaw dim, ac a oedd nawr yn dychwelyd at lenydda wedi gweld methiant eu dyheadau.

Mae'n rhaid trawsnewid diwylliant dwyieithrwydd o fewn gwleidydda a llywodraethu os ydym am gael mwy na façade ddwyieithog i Adeilad y Cynulliad.

Dyma un her i'r hinsawdd wleidyddol Gymreig newydd: creu diwylliant gwleidydda a llywodraethu yng Nghymru sydd yn weithredol ddwyieithog.

Yn ôl Dylan Phillips, 'Go brin fod gan yr aelodau cyffredin y diddordeb lleiaf yn yr athronyddu a'r gwleidydda: profiadau uniongyrchol y brotest a'r weithred a oedd yn eu diddori hwy' (t.181). I fudiad ymgyrchu dyma un o'i gryfderau: tra bod rhai mudiadau eraill yn trafod beth i'w wneud, mi roedd aelodau'r Gymdeithas yn gweithredu ac yn tynnu sylw at ddiffyg statws yr iaith.