Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddelig

gwyddelig

Oblegid, yn Shillong, mae'r Hindž o Bengal, y Presbyteriad Cymreig ei osgo, a'r Pabydd Gwyddelig ei addysg, yn cerdded yr un strydoedd â'r Casi sy'n cofio'r Fam Oesol a roes fod i'r llwyth y mae yntau'n perthyn iddo ers cyn co'.

Ar ôl cyrraedd, aem i gyfarfod y myfyrwyr meddygol Gwyddelig a blasu awyrgylch arbennig Dulyn hyd oriau mân y bore.

Gwneir rhan fwyaf o'i gwaith yn y Môr Gwyddelig ac i'r Gorllewin o'r Alban, a gellir ei gweld yn aml o arfordir y Gogledd a Bae Ceredigion.

Cynnwys traddodiadau Cadog Sant a Llancarfan gyfeiriadau at Iwerddon ac at saint Gwyddelig, Finnian Sant yn arbennig.

Ar ôl pymtheng mlynedd yn gweithio yn El Salvador gydag offeiriaid Gwyddelig, roedd tinc y Sbaeneg a'r Wyddeleg i'w clywed yn gymysg â'i hacen Gymreig.

Deilliai'r achosion Gwyddelig fynychaf o gwerylon yn ymwneud â thir a deiliadaeth, neu drais a gyflawnid yn ystod cynhenna parhaus, weithiau dros genedlaethau lawer, rhwng dau deulu.

Gan chwarae ar y gair Maynooth, sef coleg Gwyddelig ar gyfer hyfforddi offeiriaid Pabyddol, galwodd rhywun Littlemore yn Newmanooth.

Cynnig i ddelio ag ychydig egwyddorion sydd yma, "i gychwyn meddwl a thrafodaeth" ynglŷn â'r "egwyddorion a ddylai fod yn bennaf mewn gwareiddiad Gwyddelig".

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

Bu'n hawdd yn wastad i feirniaid gysylltu cenedlaetholdeb Cymreig ag unrhyw fath o genedlaetholdeb a all ddigwydd bod yn niweidiol: yn nes ymlaen, disodlwyd arf cenedlaetholdeb Gwyddelig gan arf Natsiaeth.

Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.

mae'r bardd Gwyddelig, Seamus Heaney, enillydd Gwobr Nobel, yn un o'r rhai syn defnyddior mesur.

Y tro cyntaf cawsom gopi o agenda'r cwrdd gan gyfaill Gwyddelig o gynghorwr a chael gwybod trwy hynny pa bryd y codai cwestiwn Tryweryn, er mwyn inni gael codi yr un pryd.

Dienyddio James Connolly, Roger Casement a chenedlaetholwyr Gwyddelig eraill.

Ar ôl munud neu ddau, fe welwn fod y gyrrwr, o'r enw Sean, yn ŵr diddorol iawn, yn chwaraewr pibau Gwyddelig - ond yn alltud yn Birmingham ac adref am dro i weld ei deulu.

A phasiwyd deddf yr un pryd yn gwahardd pobl Iwerddon rhag defnyddio Gwyddeleg a gwisgo gwisgoedd Gwyddelig.