Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gwyll

gwyll

Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.

Deffrowyd pawb yn y tŷ gan y sŵn a wnai Gwyll, a phan ddaeth y gweision yno gyda'u lampau gwelsant gorff Lowri Cadwaladr eu meistress yn gorwedd yn farw ar y gro o flaen y drws.

Llusgo fi i'r gwyll neon tu ôl i'r caffe a 'nghicio i'n wrymie a chleisie o 'nghorun i'n sawdl, 'y nhrwyn i'n pistyllu gwaed a'n llygaid i fel wystrys.

A 'drychwch welwch chi'r Cerrig Gleision cythril hwnnw yn rwla.' Craffodd William Huws, a'r hwch (ond am resymau gwahanol) drwy ffenestr y bus ac i'r gwyll.

Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.

Mae'r Dylluan Wen yn mynd i hela." Yna diflannodd i'r gwyll a Jean Marcel yn syllu'n geg agored ar ei ôl.

Diflannodd y plant i'r gwyll ac wedi i sŵn eu traed yn printio'r eira ddistewi, daeth Henri o'r cysgodion yn hamddenol, ei wn sten yn ei law.

Dyma enghraifft syml: "Pan lithrai gloywddwr Glaslyn i'r gwyll fel cledd i'r wain".

'Roedd ei ffugenw, 'Un wedi iddi fyned yn nos arno', bron yn hwy na'r gerdd ei hun: Tremiaf, mi ganaf i'r gwyll - Myn diaw, y mae yn dywyll!'

Y tu allan, a'r gwyll yn dyfnhau, dydw i ddim yn credu fod unrhyw ffyrdd go iawn yn cysylltu'r pentrefi a'i gilydd.

Felly fe heriwn ni ysbryd Plas Madyn nos yfory, gan fod yna rai pobl yn dweud fod Lowri Cadwaladr yn dal i farchogaeth Gwyll bob nos am wythnos ar ôl yr W^yl.

Nos dawch.' Gwaeddodd y Paraffîn o sedd y gyrrwr â'i lais yn eco yn y gwyll.

A'r pryd hwnnw y codai ar ei union ac y chwiliai am ei wn, ac er ei bod hi mor dywyll, fe ai ef at ddrws y tŷ, ei luchio'n agored, a saethu'n gib-ddall i'r gwyll hir.

Ond ni ddaeth ateb o'r gwyll, a'r unig beth a glywid oedd y rhwyfau'n dyner sblashio'r dŵr wrth iddynt godi a gostwng am yn ail.