Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyddonydd

gwyddonydd

Ond wedyn deuai dadrithio a phortreadu'r gwyddonydd fel bygythiad.

Y mae ôl bysedd ei ffydd ar waith y bardd fel ar waith y gwyddonydd a'r ysgolhaig mwyaf cytbwys.

Mae datblygiad cyfrifiaduron modern wedi bod yn bwysig iawn i gynorthwyo'r gwyddonydd i wneud y dadansoddiadau yma.

Er inni ddisgrifio gwr neu wraig fel "gwyddonydd", nid ydym yn golygu wrth hynny nad ydynt yn ddim byd arall.

Yr oedd ef am sicrhau seiliau athronyddol cadarn i waith y gwyddonydd ond yr oedd hefyd eisiau diogelu lle i'r argyhoeddiadau crefyddool.

Prometheus yn yr awdl yw'r gwyddonydd yn gyffredinol.

Williams (Desin Brynawel), a chyfle arall i Jacob sôn am y gwirionedd a'r gorchwylion o chwilio amdano sy'n gyffredin i labordy'r gwyddonydd a myfyrgell y diwinydd.

Peth arall a ystyrir yn sylfaenol yw, pe byddai un gwyddonydd yn gwneud un mesuriad mewn un labordy, ac un arall yn gwneud yr union fesuriad mewn labordy arall o dan yr union amgylchiadau, yna byddai'r ddau yn cael yr un atebiad.

Ystrad Rhondda Mehefin 9 Eluned Morgan, Aelod o Senedd Ewrop; Jill Evans, Aelod o Senedd Ewrop; Owen T Jones, gwyddonydd a dyn busnes.

Gobeithia barhau gyda'i waith ymchwil mewn mathemateg gymhwysol a'i waith ar fwrdd golygyddol Y Gwyddonydd , ysgrifennu ambell adolygiad a dilyn ei ddiddordeb mewn ieithoedd (cyfieithodd un o ddramau Gogol,Yr Archwilydd i'r Gymraeg yn ddiweddar).

Y mae sicrwydd y gwyddonydd yn gorffwys bellach nid ar unrhyw ddatguddiad dwyfol ond ar effeithiolrwydd y method gwyddonol.

Y gwyddonydd sy'n gyfrifol am ddarganfyddiadau fel nwyon gwenwynig a bomiau atomig, deunydd crai hunllefau'r ugeinfed ganrif.

Y Gwyddonydd - R Tudur Jones

Arwydd dirywiad mewn eglwys, meddai, yw iddi ymyrryd yn y maes gwyddonol er bod crefydd yn faes y gallai'r gwyddonydd gymryd diddordeb ynddo o'i safbwynt ei hun.

Ond yn awr at gyfrifoldeb y Gwyddonydd yn ei Gymdeithas.

Ceid cyfnodau, fel yn Oes Victoria, pan oedd y ffydd yng ngallu'r gwyddonydd ac yng ngallu'r dechnoleg a ddibynnai ar ei waith i ddatrys problemau cymdeithas ac arloesi byd newydd paradwysaidd, yn uchel ei phen.

Awgrymu'r wyf bod angen yr un "weledigaeth" ar ran y gwyddonydd i greu ei sinthesis yntau.

Gall gwraig yr ydym yn ei disgrifio fel "gwyddonydd" fod yn fam, yn chwaer, yn ddiacon mewn eglwys, yn gwsmer mewn siop, yn gerddor, yn aelod o Ferched y Wawr.

Mae'r hen syniad nad oes rhagdybiau gan y gwyddonydd pur bellach wedi ei fwrw o'r neilltu.

Does gan y gwyddonydd ddim rheolaeth ar y defnydd a wna unigolion eraill o'r darganfyddiadau a wnaeth.

Fel pob gwyddonydd, mae cemegwyr yn gwneud popeth i osgoi peryglon diangen.

Gwaith y gwyddonydd yw adeiladu patrwm i uno'r rhain.

Un "jig-saw% mawr yw'r byd, a'r gwyddonydd yn rhoi'r darnau at ei gilydd nes cwblhau'r darlun.

Yr hen ateb, fyddai, mai dysgu am y byd mae'r gwyddonydd; darganfod rheolau natur a thrwy hynny, ei reoli.

Ac eto ni ellir ynysu gwaith y gwyddonydd oddi wrth weddau eraill ar fywyd.

A dyna'n union fel mae'r gwyddonydd yn gweithio; ceisio patrymau sy'n gwneud synnwyr o'r hyn mae'n sylwi arno ac sydd yn ddigon cynhwysfawr i dderbyn y newydd, rhaid chwalu'r patrwm ac adeiladu un arall.

Creadur gwrthrychol, amhersonol, yw'r gwyddonydd ar y model hwn, yn cyfrannu dim at natur y darlun.

Y gwyddonydd oedd yr arwr.

Nid yw'r rhain ymhlith y pethau y gall y gwyddonydd eu trin â'i fysedd, na'u gweld â'i lygaid.

Gweithiwch fel gwyddonydd.

Mae cemegwyr, fel pob gwyddonydd, yn ysgrifennu nodiadau ynghylch eu harbrofion.

Hynny yw, disgrifio ac nid dehongli yw swyddogaeth y Gwyddonydd.

Y mae'n rhaid wrth y ddeubeth, y deunydd crai, neu'r ffeithiau y mae'r gwyddonydd yn eu cael o'r byd o'i gwmpas, yr hyn a wêl y llygad ac a glyw'r glust, a hefyd y peirianwaith cywrain sy'n rhan o gynheddfau'r meddwl i ddosbarthu a threfnu'r deunydd hwn.

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

Cystal i mi gydnabod yn awr mai creadigaethau ein dychymyg ydynt; delweddau i ddisgrifio'r hyn mae'r gwyddonydd wedi sylwi arno yn ei labordy.

Y mae meddwl y gwyddonydd ei hun mor gaeth i reolau ffisegol â symudiad y piston ym mheiriant y car modur, Ar ba sail felly y gellir honni fod unrhyw ddamcaniaeth wyddonol yn "wir".

Pa mor wahanol felly yw'r gwyddonydd a'r bardd, sy'n galw'i sinthesis yn soned neu delyneg, dyweder.

Efallai y teimlwch mod i'n fwriadol danseilio gwyddoniaeth wrth bwysleisio ansicrwydd y cyfryngau a'r mesuriadau a ddefnyddia'r gwyddonydd.

Honnir yn aml mai ceisio'r gwirionedd a wna'r gwyddonydd.

Gwyddonydd oedd Doctor Treharne, a gwyddonydd hefyd oedd ei wraig, Beti.