Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthsefyll

gwrthsefyll

Fel yn achos pobloedd o bob rhan o Ewrop, bu America yn dynfa anodd ei gwrthsefyll i'r Cymry yn ystod y rhan gyntaf o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn sgil datblygiad y diwydiannau dur a glo, a chwareli llechi ym Mhensylfania.

Gwirioneddau sydd wedi gwrthsefyll rhaib y canrifoedd yn cael eu bygwth, eu darnio au dymchwel mewn cymdeithas syn prysur fynd ai phen iddi.

Druan ohono, nid oedd yn ddigon mawr na chryf i allu gwrthsefyll yr Arolygydd.

Yn hytrach na gwrthsefyll y broses cydweithiai'r Cymry ag ef yn llawen.

Mae John Towers wedi llwyddo o'r blaen i achub y cwmni a gwrthsefyll cau ffatri.

Mae'r siopau hyn yn rhai y mae'r Canadiaid eu hunain yn ymfalchio ynddynt a'r ddau gwmni yn rhai o'r wlad ei hun yn gwrthsefyll cyrch siopau tebyg o'r Unol Daleithiau dros y ffin.

Yn ôl un gred gwnaed pren y groes o'r gerddinen ac mai dyna pam mae'n medru gwrthsefyll holl gynllwynion y Diafol.

Y peryg yw, y bydd yntau hefyd yn methu a gwrthsefyll y demtasiwn i gydio yng nghynffon yr un teigr a'i fam.

Y mae deall sut y mae llong â'i phen wedi ei blannu yng ngwely'r môr yn gallu gwrthsefyll grymusterau organig a mecanyddol yn dal i fod yn gryn ddirgelwch ond yn ddirgelwch, pe'i datrysir, sy'n rhwym o ddweud cymaint am yr hyn a ddigwydd i beirianwaith tanfor diwydiannau y dyfodol ag am draddodiadau morwrol y gorffennol.