Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwna

gwna

Gwnâi ei safn fawr agored iddo ymddangos fel un mewn dirfawr boen, ac edrychodd Dan yn dosturiol arno.

Gwnâi hyn ni'n fechgyn atebol ac iach ac roedd y fagwraeth weithgar a chaled a gawswn i, yn ddiamau, o gymorth mawr ar dreialon dygn fel hyn.

Wrth gwrs, bob tro y gwna hyn, mae'n adelyrchu'n sâl ar ei Arglwydd.

Gwnânt o Langors-fach symbol o'r genedl gyfan.

Gwna i Bob ddiflannu'n sydyn o'r plwyf a dod yn ôl â Margaret yn wraig, ond ni ddywed wrthym ddim i esbonio beth a ddigwyddodd rhyngddynt.

Nid yw pob serch yn brochus ddiwreiddio safonau traddodiadol fel y gwna serch Blodeuwedd a Siwan.

Dywedodd hwnnw y byddai'n rhaid i Waldo ymadael, ond y gwnâi ef ohirio hynny gyhyd ag y gallai.

A dyna ni wedi sôn am Colin Stephens: onid llawenydd pur yw i ddyn weld maswr yn rhedeg fel y gwnâi hwn brynhawn Sadwrn?

A rhinwedd mawr ginseng yw ei fod yn cyflawni hyn heb gynhyrchu sgîleffeithiau annymunol fel y gwna symbylyddion arferol y Gorllewin megis caffîn ac amphetamine.

Hêd y gwcw, gwna un siwrne, Hêd ymhell i'r dwyrain dir, Dal ar linell haul y bore, Ar dy aden dal yn hir; Gerllaw Tigris, er mor anodd, Dyro gân o gôl y gwynt, Yn yr anial, yno tawodd Un a ganodd lawer gynt.

Y mae'r plu chweochrog yn rhan annatod o dymor yr hirlwm a diau y gwna'r eira lawer o les wrth ladd hadau anhwylderau mewn dyn ac anifail a thir.

Weithiau gwnâi rhywun rhyw sylw ffraeth, megis, "Mae'n siŵr dy fod wedi nyddu digon o edafedd i wau siaced am y byd erbyn hyn, Morfudd!" A'i hateb yn ddieithriad fyddai, "Rhyw ddydd, Mr Jones, pan ga'i weill!" A chwyrli%ai'r olwyn bren yn fwy penderfynol fyth.

Dim iws ei roi yn y gwair fel hyn, gwna ryw fath o le iddo orwedd wrth y tân.

Gwna di hynny.' 'Helô 'ma.' Daeth atynt gyda gwydryn hanner peint hanner gwag yn ei law a bwrw ati'n syth bin.

Ond mae'n rhaid fod rhywun wedi dysgu'r dynion ifanc hyn i ymddwyn fel ag y gwnânt.

Bwriad y Ffþl oedd ffrwythloni'r Cadi fel y gwna'r haul a'r glaw y ddaear.

Doedd hi ddim wedi mynd i'r pen arno nes y gwnâi unrhyw ferch y tro.

Ymddengys i ni y buasai unrhyw weinidog yn y wlad hon a ymddygai fel y gwnâi Mr Jones yn rhwym o osod ei hun yn agored i ddisgyblaeth lem.

Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.

Nodwedd arall yn ei gymeriad a'i gwnâi'n fugail effeithiol oedd ei allu i siarad yn ddi- lol â neb pwy bynnag.

Mor wir y cwpled: "Cynnar y gwna'r ddaearen Cyfylhau ifanc fel hen".

Duw a'i gosododd yn y berthynas hon, ac nid Israel ei hun; dyma a'i gwna'n wahanol i'r holl genhedloedd eraill.

Gwna'n siŵr dy fod ti'n cael digon o gwsg, Llio.

Ond roedd hi'n ferch benderfynol, ac yn lle tewi gwnâi fwy o sŵn, a'i hymdrech i gael ein sylw yn fwy taer.

Gwnâi'r peilot bob math of driciau wedyn gan droi a throi fel pry yn yr awyr.

