Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwneuthurwyr

gwneuthurwyr

Nid ein bod yn chwilio am fargen wrth gwrs, gan fod y bachyn tynnu yn un o'r ategolion pwysicaf y byddwch yn eu prynu.Gwell glynu at rai o'r gwneuthurwyr mwyaf adnabyddus, megis Witter, sy'n darparu gwahanol fodelau ar gyfer gwahanol geir.

Bu'r cydweithio yn dda a rhoddwyd yn hael, a'r cyfan yn rhoi peth ystyr i'r geiriau "gwneuthurwyr y Gair".

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Hyd yn ddiweddar iawn, doedd gwneuthurwyr carafanau ddim yn credu mewn olwynion sbar am ryw reswm anhygoel.

Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.

Ond maen amhosib anwybyddu yr hyn a ddywedodd David Dobson yn y Dail Express yn dilyn y digwyddiad a roddodd gymaint o wefr i ohebwyr a gwneuthurwyr brâs.

Mae digwyddiadau'r flwyddyn a fu wedi tynnu'r gorau unwaith eto o'n newyddiadurwyr a'n gwneuthurwyr rhaglenni mewn radio a theledu - blwyddyn o orchestion cyson a sylweddol.

Bydd angen inni weithio gyda'r Cyngor uchod i sicrhau bod llais effeithiol Gwynedd gyfan yn cael ei gyfleu i sylw gwneuthurwyr penderfyniadau cenedlaethol ar Ofal yn y Gymuned, y Ddeddf Iaith a'r Ddeddf Elusennau.

Trodd Llio'r tudalennau a gwelodd fod rhestr faith o longau a disgrifiad ohonynt - mesuriadau, gwneuthurwyr, mordeithiau a'r hyn a ddigwyddodd iddynt.

Llyfr ydoedd am longau, eu gwneuthurwyr a'u capteiniaid ac roedd ynddo luniau o rai o'r llongau a hefyd adroddiadau manwl o'u teithiau.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).

annog darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni i bortreadu delweddau cadarnhaol tuag at ddefnyddio'r iaith.