Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwraidd

gwraidd

Y tro hwn, gwraidd y cyffro a'r gofid oedd dwy ferch sy'n chwyrli%o drwy fywyd fel corwyntoedd.

Llenyddiaeth yw gwraidd a hanfod y diwylliant Cymraeg o hyd, ac o gyfeiriad llenyddiaeth y mae'r rhan fwyaf ohonom yn dod at fyd y ffilm.

I wella chwydd yn y traed berwid gwraidd yr ysgawen, ei gymysgu gyda hen saim i wneud eli a'i roi ar y traed a'r coesau.

Fel hyn yr arferid gwneud ond heddiw, gydag offer hwylus i wasgu'r sudd allan, hawdd yw cael y sudd amrwd o'r gwraidd.

Yn wir defnyddir y planhigyn yn helaeth yno Yn yr haf mae modd defnyddio'r dail gwyrdd mewn salad neu wedi eu coginio Ac yn y gaeaf ar ôl tyfu'r chicons gellir coginio'r gwraidd fel y gwneir yn gyffredinol yn Ffrainc.

'Roedd y tri chefnder yn disgyn o'r un gwraidd â'r Pêr Ganiedydd ond go brin fod yr un ohonynt yn ymwybodol o'r berthynas.

Deilliai ei awdurdod cynhenid o'r llys, gwraidd pob 'urddas a maeth'.

O ddefnyddio cansenni, dylid eu gosod yn y pridd cyn plannu'r tomatos rhag niweidio'u gwraidd.

Mae calch yn cynnal cytbwysedd asid/alcali yn y pridd fel y gellir amsugno porthiant planhigion, mewn toddiant, trwy flew gwraidd y planhigion.

Man bryfetach yn byw rhwng y rhisgl a'r pren yn bwyta'r nerth cyn iddo gyrraedd o'r gwraidd i'r brigau.

'Gwraidd edn mewn gradd ydwyd', meddai Wiliam Llŷn, 'mwy'n dy ras na mân wŷr wyd'.

O'r gwraidd hwnnw y tyfasai urddas nerth a chyfiawnder dihysbydd a'r gallu i drin a thrafod dynion yn eu cynefin.

Yn yr Almaen a Gwlad Pwyl heddiw defnyddir gwraidd betys a'r sudd ymron yn ddyddiol i hybu gallu'r corff i wrthsefyll afiechyd.