Fel sy'n digwydd yn aml, gwna esgusion lu dros ei ymddygiad yn bersonol ac yn breifat gan ei beio ei hun yn aml.

Gwna hynny ar sail yr elfennau a roes fod iddi, ac yn wyneb rhwystrau sy'n tarddu o'r cefndir hwnnw ac yn arfaeth yn ei bridd.

Felly rwy'n dal i gredu y medr y cadeirydd Cymraeg - onid e, ni fedrai gyflawni ei swydd mor foddhaol ag y gwna.

Ymhen tair blynedd fe'i symudwyd gan yr Esgob William Hughes o Lanelwy i ficeriaeth y Trallwng yn Nyffryn Hafren, symudiad a sicrhaoddd mai yn esgobaeth Llanelwy y gwnâi ei waith mawr, ffaith ddigon eironig o gofio gwrthwynebiad cynnar yr Esgob Hughes, fel rhyw fath o 'enfant terrible' yn yr Eglwys ar y pryd,i gael Beibl Cymraeg o gwbl.

Roedd hi'n noson olau leuad dawel, dyner a dywedodd fy mam os lapiwn fy hun yn ddigon cynnes y gwnâi'r cerdded les i mi.

Gwna fi'n iach, weddusach wawd, O'm anwychder a'm nychdawd.

Roedd efelychu oedolion yn rhan bwysig o addysg y cyfnod, a dis gwylid i fechgyn ddysgu trin arfau'n gynnar iawn, fel y gwnâi Siôn gyda'i fwa bach a'i gleddyf pren (arfer sy'n cyferbynnu'n ddigrif ag ofnusrwydd y plentyn bach).

clywn fi'n dweud wrthyf fy hun, 'paid â ffrwcsio, gwna bethau'n ofalus bendith y tad i chdi.' Cymerais fy rhwyd o'm gwregys a'i hagor.

Byddai'n fwy rhesymol a chyfiawn iddynt ladd y Saeson na lladd yr Almaenwyr, fel y gwnâi'r Gwyddelod.

Sonia'r Beibl am Dduw yn dewis Asyria neu Fabilon i wneud ei waith, ac y mae'n ddigon naturiol credu, fel y gwna rhai, ei fod wedi dewis Groeg a Rhufain hefyd, gyda'u diwylliant cyfoethog, i dasg arbennig.

Dechreuasant gydag ymlyniad wrth y goron Seisnig (a barhâi yn Ffrangeg ei hiaith, fel y gwnâi'r gyfraith Seisnig), ond o hyn y datblygodd ymlyniad wrth Loegr.

Ond, a minnau'n hoffi'r ddau, gwell gennyf ddweud eu tynghedu hwy i wrthbwyso'i gilydd fel y gwna deuddyn tal a byr neu dew a thenau yn rhwymau glân briodas.

Tynnodd yr allwedd o'i phoced ond cyn ei rhoi yn nhwll y clo canodd y gloch fel y gwnâi bob tro ym mhob tŷ i ddangos ei bod wedi cyrraedd.

Os caniatâ Llys yr Eisteddfod i mi ddyfynnu rhai o'r ceisiadau (ac rwy'n siŵr y gwna þ dim ond i mi foesymgrymu yn y ffordd briodol) yna mi gawn ni sbort am fisoedd yn y Gornel 'ma.

Nid fod y gwely hwnnw'n berffaith, oherwydd gan ei fod yn bren gwnâi gartref di-ail i bryfed bychain braidd yn debyg i foch coed.

O geisio ei dehongli yn gysact fel y gwna'r Athro Dewi Z.

Gwnâi hyn bob pnawn Gwener fel cloc.

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Gwnâi hyn iddo deimlo'n anhapus, heb reswm.

Gwnâi Pamela ei siopa ar fore Sul.

Am y llwynog a'r sbort o'i ddal y siaradai'r cwmni wrth y bwrdd mawr, ac felly y gwnâi cymdeithion Harri wrth y bwrdd bach.

Os oeddent am i'w darllenwyr edrych pennod gyfan, yr oedd y cyfeiriad Beiblaidd yn dweud hynny, yn union fel y gwna Llwyd gyda'i gyfeiriad at "Dan.

