Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthodwn

gwrthodwn

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol fach gyflwyno'n effeithiol y Cwricwlwm 'Cenedlaethol'. Mae'n wir na ellid yn rhesymol ddisgwyl gan 2 athro yr amrywiaeth o arbenigedd i gyflwyno ar eu pennau eu hunain yr holl gwricwlwm, ac felly na allai ysgolion bach, yn eu ffurf draddodiadol, gyflwyno'r cwricwlwm yn gyflawn.

Yn sylfaenol, gwrthodwn yr honiad fod ysgolion pentrefol yn broblemau yn hytrach nag yn asedau i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gwrthodwn yr honiad fod cymunedau pentrefol wedi marw ac nad yw felly o bwysigrwydd cymdeithasol gynnal ysgolion pentrefol.

Gwrthodwn yr honiad na all ysgol wledig fach fod yn ysgol dda o ran yr addysg a gynigir.