Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwrych

gwrych

Ond yr oedd y cŵn yn awyddus i chwilio ym mhob llwyn o goed ac ym mhob gwrych o gwmpas.

Sawl gwas fferm (os yw'n dal i fodoli) sy'n plygu gwrych yn lle defnyddio fflêl?

Roedd gan Mop wyneb gwritgoch a gwallt fel gwrych heb ei docio, ac roedd gwallt Jaco'n llyfn fel petai can o olew wedi ei dywallt arno.

Mi oedd o'n beth rhyfadd i mi, cerddad drwy un stryd i un arall, ac un arall wedyn - heb olwg o goedan na gwrych yn nunlla.

Anfonodd David Lewis ef at gapel bach y Babell, ble roedd ei fab a ffermwyr eraill wrthi'n torri'r gwrych o amgylch y capel y pnawn hwnnw.

Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.

Oedd hi werth plygu gwrych, rhoi basic slag, agor ffos?

Mi fyddai'r dynion bach od yn gweithio'n galed, yn palu, yn torri'r gwrych, yn hau ac yn chwynnu.

Byddai Miss Jones yn aros yn y fan gysegredig hon ac yn tynnu deilen brifet o'r gwrych, rhoi cusan iddi ac yna ei thaflu'n ôl i ardd yr Arolygydd.

Sylweddolodd mai ysgyfarnogod oedd yn peri'r golled a gosodwyd maglau yn y gwrych terfyn.