Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwych

gwych

Syniad gwych sy'n ychwanegu at gefndir y stori.

Roedd yna ddisgwyl rhywbeth wrthyn nhw cyn y gystadleuaeth ond roedd y perfformiad yma yn un gwych.

Bu'n rhaid iddynt ffoi oherwydd y sefyllfa drychinebus sy'n bodoli yn Zaire, lle'r oeddynt wedi cyflawni gwaith gwych am flynyddoedd.

Maen agoriad gwych i'r sengl.

Heb os amddiffyn gwych ddaeth â'r fuddugoliaeth hon i Gaerdydd.

Yr oedd yn hynafieithydd, llenor, a dramodwr gwych.

Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.

Doedd dim asiantau gwerthu tai yn yr Oesoedd Canol ond mae gennym ni ddisgrifiadau gwych o ambell dy pwysig o'r cyfnod.

Roedd gan yr hogiau lenni du bits ar eu ffenest: syniad gwych Dad oedd yn bwriadu defnyddio'u llofft yn stafell dywyll i ddatblygu lluniau rywbryd, ymhen tuag ugain mlynedd, ar ôl iddyn nhw adael cartre.

Cafwyd dechrau gwych, diweddglo anghredadwy -ond anghofiwch y gweddill.

Gan ddweud mae'n hachubiaeth yw'r gwych Ddafydd Êl.

Dywedodd Catrin Brace, Pennaeth Digwyddiadau egni: "Mae'r rhychwant eang o raglenni mae S4C yn eu darlledu yn cynnig cyfle gwych i dynnu gwylwyr y sianel sydd â diddordebau penodol at deithiau a digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â'r rhaglenni.

Honno gyda llaw oedd gêm gynta Kevin Ratcliffe i Gymru a rhoddodd berfformiad gwych yn marcio dau chwaraewr perycla'r gwrthwynebwyr, Mazny a Nehoda.

"Mae gin i deimlad ein bod ni'n mynd i gal amser gwych efo'n gilydd"

Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.

Ar Ddydd Nadolig hefyd gwelwyd Simon Callow mewn fersiwn cartwn gwych o hanes eithriadol Cervantes Don Quixote, gyda'r actor Paul Bradley (o EastEnders gynt) fel Sancho Panza.

'Mae'r caeau mâs yma yn arbennig o dda - ansawdd gwych.

Ond yn ddiamau y mae yna ganeuon gwych ar y cd.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac maen rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Gwych o gyffelybiaeth yw'r un a geir yn y pennill cyntaf: y tonnau a'r graig yn noethi eu dannedd ar ei gilydd ond heb y mymryn lleiaf o sŵn i'w glywed.

'Mae gen i syniad gwych!' meddai'n llawn cyffro.

Cafodd gwylwyr ledled Prydain gipolwg ar y dathliadau gwych a nododd agoriad y Cynulliad Cenedlaethol gyda The Welsh Assembly - a Nation Celebrates ar BBC Dau, a Starry Starry Night, sef uchafbwyntiaur cyngerdd ym Mae Caerdydd.

Mae'n rhywfaint o syndod nad yw asgellwr dawnus Caerdydd, Craig Morgan, yn cael ffafriaeth ar ôl disglleirio a sgorio dau gais gwych dros ei glwb echdoe.

Penderfyniad gwych.

Cafodd BBC CHOICE Wales ei lansio'n llwyddiannus, gyda mentrau gwych i roi cyfle a phrofiad cyflwyno i dalentau newydd.

Allai neb fod wedi gofyn llawer mwy o'r daith - ennill pum gêm mâs o bump, 32 i 8 oedd cyfanswm y ceisiau, dau berfformiad gwych gan y tîm a sawl unigolyn yn dal y llygad.

Agorodd fflagon o gwrw a mwynhaodd weld cynfaswr Cymru'n sgorio tri chais gwych.

Yn hwyrach yn y dydd, pan gerddodd Robin Stead i'w swyddfa, ei gyfarchiad llawen oedd, 'Gwych dros ben, Rhian.

Er bod swyddogion yn honni bod cyfleusterau "gwych" yno, doedd dim trefniadau pendant ddechrau'r wythnos i gludo pobol yn ôl ac ymlaen.

Un o uchafbwyntiau arall yr wyl oedd animeiddiad gwych o Don Quixote gan Cervantes, gyda lleisiau Sharon Morgan, Yoland Williams a Ray Gravel.

Mewn lle plaen uwchben un porsylîn mewn tþ bach dynion, gwelwyd y llinell broffwydol "Mae dyfodol Cymru yn dy ddwylo di% a gwych iawn hefyd yw'r graffiti hwnnw sy'n magu cynffon wrth i eraill ychwanegu eu sylwadau ato.

Cafodd BBC CHOICE Wales ei lansio'n llwyddiannus, gyda mentrau gwych i roi cyfleoedd a phrofiad cyflwyno i dalentau newydd.

Gellir priodoli llwyddiant y sianel i gorff o gyflwynwyr ymroddedig a hyblyg ynghyd âr cyfleoedd gwych a gynigir ganddi ar gyfer dyfeisgarwch a chreadigrwydd.

Mae'r ddau'n ymladd byth a beunydd yn Ffrainc am fod y Brenin Edward III o Loegr yn mynnu mai fe biau tiroedd arbennig yn Normandi, Anjou ac Aquitaine yn Ffrainc.' 'A beth am y milwyr Ffrengig cyffredin?' 'Maen nhw'n meddwl bod Owain yn filwr gwych.