Ar ei orau, gwnâi i'w wrthwynebwyr edrych yn arbennig o ddi-glem ac anniben.

Os wyt am adael yr efail a'r tŷ a chwilio yn rhywle arall gwna hynny.

Yng ngogledd Cymru, honnai fod athrawon yn perthyn i ddosbarth isaf cymdeithas; gwnâi unrhyw un a allai ysgrifennu, darllen a rhifo y tro.

Gwna dro da neu ddau, fe wnaiff hynny fyd o les i ti, a chodi dy broffil.

Cer i nôl y fen, wnei di, a gwna'n siŵr nad oes neb yn dy wylio.'

roedd yr haul yn uchel yn yr awyr ac roedd debra yn synnu bod y dyn yn darllen papur newydd mewn car poeth yn lle eistedd ar deras y bar fel y gwnâi hi.

'Gwna di fel y mynni di!' gwaeddodd y wraig.

Roedd y plant yn gorfod sefyll yr wythnos yn Aberhonddu, ac arferai bws rhyw fath o lori - ddod lan unwaith yr wythnos i fynd â nhw i'r dre'.' Er hynny, gwnâi'r athrawon eu gorau i ledu gorwelion eu disgyblion, gyda thripiau i Abertawe i ddangos y môr iddynt, neu i weld Cefn Brith.

Nid wyf yn amau dim na chawn ni lawer storm; gorau yn y byd, fe'n gwnânt yn well morwyr.

O'r herwydd, tybiai Saunders Lewis a Maurras, fel y gwna deallusion y Dde yn gyffredinol, mai gelynion Ffrainc a'r gwareiddiad Ewropeaidd oedd Voltaire, Rousseau a Diderot, yr hanesydd rhyddfrydig, Jules Michelet, a llenorion fel Victor Hugo, Emile Zola ac Anatole France; pob un, yn wir, o'r llu ardderchog o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac athronwyr a gytunai â Gruffydd mai 'trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod'.

Ar ei phen ei hun y gwnâi hynny am fod y Sirosis yn eithaf drwg ar ei gwr ar ôl gyrfa hir y tu ôl i'r bar.

Gwnâi bopeth gyda'r fath arddeliad fel pe bai'r byd a'r betws yn dibynnu arno.

Gwna dy ffilm ar-lein dy hunan.

Bu marwolaeth sydyn ei brawd yn ergyd drom iddi, a chydymdeimlwn yn ddwys â hi; ac felly y gwnâi eraill fel yr oedd yn ymddangos; oblegid ``llawer a ddaethant i'w chysuro hi am ei brawd''.

Hynny'n unig a'i gwna'n bosibl inni amddiffyn ein tir, ein diwylliant, ein heconomi a'n pobl yn effeithiol.

'Was, gwna fy march yn barod, Rwy'n cychwyn ar daith.'

Gwna hyn ni i feddwl mai perchenogion y llongau oedd yn gyfrifol am fod y bwyd yn dda neu beidio.

Gweddi: Gwna ni yn barod i adnabod i glywed dy neges di, O

Gwnâi ambell englyn a chân hefyd i foddio ei hun.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Yn ail, gwna ymdrech dda i gysylltu'r drafodaeth ar Llwyd â'r gwaith ysgolheigaidd mewn meysydd eraill sy'n debygol o'n helpu i fantoli'n gywirach arbenigrwydd ei berson a'i gynnyrch.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

Gwnâi hynny trwy anfon llythyrau am gefnogaeth i'r eglwysi, i'r awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, yng Nghymru a thrwy weddill y Deyrnas Gyfunol.

Ond ni fedrai egluro pam nad aethai i dy ei mam fel y gwnâi yn ddieithriad, na pham yr oedd wedi dewis gadael y plant ar ôl, na pham nad oedd ei mam nac un aelod arall o'r teulu wedi clywed gair oddi wrthi.

Mae'r portread yn gwneud tegwch, fel y dylai, ag arbenigrwydd ei waith fel pregethwr a gweinidog ac fe'i gwna'n amlwg iawn ein bod yn delio â dyn o dduwioldeb dwfn a didwyll.

Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

gwna fe nawr ...