Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwreiddio

gwreiddio

'Pa ryfedd', meddai Wiliam Llŷn am ddisgynyddiaeth hynod un o'i noddwyr, 'fod y profiad, ag urddas Duw, yn gwreiddio stad'.

Roedd y ddau gynhyrchiad hwn wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng Nghymru a'i gwerthoedd.

Ceir cyfeiriadau yn yr Hebreaid sy'n ategu fod y syniad hwn wedi gwreiddio ym meddwl yr eglwys fore.

Y mae rhagdybiau ein meddwl a'n gweithredu'n ysgogiadau sylfaenol iawn oherwydd y maent yn gwreiddio yn ngogwydd y galon, yng nghraidd y bersonoliaeth.

Y mae'r llywodraeth yn gresynu nad yw plant yn cael eu gwreiddio'n effeithiol yn Shakespeare a Milton, Keats a Tennyson, Jane Austen a Dickens.

Dywedodd Marx nad grymoedd y tu allan i ddynoliaeth oedd yn penderfynu ei thynged, ond yn hytrach yr oedd y benderfyniaeth honno wedi ei gwreiddio yng ngweithredoedd cymdeithasol pobl.

toriadau wedi'u gwreiddio a ballu.