Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthryfelgar

gwrthryfelgar

Felly, y sglyfaeth gwrthryfelgar, ryden ni'n cwrdd o'r diwedd,' taranodd yr horwth yn wawdlyd.

Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Enghraifft o'r gwrthdaro hwn oedd ymgyrch y merched, a oedd yn rhan o'r ysbryd gwrthryfelgar a ysgubai drwy Ewrop, y chwyldro i ryddhau cymdeithas o afael hualau gormesol y gorffennol.

Priodolwyd cyflwr gwrthryfelgar y boblogaeth i'r ffaith fod cyfryngau addysg yn brin, yn arbennig felly, addysg Saesneg.

Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti.

Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, Prun bynnag a wrandawant ai peidio -- oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt -- fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg.

Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.