Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrandawiad

gwrandawiad

Cytunodd cadeirydd y tribiwnlys y dylai gwrandawiad llawn gael ei gynnal i honiadau bod y fyddin yn gwahaniaethu'n annheg ar sail hil.

Fe'i perswadiwyd i adael i John Powell, cynrychiolydd y Goron, lywyddu'r achos a chanlyniad y gwrandawiad oedd penderfynu nad oedd gan yr esgob hawl gyfreithiol i feddiannu'r faenor.

a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.

O BEN Y DALAR: Mae ymdrechion yr undebau amaeth i gael yr Ysgrifennydd Gwladol, John Redwood, a'r Gweinidog Amaeth, Gillian Shepard, i ailgyflwyno dipio gorfodol ar gyfer clafr ar ddefaid yn cael peth gwrandawiad.

Mae'r gwrandawiad Uchel Lys yn debyg o bara' diwrnod, wrth i fargyfreithiwr ar ran Sion Aburey ddadlau pwyntiau a allai weddnewid y berthynas rhwng y gwasanaethau cudd a'r bobol.

Ar hyn o bryd, mae gan ddiffinydd, sydd wedi ei gyhuddo o ddwyn, yr hawl i ddewis gwrandawiad o'i achos naill a'i gerbron Llys yr Ynadon neu gerbron rheithgor yn Llys y Goron.

Cofiwch am stori'r dderwen a'r brwyn." Roedd y Groegiaid wrth eu boddau yn clywed stori%au ac yn aml iawn roedd stori%au yn darlunio rhyw agwedd ar fywyd yn cael gwell gwrandawiad na phregethau yr offeiriaid ac areithiau'r gwleidyddion.

Ni fydd Abertawe yn rhy anhapus gyda'r penderfyniad, na'r ffordd maen nhw wedi cael eu trin yn achos y gwrandawiad disgyblu.