Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwm

gwm

Yr hyn sy'n ddychryn i mi (nad wyf eto'n hanner cant, ac a faged yn nhop Gwm Tawe a thop Cwm Aman yn y pumdegau) yw bod cynifer o'r arferion a ddisgrifia hi yn arferion yr wyf i'n eu cofio.

Nes i mi, oedd yn dod o gwm diwydiannol yn y de sylweddoli fod tymor wyn bach yn galw am ofal a bugeilio ymroddedig, ac wedi'r wyna, oedden, roedden nhw nôl yn eu seddau.

Aiff y ddwy, y naill i Gwm Irfon a'r llall i Gwm Elan, â chi i olwg sawl lle o ddiddordeb hanesyddol neu chwedlonol.

Oni chlywsom am Gwm Ogwr o'r blaen?

Yn ol un chwedl yr oedd Elen Luyddog yn teithio trwy Gwm Croesor pan ddaeth cennad ati a dweud wrthi fod mab iddi wedi cael ei ladd ger Castell Cidwm, Betws Garmon.

Un diwrnod daeth Idris i gwm tywyll, ynghudd dan geseiliau mynyddoedd uchel oedd yn drwch o goed pinwydd gwyrdd.

O ganlyniad, roedd sicrhau gwisg Gymreig i'r ddwy chwedl hyn, o bosibl i gomisiwn Hopcyn ap Tomas, noddwr dylanwadol o Gwm Tawe, yn fodd i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa Gymraeg waith na ellir ond ei ddisgrifio fel un o bestsellers yr oesoedd canol.

Gallwn arogli'r gwm pinc yn eu cegau.

Mae'r hanes am Gwm Rhondda yn fwy calonogol o lawer er y buwyd yn hir yn disgwyl ac yn gweithio dros ysgolion Cymraeg uno, ysywaeth.

ia, taranau yn rowlio i lawr o Gwm Silyn.

Llecha dau gwm arall, Cneifion a Chlyd, ar bob llaw a chrognentydd hufennog yn plymio ohonynt i Lyn Idwal.

Roeddem ar Iwybr y rhewlif fu'n crafu a rhwygo'i ffordd yn ara deg o Gwm Idwal i foddi ei hun yn y brif rewlif yn Nant Ffrancon.

Y flwyddyn wedyn, fe gafodd y ddrama ei pherfformio yng Nghwm Aman ac yna yn y Rhondda, yr union gwm lle'r oedd y digwyddiadau wedi eu gosod.

Yr oedd y sŵn mor felys ac mor lleddf, yn atsain ar draws yr hen gwm, a'r cilfachau'n dynwared y canu a'r wylo, a ninnau'n ochneidio fel mewn llesmair wrth ei glywed .

Tilsley â ni i gwm dychmygol yn ei awdl fuddugol, 'Cwm Carnedd' yn Eisteddfod Llangefni, 1957, ond cwm a oedd yn adrodd hanes pob cwm a chwalwyd o ganol y pumdegau ymlaen.

Roedd y rheilffordd i'r Bala wedi ei chau a'i chodi erbyn i mi gyrraedd yr ardal, ac adeiladwyd ffordd newydd sbon drwy Gwm Prysor.

Mae'r creigiau eu hunain yn debyg i'r creigiau a geir i'r gogledd o Ddyffryn Tywi i Gwm Tawe, heblaw eu bod yno yn gorwedd yn weddol daclus o ran oed, un ar ben y llall, o'r Hen Dywodfaen Goch yn y gorllewin i'r Cystradau Glo iau yn y dwyrain.

Bu hwn yn cyd-weithio â Bowser i sefydlu harbwr i allforio'r glo a ddeuai o Gwm Capel a'r mannau eraill.

Rhaid fod y llecyn hwn yn agos i Gwm Croesor ac y mae'n bosibl fod yna groesau eraill gynt yn nodi'r ffin rhwng y ddau blwyf.

Yr oedd rhyw erfyn a distawrwydd llethol wedi meddiannu'r hen gwm i gyd.

Ceir swyn serch arall sy'n dweud y gall bachgen ifanc ennill cariad merch wrth roi darn o wm cnoi iddi ar ôl iddo ddweud cyfrinach ei gariad wrth y gwm.

Mae'r rhain gan April Bowen o Gwm Cynon, Joanne Pate a Mary Moylett, yn wreiddiol o Loegr, ond yn byw ac wedi dysgu Cymraeg yn Aberystwyth.

I'r dwyrain y bu'n syllu gan ddyheu am weld rhywrai yn marchogaeth dros y twyn o Gwm Taf.

Dychwelyd i'r car a gyrru 'mlaen i lawr i Gwm Elan a chymryd y fforch chwith yn y ffordd dros Bontarelan.

Peidiodd Y Rhondda a bod yn gwm diwydiannol a rhannodd gydag ardaloedd tebyg y cyfnewidiadau ysgytiol a ddilynodd gwymp yr hen ddiwydiannau trymion - glo, dur a llechi.

Aeth pethau rhagddynt yn ddigon annwyl a chyfeillgar er i Alun Michael ddweud fod Peter Hain wedi tanseilio" pwysigrwydd gwella ffyrdd y Rhondda mewn ateb i gwestiwn Cymraeg gan Geraint Davies, yr aelod dros gwm enwocaf Cymru.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Dangosodd Bowser ei allu yn gynnar wrth drefnu a mapio ffordd tramiau i gael y glo o Gwm Capel i lawr i afael y gamlas.

Aeth Gwilym R. Tilsley â ni i gwm dychmygol yn ei awdl fuddugol, 'Cwm Carnedd' yn Eisteddfod Llangefni, 1957, ond cwm a oedd yn adrodd hanes pob cwm a chwalwyd o ganol y pumdegau ymlaen.

Roedd Huw yn enwog yn y teulu am ymestyn y gwir, fel gwm cnoi.