Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrth

gwrth

Ffurfio'r mudiad gwrth-arfau niwcliar, CND.

Yn eironig ddigon y barnwr yn yr achos hwn yw Baltasar Gozón, yr un barnwr yn gywir a ryddhaodd aelodau o'r mudiad GAL (terfysgwyr gwrth-ETA a ariannwyd gan lywodraeth Sbaen i ladd aelodau o ETA) ar ôl dim ond pum mlynedd o ddedfryd o 100 mlynedd.

Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.

Un o nodweddion mwyaf atgas y criw gwrth-Ewropeaidd sydd yn y Senedd ar hyn o bryd yw y senoffobia sydd yn eu corddi.

Drannoeth dechreuwyd terfysgu yng Nghaerdydd, gyda rhagfarnau gwrth-Tseinfaidd yn dod i'r wyneb.

'Diben y gwersyll yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth,' meddai.

Ei bwrpas oedd, nid yn gymaint i anrhydeddu'r merthyron, ond i ddangos i'r byd fod Rhydychen yn gwrthwynebu safbwynt a gosodiadau gwrth- Brotestannaidd Hurrell Froude.

Y mae cynghorwyr sir Rhydaman, Llafur wrth gwrs, yn eithafol eu gwrth-Gymreigrwydd.

Gellid gwrthod cyflogi rhywun os oedd perygl, yn nhyb yr awdurdodau, y byddai'r person hwnnw yn ymgymryd â gweithgareddau gwrth-gyfansoddiadol yn y dyfodol.

Ym mis Awst, creodd y math o ddelwedd gosod ffiniau/ trwyddedau teithio/ gwrth-Seisnig o'r blaid a fu'n bastwn hwylus yn nwylo beirniaid di-ddeall byth ers hynny.

Cynhaliwyd gwrthdystiadau gwrth-Ffasgaidd ymhobman.

Ond cwyn fwyaf Lisa Williams o Abertawe ynglyn â Jason Rowes oedd ei fod yn mynnu dweud pethau gwrth-Gymreig wrthi hi.

Protestwyr gwrth-apartheid yn protestio yn erbyn taith gan dôm rygbi De Affrica yn Abertawe a Twickenham.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Fe'i magwyd yng Ngorllewin yr Almaen ond mae wedi byw yn Berlin ers y chwedegau pan chwaraeodd ran flaenllaw ym mhrotestiadau gwrth-sefydliad, gwrth- gyfalafiaeth a gwrth-imperialaeth y myfyrwyr yno.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ffurfio'r mudiad gwrth-arfau niwcliar, CND. Tywysog Charles yn derbyn y teitl 'Tywysog Cymru'. Wyth aelod o dîm pêl-droed Manchester United yn marw mewn damwain awyren ym Munich.

Mae'r bobl hynny oedd yn ein gwawdio yn '69 heddiw yn dod atom ar y stryd ac yn ein llongyfarch am gymryd safbwynt gwrth-frenhinol.

Yn aml iawn fe fydd y prentis 'ymosodol' yn ei gael ei hun mewn sefyllfa lle mae wedi aberthu gormod, a'i fyddin bellach yn rhy wan i wrthsefyll gwrth-ymosodiad y gelyn pan ddaw.

I rai haneswyr parchus roedd gwrth-Seisnigrwydd amlwg rhai o'r chwedlau hanes poblogaidd yn peri chwithdod.

Heb unrhyw amheuaeth, yr oedd y Rhyfel yn grwsâd yn erbyn rhuthr y gwrth Dduw Natsi%aidd, a gelyn rhyddid, ond ymofidiodd am fod canlyniadau'r Rhyfel, sef casineb, rhagfarn, bydolrwydd, anobaith, colli ffydd yn Nuw a dyn, pylu'r ddeddf foesol a diystyru'r ysbrydol ar gynnydd.

Fe'i cysylltir â thactegau dan-din a gwrth-genedlaethol adeg ailwampio'r cyfansoddiad ar ddechrau'r wythdegau, pan gafodd Que/ bec ei diystyru'n warthus a'i gadael yn ei gwendid ar noson y 'cyllyll hirion'.

Felly mae peth gwrth-ddweud yn y ddau ond cawn weld yn yr hydref pa ymadrodd i lynu wrtho yn y dyfodol.

Map 1:25,000 o ardal yn Eryri; rhwymiad gwrth-ddðr.

Hanfod arall yw gwrth-ymosod a rhwygo amddiffyn, nid unwaith ond dwywaith neu dair os taw dynar angen.

Ymgyrchoedd comiwnyddol yn Yr Almaen, ac ar yr un pryd teimladau gwrth-Iddewig yn eu hamlygu eu hunain yn y wlad.

Gyda Fabio Cannavaro ac Alessandro Nesta yn dal yr amddiffyn efoi gilydd rwyn gweld nhw jyst yn gwrth-ymosod yn sydyn a dwyn gôl efo Inzaghi a Totti fynyn y blaen.

Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.

Does yna ddim polisi gwrth-Gymreig yma.

Roedd y patrwm yn debyg iawn i chwyldroadau gwrth- imperialaidd y Trydydd Byd.

Gellir cymryd hyn i olygu bod angen sgrifenwyr Cristnogol mawr - megis Pantycelyn - sy'n amlygu pydew bywyd dyn yng ngoleuni cyfiawnder Crist, ond hefyd sgrifenwyr gwrth-Gristnogol sy'n gwrthod Crist ac yn - dewis pechod.

Gorfodwyd arweinwyr yr eglwys, gan syniadau afresymol y damcaniaethau Gnosticaidd, a'u safiad gwrth-ysgrythurol,

Y Tadau Gwrth-Gnosticaidd

Wedi misoedd o weini ar ynnau gwrth-awyrennau, ei waith yn awr oedd peintio darluniau ar waliau cantinau NAAFI Y mae'n debyg fod adran o'r corff hwn wedi mynd i Iwgoslafia'n ddiweddar.

Yn ôl y gwrth-grefyddwyr, gellid rhannu cyfnodau'r byd yn dri - y cyfnod cyn-Gristionogol, y cyfnod Cristionogol, a'r cyfnod ôl-Gristionogol.

Ond dwi'n cofio cyfnod ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd y myfyrwyr Cymraeg yn protestio, roedd rhywun yn cyrraedd adre wedi blino'n lân ar ebychiada' harthiog ambell un gwrth Gymraeg yn y lle 'ma.

Fel y gwyddoch, mae amryw o dai bach bellach yn cael eu paentio â gwrth-graffiti.

`Diben y gwersyll,' meddai, `yw dysgu egwyddorion undod Arabaidd a gwrth-imperialaeth.