Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddom

gwyddom

Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.

Gwyddom ei fod yn falch o weld cyfraniadau to ieuanc Carreglefn.

Gwyddom yng Nghymru o brofiad chwerw a phoenus bod mwy i ddemocratiaeth na bwrw pleidlais pob pum mlynedd.

Gwyddom, os tynnir i lawr y babell ddaearol hon yr ydym yn byw ynddi, fod gennym adeilad oddi wrth Dduw, tŷ nad yw o waith llaw, sydd yn dragwyddol yn y nefoedd.' Ie, diddorol yntê?

Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.

Gwyddom fod Llyn yn y blynyddoedd hyn wedi cael cyfle i glywed yr Efengyl Biwritanaidd yn ei phurdeb.

'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.

Galwai laweroedd i'r fenter; a gwyddom i rywrai ymesgusodi rhag ei ddilyn ac i rywrai ymgynnig ac wedyn tynnu'n ôl - y sefyllfa sydd yn gefndir i rai o ddywediadau 'celyd' Iesu megis 'Gad i'r meirw gladdu eu meirw' (Luc ix.

Gwyddom mai'n ddiweddarach ar ei yrfa y cofleidiodd Penri'r golygiadau hynny ond hawdd credu mai yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yng ngholeg Peterhouse, Caergrawnt, y troes yn Biwritan gan mor gryf oedd y mudiad yn y Brifysgol honno.

Gwyddom fwy am gysawdau'r gofod ac am fanion anhygoel fychan y cread nag a wybu unrhyw genhedlaeth o'n blaen.

Hyd y gwyddom, dyma'r peiriant chwilio (search engine) cyntaf i chwilio am safleoedd Cymraeg.

Gwyddom, i'r gwrthwyneb, fod Galilea'n hynod o derfysglyd.

Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.

Gwyddom hefyd pa mor barod yr oedd Evan Jones i roi benthyg arian i'w gwsmeriaid pan fyddai'r esgid fach yn gwasgu, yn ogystal a gadael i ddyled y 'llyfr siop' redeg am flynyddoedd.

Erbyn heddiw gwyddom fod sicori'n cynnwys fitamin A, fitamin B potasiwm, haearn, calsiwm a pheth ffibr yn ogystal â rhyw hanfod chwerw.

Yn y rhan yma o India, beth bynnag, ffurf cwch gwenyn sydd i gytiau'r gwehlion - yr un ffurf a'r tai cynharaf y gwyddom amdanynt yn y Gymry Geltaidd.

Yn wir, am fod y Blaid a'i Llywydd yn wrthgyfalafol y collodd y Llywydd hwnnw ei swydd yn Abertawe; dylanwad cyfalafol, fel y gwyddom, a roes fwyafrif yng Nghyngor y Coleg yn erbyn ei ail benodi i'w ddarlithyddiaeth.

Gwyddom y pryd hynny pa mor brin yw ein nerth a pha mor dlawd yw ein hadnoddau.

Gwyddom fod Edmund Jones, y Transh, wedi ffrwydro mewn cynddaredd yn ei ddyddiadur wrth ddarllen y fath sen ar y dynion da ac ymroddgar a oedd ar y maes cyn bod sôn am Harris.

Gwyddom bellach nad yw ein seren ni (Yr Haul) ond yn un o filiynau o ser sy'n ffurfio galaeth enfawr - Y Llwybr Llaethog.

Gwyddom bellach mai un o blwyf Llanrwst oedd Edmwnd Prys, ac mai yno yr oedd cartref ei dad a'i daid.

Hyd y gwyddom hwn fydd y tro cyntaf i aelod amlwg o'r Blaid Geidwadol i gytuno i siarad mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Gwyddom i Seisyll, abad Ystrad Fflur deithio i Lanbedr Pont Steffan i gyfarfod â Baldwin, archesgob Caergaint pan ddaeth hwnnw ar ei daith enwog trwy Gymru i bregethu'r Drydedd Grwsâd.

Gwyddom yn dda am gytundeb Dydd Gwener y Groglith, a'r wythnos hon, cafwyd dychwelyd i Gynulliad Gogledd Iwerddon ar drothwy'r Dyrchafael.

Gwyddom hefyd fod yn rhaid i eisteddfodau lleol bwyso yn drwm ar ffynnonellau cyhoeddus am gymorth ariannol i gynnal eu gwyliau blynyddol.

Gwyddom fod eithriadau i'w cael.

Y Maiaid, yr Astecs a'r Taltecs yn Ne America ydi'r rhai cynta y gwyddom ni amdanyn nhw i ddarganfod rhinwedda siocled.

Fel y gwyddom yn dda man mae nwydd yn prinhau cyfyd ei bris nes weithiau ei wneud yn brin, neu os parheir i'w ddefnyddio cwyd pris y nwyddau y mae'n rhan ohono tu hwnt i'r hyn mae'r cwmseriaid yn fodlon dalu.

Fel y gwyddom ni yng Nghymru gystal â neb.

Yn anffodus, fel y gwyddom, nid dyna ydi realiti yn ein hysgolion, gydag athrawon yn gorfod ymdrechu a brwydro o dan amgylchiadau anodd a di-gefnogaeth.