Cofiaf am rai o'r darlithoedd gwych a gaem yn achlysurol, fel darlith AOH Jarman ar Iwerddon, a darlith H.Francis Jones ar W^yr Llangwm a'r Rhyfel Degwm.

Taboo. Gemau gwych i ddarganfod beth yw safon iaith y ddau.

Cawsom ddarlithwyr, hyfforddwyr gwych yng ngwahanol adrannau byd amaeth ac y mae llawer brawddeg a chyngor yn canu yn y cof o hyd.

Y peth gwych ynglŷn â'r math yma o ardd yw ei bod yn hawdd ei chynnal a gellir ail-blannu pob darn bach yn ôl yr angen.

Sut y cafodd y ddau esgob y fath syniad gwych?

Lluniau gwych eto, ar ffurf "sbecian drwy dwll" i weld pa anifail sydd dros y ddalen.

Y naill yn nofelydd a'r llall yn brifardd y mae Hywel Teifi yn disgwyl pethau gwych ganddynt er nad yw T.

'Fe gafodd Sion Meredith gyfle gwych, ond dyna ydw i'n dda.

Roeddwn i'n meddwl bod hwn yn gyfle gwych i arbrofi a datblygu cynnwys, a dyma pam y gwnes i gomisiynu'r rhaglenni radio.

Toc wedi'r egwyl methodd Josh Low gyfle gwych i dawelu'r dorf.

Dyddiau gwych i gyd.

Paid â Siarad Efo Fi ydyr gân gynta sydd i'w chlywed ar y Cd , syn gopi hyrwyddo, ac maen agoriad gwych ac addawol iawn i'w gyrfa gerddorol.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac mae'n rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Yn amlwg cafodd Dafydd Iwan groeso gwych ond yr oedd hi'n noson lwyddiannus i Ysbryd Chouchen, au caneuon sydd, erbyn hyn, i'w clywed yn aml ar Radio Cymru.

Y mae'n amlwg nad yw pob newid er gwell, ond da o beth oedd nodi prisiau isel cerddoriaeth brintiedig a recordiau CD sydd, hyd yma, wedi osgoi'r fwyell faterol ac sy'n cynnig cyfle gwych i'r brodorion a'r ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r gelfyddyd am arian digon rhesymol yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Mae'r rhain yn swyddi ble mae angen sgiliau uchel a bydd yna gyfleon gwych a dewis o swyddi yn yr ardal.

O gofio am ei yrfa fel seciwlarydd ac fel sosialydd, eironi nid bychan yw ein bod ni Gymry Cymraeg yn ei gofio fel awdur ambell emyn gwych ac awdur Ymneilltuol o wladgarol.

Diwrnod gwych hollol annisgwyl.

Awdl ragorol oedd yr awdl fuddugol, a cheir delweddu gwych a chynganeddu gloyw ynddi.

Dyma gynsall gwych ar gyfer gweddill y gyfres.

Roedd yn bleser gan BBC Choice Wales ddarlledu cyngerdd y ganrif - digwyddiad gala gwych yn nodi agoriad hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r fath hunanfeddiant.

Richard Mills, gerddor gwych ag ydoedd, a ddaeth a phobl y Rhos i afael ar gerddoriaeth glasyrol, ac o dan ei fatwn ef, mae'n debyg, y canwyd y Messeia am y tro cyntaf yn y Rhos.

Rhif oed yr addewid, meddyliodd Willie'n hyderus, addewid o bethau gwych i ddyfod, nid nefoedd niwlog o fyd arall, ond yma o'i gwmpas ac yntau gyda digon o bres yn ei boced i dalu amdano.

Profiad a hanner ac ymarfer gwych i fy Chinese gan nad ydynt yn medru rhyw lawer o Saesneg.

Yn ail, am iddo adeiladu ar y ddysg honno trwy ddarllen yn ddeallus y llwyth llyfrau ar fudiadau a sectau a phersonau canol yr ail ganrif ar bymtheg a gynhyrchwyd gan haneswyr Lloegr yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, corff gwych o waith.

Er mwyn diogelu dyfodol y Boda Tinwen fel aderyn magu ung Nghymru, mae'n bwysig iawn bod gwaith y Gymdiethas er Gwarchod Adar yn parhau, fel y gellir darganfod anghenion ehangach yr aderyn gwych yma, a gweithredu er mwyn cynyddu'r llwyddiant mewn magu.

Rwyf wedi cael diwrnodau o'r fath a haul hyfryd yn cynhesu'r gaeaf, ac yr wyf wedi cael dyddiau gwych wedi i'r bechgyn fod allan yn torri tyllau yn y rhew er mwyn gallu rhoi'r abwyd allan!

'Amseru gwych iawn - mi fedra i gael y plant i orffen y gwaith i mi.

Roedd hwn yn ganlyniad gwych ar ôl perfformiad penigamp gan Gaerdydd.

Yr oedd yn ysgolhaig gwych ac yn hyddysg yn yr ieithoedd clasurol ac ieithoedd diweddarach.

Lle gwych i gyflwyno rhaglen radio yw'r 'Rynek' enfawr - digon o gyfle i ddal sain cefndir prysurdeb y farchnad, clip-clop y ceffylau, y bandiau jazz a'r bandiau sipsi sy'n diddanu'r torfeydd bob Sadwrn.