Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrthwyneb

gwrthwyneb

"Buasai cau'r swyddfa ym Mangor yn ergyd fawr i ragolygion economi'r ardal, a hefyd yn gwneud drwg i ddelwedd yr Awdurdod wrth gysidro bod sicrwydd clir i'r gwrthwyneb wedi'i wneud yn barod."

Felly, beth bynnag a ddywedir i'r gwrthwyneb, y mae'n cyfrannu i'r diwylliant Saesneg, gan haeddu cerydd ei gyd-Gymry o'r herwydd.

Er hynny, ni chofiaf erioed i mi ddarllen dim di-werth a ddaeth o'i law; i'r gwrthwyneb, gallai ysgrifennu am yr hyn a ymddangosai'n ddi-werth mewn ffordd mor fyw a deniadol fel na ellid ymatal rhag myfyrio ar ei gyfansoddiadau drosodd a thro, gan droi cylchgrawn dros amser yn drysor parhaol i'w anwylo.

Mae'r raddfa hon yn amrywio yn ôl graddfeydd llog morgais ar y pryd, yn cynyddu pan fydd cost benthyca yn cynyddu, ac i'r gwrthwyneb.

Yr oedd Huw Huws yn bopeth gwrthwyneb i Anti Lw; yn smociwr trwm, yn fwytawr harti a di-lol, a gallai greu awyrgylch mewn amser, hwyrach mewn un noson, a yrrai'r foneddiges gymhenllyd honno ar ffo.

India, mi dybiaf, yw'r enghraifft orau i'r gwrthwyneb.

Fe ddywedwyd wrthym flwyddyn yn ôl y byddai'r Cynulliad yn 'aeddfedu i ddwieithrwydd' ond y gwrthwyneb sy'n wir.

Mi awn mor bell a dweud mai'r nofel yw'r ffurf lenyddol Gymraeg fwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwn, a hyn er gwaethaf pob arwydd allanol i'r gwrthwyneb.

I'r gwrthwyneb, fe fyddai rhai'n dweud fod y Cymry eu hunain yn chwarae rhan nid bechan yn llywodraeth Cymru a Lloegr.

y cwbl a wyddent oedd ei fod yn gwisgo siwt drwy 'r wythnos a hen ddillad ar y sul, yn hollol i 'r gwrthwyneb i 'r mwyafrif o drigolion y pentref.

Gwyddom, i'r gwrthwyneb, fod Galilea'n hynod o derfysglyd.

Ond yr hyn a'm tarawodd i, a'r tafod yn y boch, oedd: os yw merched sydd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth yn fwy tebyg i ddynion, ac i'r gwrthwyneb, yna beth felly yw'r anhawster ynglyn ag ordeinio gwragedd yn yr Eglwys Anglicanaidd?

Ychwanegwyd yr iwaleiddio: Y mae aristocratiaeth neu oligarchiaeth, a garfer y gair sy'n well gwrthwyneb i ddemocratiaeth, yn meddwl rheolaeth yr ychydig dros y llawer, yn rhinwedd yr afael gadarnach sydd gan yr ychydig ar bethau materol y byd, ac wrth y pethau materol meddyliaf ei gyfoeth, ei allu cymdeithasol, ei allu politicaidd, ei ddysg, - popeth sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r rhith yr ydym yn byw yn ei ganol.

I'r gwrthwyneb yn wir, egni diorffwys yw craidd popeth, egni cyntafol bod.

I'r gwrthwyneb, yr 'ha ha' ac nid y 'bþ hþ' sy'n atseinio yn fy nghlustiau i'r tro yma.

Does neb yn llwgu yma, i'r gwrthwyneb, ni yw un o'r cenhedloedd cyfoethoca' yn y byd.

Yn gyfangwbl i'r gwrthwyneb gyda Meleri Wyn James.

Yn hytrach i'r gwrthwyneb!

Os mai Arthur ydyw'r Hunan, y tad-maeth ysbrydol a diwylliadol i Culhwch yr Ego, i'r gwrthwyneb, yn y pegwn arall, y mae'r Pencawr.

ond gwelsom drwy ddadeni ffiseg y ganrif hon mai y gwrthwyneb sy'n wir.

Ar y cychwyn yr oedd pobl yn ei chael yn anodd deall pam yr oedd un artist yn talu gwrogaeth i un arall fel hyn ond daeth yn amlwg yn fuan iawn mair gwrthwyneb oedd yn digwydd ac mai arwydd o sarhad nid edmygedd oedd hyn.

I'r gwrthwyneb, mae Duw yn rasol tuag at y briodas oherwydd y Cristion, boed hynny tuag at y priod, neu'r plant.

(Yn Lloegr y gwrthwyneb sy'n digwydd, mae diwylliant yn cael ei ddihidlo o'r sefydliad i lawr.) Ef oedd y llais Cymreig a lefarai dros swyddogaeth cymdeithasol celfyddyd, a bu'n cydweithio â phobl eraill mewn gwahanol feysydd celfyddydol dros y blynyddoedd, gan sefydlu'r mudiad Beca oddeutu ugain mlynedd yn ôl.

I'r gwrthwyneb, eu gwahardd a'u llesteirio a wnaent fel arfer.

gall disgybl sydd yn llwyddo'n well i ysgrifennu stori nag i fynegi barn fod ar ei fantais eleni, ac i'r gwrthwyneb.

Nid ydym yn dweud fod hyn yn anochel - i'r gwrthwyneb, dywedwn fod hyn yn gosod her i ni feddwl a gweithredu o'r newydd er mwyn newid y tueddion ac, fel y gwnaethon ni yn 1984, gosodwn allan ein hargymhellion ni i gyflawni hyn.

Y gwrthwyneb i hyn oedd Tomos Roberts.

"Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith tra byddo ei gŵr yn fyw." Os yw "ded¶tai% yn cyfeirio at gwlwm priodas, byddem yn disgwyl i "ou ded¶tai% (nid yn rhwym) olygu'r gwrthwyneb, sef rhyddid o'r cwlwm priodas.

I'r gwrthwyneb, mynnai'r ddysgeidiaeth swyddogol fod gwerth sacramentaidd arbennig mewn gwrando'r gair heb o anghenraid ei ddeall.